Neidio i'r prif gynnwy

Bwletin Arsylwi – Mawrth 2025

Bob chwarter, rydym yn rhannu ein newyddion diweddaraf ac yn tynnu sylw at y themâu allweddol a'r gwersi sy'n deillio o'n gwaith. Mae'n rhan o'n hymrwymiad i ddeall disgwyliadau ein rhanddeiliaid yn well, ymgysylltu'n rhagweithiol, rhannu ein canfyddiadau ac adrodd ar ein gweithgarwch.

Insight Bulletin / Bwletin Arsylwi

Croeso i rifyn Iechyd Meddwl o Fwletin Arsylwi AGIC! 

Bob chwarter, rydym yn rhannu ein newyddion diweddaraf ac yn tynnu sylw at y themâu allweddol a'r gwersi sy'n deillio o'n gwaith. Mae'n rhan o'n hymrwymiad i ddeall disgwyliadau ein rhanddeiliaid yn well, ymgysylltu'n rhagweithiol, rhannu ein canfyddiadau ac adrodd ar ein gweithgarwch. 

Rydym o'r farn bod rhannu gwersi a phrofiadau o'n gwaith yn werthfawr dros ben. Rydym am i wasanaethau gofal iechyd fyfyrio ar ein canfyddiadau a mesur eu gwasanaethau eu hunain yn erbyn y rhain er mwyn sbarduno gwelliannau i wasanaethau. Rydym yn gobeithio y bydd modd i'r canfyddiadau a ddangosir yn y bwletin hwn gael eu trosglwyddo rhwng sefydliadau, ac ar draws y gwasanaeth iechyd ehangach er mwyn cefnogi gwelliannau ym mhob rhan o'r system.

Yn y bwletin hwn, byddwn yn archwilio ein gwaith mewn perthynas ag iechyd meddwl yn fanwl, gan roi sylw arbennig i'r canlynol: 

Fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i welliant parhaus, rydym wedi cyhoeddi cyfres o adroddiadau sy'n tynnu sylw at feysydd i'w gwella ac arferion da o bob rhan o'r GIG a darparwyr gofal iechyd annibynnol. 

Rydym yn gobeithio y bydd cynnwys y bwletin hwn yn addysgiadol ac yn llawn gwybodaeth. 

Mae eich adborth yn hollbwysig i ni er mwyn gwella'r ffordd rydym yn cyfathrebu ac yn rhannu negeseuon allweddol â chi, felly beth am achub ar y cyfle i rannu eich adborth â ni drwy ddefnyddio'r arolwg hwn. 

Diolch.

Alun Jones Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Y Diweddaraf ar Waith Iechyd Meddwl

Sut mae gwasanaethau gofal iechyd, gwasanaethau addysg a gwasanaethau plant yn cefnogi anghenion iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru? 

Aeth yr adolygiad ar y cyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), ac Estyn ati i ystyried sut mae gwasanaethau gofal iechyd, gwasanaethau addysg a gwasanaethau plant yng Nghymru yn cefnogi anghenion iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Cydnabu'r adroddiad y cynnydd mewn gwasanaethau cymorth cynnar ac atal ond nododd hefyd fylchau sylweddol o ran darparu gofal arbenigol amserol a chyson. Mae galw sylweddol am Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) o hyd, ac nid oedd llawer o blant yn gallu cael y cymorth roedd ei angen arnynt am fod mwy o alw na'r capasiti sydd ar gael ac oherwydd meini prawf cymhwystra anghyson er mwyn cael gafael ar CAMHS. Roedd plant niwroamrywiol a phlant sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn wynebu rhwystrau ychwanegol wrth iddynt geisio cael cymorth gan nifer o wasanaethau, a hwythau ag anghenion cymhleth pan oeddent yn ceisio cymorth yn aml. Er gwaethaf yr heriau hyn, roedd ymroddiad timau CAMHS, awdurdodau lleol, addysg a'r sector gwirfoddol yn amlwg. Mae'r adroddiad yn galw am systemau gwell a dulliau gwell o weithio mewn partneriaeth er mwyn sicrhau y gall holl blant Cymru gael y cymorth iechyd meddwl sydd ei angen arnynt, ar yr adeg gywir. 

Monitro Ysbytai Iechyd Meddwl, Ysbytai Anableddau Dysgy a'r Ddeddf Iechyd Meddwl Adroddiad Blynyddol 2023 - 2024

Adroddiad Blynyddol ar Fonitro Iechyd Meddwl 2023-24 

Mae ein Hadroddiad Blynyddol ar Fonitro Iechyd Meddwl 2023-24 yn tynnu sylw at weithgareddau arolygu a chanfyddiadau ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu ledled Cymru. Mae monitro Deddf Iechyd Meddwl 1983 yn gyfrifoldeb statudol sydd wedi'i ddirprwyo i AGIC ers 1 Ebrill 2009 gan Weinidogion Cymru, pan gafodd y cyfrifoldeb dros fonitro swyddogaethau'r Ddeddf ei drosglwyddo o Gomisiwn y Ddeddf Iechyd Meddwl. 

Mae'r adroddiad yn nodi bod prinder staff a chynnydd parhaus yn y galw am wasanaethau yn heriau sylweddol sy'n effeithio ar ganlyniadau cleifion. Er gwaethaf adborth cadarnhaol ar broffesiynoldeb a thosturi staff, mae angen gwneud gwelliannau sylweddol mewn meysydd megis recriwtio'r gweithlu, rheoli meddyginiaethau, arsylwi ar gleifion a llywodraethu. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi cynnydd mewn cwynion a cheisiadau am Feddygon a Benodwyd i Roi Ail Farn. Pwysleisiodd y Prif Weithredwr Alun Jones yr angen am welliannau parhaus er mwyn gwella ansawdd a diogelwch gofal cleifion. 

Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid Adroddiad Monitro Blynyddo ar gyfer Gofal Cymdeithasol a Iechyd 2023 - 2024

Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid 

Ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), rydym wedi cyhoeddi'r adroddiad monitro blynyddol ar sut mae'r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid yn cael eu defnyddio yng Nghymru. Mae Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid yn cynnig amddiffyniadau cyfreithiol hanfodol ar gyfer rhai o'n dinasyddion mwyaf agored i niwed ac mae'r trefniadau diogelu hyn yn bodoli er mwyn diogelu a chynnal hawliau dynol nad oes ganddynt y galluedd meddyliol i wneud rhai penderfyniadau am eu gofal a'u triniaeth. 

Mae ein canfyddiadau allweddol yn dangos bod byrddau iechyd wedi gweld cynnydd nodedig mewn ceisiadau am Drefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid, tra bo awdurdodau lleol wedi gweld gostyngiad bach. Mae'r system yn parhau i wynebu heriau sylweddol ac mae llawer o bobl agored i niwed yn wynebu cryn oedi cyn cael eu hasesiadau ar gyfer Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid, ac eir y tu hwnt i'r terfynau amser statudol yn rheolaidd. Mae'r achosion hyn o oedi yn golygu bod pobl ledled Cymru yn cael eu hamddifadu o'u rhyddid heb drefniadau diogelu priodol ar hyn o bryd. 

Mae'r adroddiad hwn yn nodi cynnydd a heriau parhaus mewn perthynas â diogelu hawliau pobl agored i niwed. 

Camau dilynol mewn perthynas â'r adolygiad iechyd meddwl o ofal mewn argyfwng

Ym mis Mawrth 2022, gwnaethom gyhoeddi adroddiad yn dilyn ein Hadolygiad Cenedlaethol o Atal Argyfwng Iechyd Meddwl yn y Gymuned.  Yn yr adroddiad, nodwyd sawl problem sylweddol o fewn y system cymorth iechyd meddwl ac, yn benodol, y bwlch mewn gwasanaethau ar gyfer unigolion y mae angen mwy na chymorth safonol gan Feddyg Teulu arnynt ond nad ydynt yn bodloni'r meini prawf ar gyfer gwasanaethau arbenigol. Roedd gan feddygon teulu ddiffyg ymwybyddiaeth o wasanaethau cymorth amgen yn aml, ac mae'r prosesau atgyfeirio beichus yn arwain at oedi, gan beryglu cymorth amserol a dwysáu cyflyrau iechyd meddwl unigolion o bosibl. 

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi monitro cynnydd byrddau iechyd ac mae'n galonogol nodi bod y cynnydd cyffredinol o ran cyflawni camau gweithredu yn gadarnhaol ar y cyfan. Mae byrddau iechyd wedi dechrau symleiddio prosesau atgyfeirio ar gyfer pob gwasanaeth ac mae byrddau iechyd wedi dechrau gwella eu hymdrechion i ddarparu cyngor a gwybodaeth fwy amserol a chliriach i unigolion sydd ag anghenion iechyd meddwl. 

Ewch i'n gwefan i ddarllen y canfyddiadau llawn. 

Dysgu a Dealltwriaeth

Heatherwood Court Ysbyty Iechyd Meddwl

Astudiaeth Achos o dan y Chwyddwydr - Gwasanaethau Iechyd Meddwl Heatherwood Court ym Mhontypridd wedi'u His-gyfeirio o fod yn ‘Wasanaeth sy'n Peri Pryder’ yn Dilyn Gwelliannau 

Cynhaliodd arolygwyr AGIC ddau arolygiad dirybudd o wasanaethau iechyd meddwl Heatherwood Court ym mis Mehefin a mis Medi 2024 mewn ymateb i ddigwyddiadau yn yr ysbyty.

Yn ystod yr arolygiad ym mis Mehefin 2024, ni chawsom sicrwydd fod y prosesau a oedd ar waith yn ddigonol o ran rheoli'r risg y gallai cleifion gael niwed pan oeddent yn destun arsylwadau manylach, ac roedd cynlluniau gofal y cleifion yn gyffredinol eu natur yn aml ac nid oeddent yn cynnwys ymyriadau wedi'u personoli. Yn ystod yr arolygiad ym mis Medi 2024, roedd yn gadarnhaol gweld cynnydd sylweddol ers yr arolygiad cyntaf. Roedd y camau gweithredu a gymerwyd gan y gwasanaeth wedi arwain at ddull mwy trefnus o reoli risgiau a gwneud penderfyniadau gwell ar sail gwybodaeth er budd y cleifion.

Mae'r cynnydd a wnaed yn Heatherwood Court yn galonogol, ac rydym yn awyddus i roi sylw i astudiaeth achos yn y bwletin hwn. Ewch i'n gwefan i weld ein hastudiaeth achos lawn ar gyfer yr adolygiad hwn.

Diweddariad ar Weithgarwch

Gweithgarwch Sicrwydd ac Arolygu

Rydym yn arolygu gwasanaethau'r GIG ac yn rheoleiddio darparwyr gofal iechyd annibynnol yn erbyn amrywiaeth o safonau, polisïau, canllawiau a rheoliadau er mwyn nodi meysydd y mae angen eu gwella. Yn dilyn ein gwaith arolygu a sicrwydd, byddwn yn cyhoeddi adroddiad sy'n amlinellu ein canfyddiadau a'n hargymhellion.

Mae'r adroddiadau arolygu gwasanaethau iechyd meddwl diweddaraf yn cynnwys:

Mawrth 2024 - Ysbyty Coed Du Hall - Mae angen gwneud gwelliannau sylweddol mewn ysbyty iechyd meddwl yn yr Wyddgrug

Ebrill 2024 - Ysbyty Tŷ Glyn Ebwy - Arolygiad yn canfod gofal o safon dda mewn ysbyty anhwylderau bwyta arbenigol yng Nglynebwy

Mehefin a Medi 2024 - Ysbyty Heatherwood Court- Gwasanaethau Iechyd Meddwl Heatherwood Court ym Mhontypridd wedi'u His-gyfeirio o fod yn ‘Wasanaeth sy'n Peri Pryder’ yn Dilyn Gwelliannau

Gorffennaf 2024 - Uned Iechyd Meddwl Hafan y Coed, Ysbyty Athrofaol Llandochau - Angen gwneud gwelliannau ar unwaith mewn Uned Iechyd Meddwl arbenigol yng Nghaerdydd

Medi 2024 - Ward Bryngolau, Ysbyty Tywysog Philip - Angen gwella Ward Iechyd Meddwl arbenigol yn Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli

Gellir dod o hyd i'r holl adroddiadau a gyhoeddwyd yma: Dod o hyd i adroddiad arolygu.

Os ydych am gael gwybod pryd y caiff adroddiadau AGIC eu cyhoeddi, edrychwch ar ein Hamserlen gyhoeddi.

Diweddariad Pwysig – Ailgylchu mewn ysbytai

O fis Ebrill 2026, bydd angen i ysbytai ddidoli eu gwastraff i'w ailgylchu yn unol â'r holl fusnesau, elusennau a sefydliadau sector cyhoeddus eraill yng Nghymru.

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru y gyfraith ailgylchu yn y gweithle ym mis Ebrill 2024 i wella faint o ailgylchu a gesglir, ei ansawdd a sicrhau ei fod yn cael ei reoli'n gyson. 

O dan y gyfraith, mae ysbyty wedi'i ddiffinio fel:

(a) unrhyw sefydliad ar gyfer derbyn a thrin personau sy'n dioddef o salwch,

(b) unrhyw gartref mamolaeth, ac

(c) unrhyw sefydliad ar gyfer derbyn a thrin personau sy’n ymadfer neu bersonau y mae angen adsefydlu meddygol arnynt, ac mae’n cynnwys clinigau, fferyllfeydd ac 
adrannau cleifion allanol a gynhelir mewn cysylltiad ag unrhyw gartref neu sefydliad o’r fath, a rhaid dehongli "llety ysbyty" yn unol a hynny. 

Os yw'r diffiniad hwn yn berthnasol i chi, o fis Ebrill 2026 ymlaen bydd gofyn i chi wahanu'ch gwastraff. Os nad yw'r diffiniad hwn yn berthnasol i chi, dylech fod yn gwahanu'ch gwastraff yn ôl y gyfraith yn barod. Os nad ydych, rhaid i chi wneud hynny nawr. Mae hwn yn gam hanfodol wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur, drwy ein helpu i leihau gwastraff a helpu economi Cymru ar yr un pryd.

Gellir dod o hyd i fanylion ynghylch sut i gydymffurfio yngNghod Ymarfer Llywodraeth Cymru: https://www.llyw.cymru/casglu-deunyddiau-gwastraff-ar-wahan-ar-gyfer-ailgylchu-cod-ymarfer 

Ewch i llyw.cymru/ailgylchu-yn-y-gweithle i ddarganfod rhagor.

Gweminar Gweithredu cyfraith ailgylchu yn y gweithle ar gyfer ysbytai – dydd Mercher 19 Mawrth 2025, 2yp

Bydd y weminar hon, a gynhelir gan WRAP, yn darparu gwybodaeth i sicrhau bod pob ysbyty (y GIG a rhai preifat) yn gwbl ymwybodol o'r gofynion a'r newidiadau y bydd angen i chi eu gwneud. Gallwch hefyd gyflwyno cwestiynau pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer y weminar. 

Ewch i wefan WRAP i gofrestru

Oes angen i chi gofrestru â ni?

Cwestiynau Cyffredin

Awyddus i gofrestru â ni neu am ofyn cwestiwn? Mae'n bosibl y gallwch ddod o hyd i'r atebion sydd eu hangen arnoch yn ein cwestiynau cyffredin ar gofrestru!

Cymerwch olwg ar y rhain cyn cyflwyno eich ffurflenni cofrestru neu ddiwygio eich cofrestriad cyfredol. 

Dweud eich Dweud

Have Your Say

Rydym am glywed eich barn! Mae amrywiaeth o arolygon cleifion yn weithredol ar hyn o bryd ar ein gwefan, ac rydym yn croesawu eich barn.

Gellir dod o hyd i'r holl arolygon gweithredol ar ein tudalen arolygon.

Oes gennych chi funud? Hoffem glywed eich barn am ein Bwletin Arsylwi – dim ond ychydig o gwestiynau sydd i'w hateb!