Neidio i'r prif gynnwy

Astudiaeth Achos o Arfer Da – Uned Mamolaeth Ysbyty Bronglais

Rydym am sicrhau bod gwasanaethau gofal iechyd yn myfyrio ar ein gwaith arolygu a sicrwydd ac yn mesur eu gwasanaethau eu hunain yn erbyn y canfyddiadau hyn, er mwyn ysgogi gwelliannau i wasanaethau. Rydym yn gobeithio y bydd modd i'r canfyddiadau o ran arfer da a ddangosir yn yr astudiaeth achos isod gael eu trosglwyddo rhwng sefydliadau, ac ar draws y gwasanaeth iechyd ehangach er mwyn cefnogi gwelliannau mewn systemau.

Uned Mamolaeth - Ysbyty Bronglais

Gwnaethom gynnal arolygiad dirybudd o'r Uned Famolaeth yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, sy'n cael ei redeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Cwblhaodd arolygwyr yr arolygiad dros dri diwrnod dilynol ym mis Awst 2023, gan ganolbwyntio ar ofal cynenedigol, gofal yn ystod y cyfnod esgor a gofal ôl-enedigol.

Yn ystod yr arolygiad hwn, gwelsom dîm o staff ymroddedig a oedd yn ymrwymedig i ddarparu gofal o safon uchel i famau, pobl a oedd yn rhoi genedigaeth, a'u teuluoedd. Gwelodd yr arolygwyr staff ar bob lefel yn gweithio'n dda fel tîm i roi profiad cadarnhaol wedi'i deilwra at yr unigolyn a oedd yn canolbwyntio ar anghenion y menywod a'r bobl a oedd yn rhoi genedigaeth yn eu gofal. 

Roedd yr ymatebion i'n harolwg staff yn gadarnhaol, ac roedd hyn wedi'i adlewyrchu yn ansawdd y gofal a welsom. 

Roedd sylwadau'r staff yn cynnwys y canlynol:

“Rwy'n falch iawn o weithio i'r uned hon. Mae cymaint o ymdeimlad o undod yn ein gweledigaeth a rennir neu o ran darparu gofal gwych i fenywod a'u teuluoedd yn ein cymuned, ac mae pawb yn ymfalchïo yn y gwasanaeth rydym yn ei gynnig.”  “Amgylchedd gwaith gwych gyda gwaith tîm a morâl ardderchog”“Rydym yn gallu darparu gofal diogel ac wedi'i deilwra at yr unigolyn i'n cleifion, gan roi eu hanghenion nhw yn gyntaf a sicrhau eu bod yn rhan o'u gofal a'r penderfyniadau a wneir. Rydym yn gallu darparu gofal un i un yn rheolaidd, ac am ein bod yn dîm bach, rydym yn aml yn gallu cynnig parhad gofal, sy'n rhywbeth cadarnhaol a chalonogol i'r rhai rydym yn gofalu amdanynt ac i ni fel staff hefyd.”

Nodwyd bod llywodraethu ac arweinyddiaeth yn yr uned yn enghraifft o arfer da, a oedd wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar lesiant y staff ac, yn ei dro, ar ansawdd gofal a phrofiad cleifion. 

Gwelodd yr arolygwyr y staff yn darparu gofal parchus a charedig i'r menywod a'r bobl a oedd yn rhoi genedigaeth a'u teuluoedd. Pan ofynnwyd i'r menywod a'r bobl a oedd yn rhoi genedigaeth, roeddent yn gadarnhaol am eu gofal, y staff ac amgylchedd yr uned famolaeth. Gwelsom dystiolaeth bod y rhai ag anawsterau cyfathrebu yn cael eu nodi a'u cefnogi i gael gafael ar wasanaethau drwy'r cynllun pasbort mamolaeth yn effeithiol. Gellir defnyddio'r cynllun ar gyfer pobl niwrowahanol a phobl sydd ag anawsterau dysgu neu unrhyw anawsterau cyfathrebu eraill i gofnodi anghenion cyfathrebu'r rhai sy'n derbyn gofal. Gwelodd yr arolygwyr staff yn siarad Cymraeg a dywedodd y bobl a oedd yn defnyddio'r gwasanaethau wrthym fod y cynnig rhagweithiol ar gyfer y Gymraeg wedi cael effaith gadarnhaol ar eu gofal.

Roedd y staff hefyd yn cael cylchlythyrau mewnol er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am ddatblygiadau newydd a digwyddiadau, ac ati. Gwelsom hefyd dystiolaeth o amrywiaeth eang o gyfleoedd addysgu a dysgu, gan gynnwys sesiynau cinio a dysgu. 

Disgrifiodd y staff ddiwylliant cadarnhaol gydag arweinyddiaeth dda a chefnogol. Roedd strwythur rheoli clir ar waith gyda llinellau adrodd ac atebolrwydd clir. Roedd y rheolwyr yn weladwy, yn hawdd mynd atynt ac yn barod i dderbyn adborth. Roedd tîm sefydlog o staff mamolaeth ynghyd ag ethos tîm cryf ac arweinyddiaeth dosturiol. Nodwyd nad oedd yr uned wedi wynebu'r prinder staff sylweddol sydd wedi'i weld mewn mannau eraill yn y DU. Roedd amrywiaeth o fentrau cefnogol ar waith i sicrhau bod mwy o aelodau iau o'r staff yn cael eu cefnogi gan uwch-aelodau o'r staff. 

Dywedodd pob aelod o'r staff wrthym y gallent godi pryderon i'r staff mamolaeth a'r meddygon ymgynghorol. Roedd hyn yn cael ei gyflawni drwy nifer o brosesau diwylliannol a llywodraethu da. Gwelsom ddiwylliant cefnogol mewn perthynas â dysgu o ddigwyddiadau, er enghraifft rhoi gwybod am ddigwyddiadau yn gyflym, gan gynnwys y rheini lle na fu unrhyw niwed. Y meddygon a'r bydwragedd oedd yn gyfrifol am arwain y broses o ddysgu o ddigwyddiadau a rhannu'r camau nesaf yn eang. Roedd themâu yn cael eu holrhain ac roedd dysgu'n cael ei annog drwy ddiwylliant agored a chefnogol. Dywedodd y staff wrthym fod diwylliant o 'gwblhau'r dasg' h.y. ymateb yn llawn i bryderon a myfyrio arnynt bob amser. 

Roedd enghreifftiau pellach o arfer da yn cynnwys bod yr uned yn rhan o dimau a rhwydweithiau ehangach y bwrdd iechyd, sy'n sicrhau bod yr aelodau o staff sy'n gweithio yn yr uned famolaeth fach yn cael eu cynnwys yn llawn a'u cefnogi yn y rhwydweithiau  mwy. 

Darllenwch adroddiad llawn