Neidio i'r prif gynnwy

Bwletin Arsylwi – Mehefin 2024

Bwletin Arsylwi  / Insight Bulletin

 

Croeso i'n rhifyn diweddaraf o Fwletin Arsylwi AGIC

Bob chwarter, rydym yn rhannu ein newyddion diweddaraf ac yn tynnu sylw at themâu allweddol a gwersi a ddysgwyd sy'n codi yn ein gwaith. Mae'n rhan o'n hymrwymiad i ddeall disgwyliadau ein rhanddeiliaid yn well, mynd ati i ymgysylltu, rhannu ein canfyddiadau ac adrodd ar ein gweithgarwch.

Rydym yn credu ei bod yn werthfawr iawn rhannu gwersi a ddysgwyd a phrofiadau o'n gwaith. Rydym am i wasanaethau gofal iechyd fyfyrio ar ein canfyddiadau a mesur eu gwasanaethau eu hunain yn erbyn y canfyddiadau, er mwyn sbarduno gwelliannau i wasanaethau. Rydym yn gobeithio y bydd modd i'r canfyddiadau a ddangosir yn y bwletin hwn gael eu trosglwyddo rhwng sefydliadau, ac ar draws y gwasanaeth iechyd ehangach er mwyn cefnogi gwelliannau ym mhob rhan o'r system.

Yn y bwletin hwn, rydym yn tynnu sylw at rôl a swyddogaeth ein tîm Uwchgyfeirio a Gorfodi. Rydym hefyd yn rhannu themâu allweddol yr Uwchgynadleddau Gofal Iechyd diweddar ac yn tynnu sylw at feysydd o arfer da yn dilyn arolygiad diweddar yn Adran Achosion Brys Ysbyty Athrofaol Cymru.

Mae'r ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn gyfnod prysur i AGIC, yn enwedig mis Mai pan wnaethom gyhoeddi tri darn pwysig o waith. Y cyntaf o'r rhain oedd Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 2024 – 2028, sef strategaeth a ddatblygwyd ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Mae'r strategaeth yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i ymgorffori ystyriaethau'n ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein gwaith a'n sefydliad i gyd.

Gwnaethom gyhoeddi ein Hadolygiad Cenedlaethol o Benderfyniadau Peidiwch â Dechrau Adfywio Cardiopwlmonaidd (DNACPR), a oedd yn ystyried a yw cleifion yn cael eu cynnwys yn weithredol wrth wneud penderfyniadau ynghylch DNACPR ac a yw'r penderfyniadau hynny'n cael eu cofnodi a'u cyfleu'n glir rhwng gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Cafodd ein Cynllun Gweithredol ar gyfer 2024-2025 ei gyhoeddi ym mis Mai hefyd. Mae'r cynllun yn amlinellu'r blaenoriaethau a'r camau gweithredu rydym wedi eu gosod i ni ein hunain er mwyn helpu i gyflawni ein gwaith, wrth i ni ddechrau trydedd flwyddyn, a blwyddyn olaf, ein Cynllun Strategol

Mae eich adborth yn hollbwysig i ni er mwyn gwella'r ffordd rydym yn cyfathrebu ac yn rhannu negeseuon allweddol â chi, felly beth am achub ar y cyfle i roi eich adborth ar y Bwletin Arsylwi hwn, gan ddefnyddio'r arolwg hwn.

Diolch.

Alun Jones - Prif Weithredwr - Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Diweddariad Busnes

Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 2024 – 2028

 

Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 2024 – 2028

Ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Cymru, rydym wedi cyhoeddi ein Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar y Cyd ar gyfer 2024 – 2028.

Bydd y strategaeth ar y cyd yn ategu cynlluniau cydraddoldeb Llywodraeth Cymru, a bydd yn ceisio cyd-fynd â chynlluniau sydd eisoes yn bodoli a gwneud cysylltiadau rhyngddynt (megis Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a Chynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru er enghraifft), gan ymhelaethu ar groestoriadedd bywydau a phrofiadau pobl.

Bydd y strategaeth yn cynnig cyfleoedd newydd er mwyn helpu i leihau anghydraddoldebau mewn gwasanaethau gofal iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plantNod y strategaeth hon yw sbarduno gwelliannau a dangos ein hymrwymiad i egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, er mwyn mynd i'r afael â'n cyfrifoldebau cymdeithasol fel rheoleiddwyr ac arolygiaethau i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu cael gafael ar ofal o ansawdd da.

Dysgwch fwy: Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar y Cyd 2024 – 2028.

Cynllun Gweithredol 2024 - 2025

Cynllun Gweithredol 2024 – 2025

Rydym bellach wedi cyhoeddi ein Cynllun Gweithredol diweddaraf ar gyfer 2024 – 2025.

Mae'r cynllun eleni yn adeiladu ar ein datblygiadau trwy ddysgu rhagweithiol a thrwy wrando'n ofalus ar adborth ar sut rydym yn cyflawni ein gwaith. Mae pobl wrth wraidd yr hyn rydym yn ei wneud, ac mae'n bwysig ein bod yn ymdrechu i rannu'r hyn a ddysgwn, i fyfyrio ar yr hyn sydd wedi gweithio'n dda ac i roi'r hyn rydym wedi'i ddysgu ar waith er mwyn parhau i wella. Trwy'r cynllun hwn, bwriadwn ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, er mwyn ein helpu i asesu ansawdd a hygyrchedd gofal iechyd i bawb ledled Cymru.

Darllenwch ein cynllun yn llawn

Icons of book in hand, cogs turning and a group of people on light green background

Uwchgynhadledd Gofal Iechyd 

Cynhelir Uwchgynadleddau Gofal Iechyd ddwywaith y flwyddyn er mwyn hwyluso trafodaeth rhwng cyrff archwilio, arolygu, rheoleiddio a gwella. Maent yn darparu fforwm rhyngweithiol i rannu gwybodaeth am ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal iechyd a ddarperir gan GIG Cymru. 

Roedd y themâu allweddol a'r heriau parhaus yn system gofal iechyd Cymru a ddaeth i'r amlwg yn ein huwchgynhadledd fwyaf diweddar ym mis Mai yn cynnwys: prinder staff a'r effaith ar wasanaethau (yn enwedig gwasanaethau mamolaeth); heriau o ran cael apwyntiadau meddyg teulu neu ddeintyddol; amseroedd aros hir a gorlenwi mewn adrannau achosion brys; amseroedd aros hir am apwyntiadau a thriniaethau i gleifion allanol; nifer cynyddol o heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd (heintiau a gafwyd wrth dderbyn triniaeth feddygol); amseroedd aros hir am wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed; ac am asesiadau niwroddatblygiadol.

Caiff y themâu allweddol sy'n dod i'r amlwg ym mhob Uwchgynhadledd eu rhannu â Phrif Weithredwr GIG Cymru.

Darparodd yr Uwchgynhadledd Gofal Iechyd lwyfan gwerthfawr i ddysgu ar y cyd a thrafod pryderon allweddol yn system gofal iechyd Cymru. 

Ymunwch â Ni!

Rydym yn recriwtio adolygwyr cymheiriaid!

Dewch yn Adolygydd Cymheiriaid

Rydym wrthi'n recriwtio Adolygwyr Cymheiriaid. Gweithwyr iechyd proffesiynol o amrywiaeth o arbenigeddau o bob cwr o Gymru yw Adolygwyr Cymheiriaid.

Fel arfer mae Adolygwyr Cymheiriaid yn rhan o dîm amlddisgyblaethol ac mae eu gwybodaeth a'u harbenigedd yn sicrhau bod ein gwaith yn seiliedig ar arferion a phrofiad cyfredol. Caiff y gwaith hwn ei gynnal wyneb yn wyneb neu, weithiau, o bell.Mae hyn yn ein helpu i amlygu arferion da ac i atgyfnerthu a rhannu Safonau Gofal Iechyd o fewn y GIG a'r Sector Gofal Iechyd Annibynnol er mwyn rhoi sicrwydd i'r cyhoedd a gwasanaeth gwell i gleifion.

Rydym yn darparu rhaglen sefydlu gynhwysfawr o bell a chyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sut i wneud cais, ar ein gwefan.

Diweddariad ar Weithgarwch

Gweithgarwch Sicrwydd ac Arolygu

Rydym yn arolygu gwasanaethau'r GIG ac yn rheoleiddio darparwyr gofal iechyd annibynnol yn erbyn amrywiaeth o safonau, polisïau, canllawiau a rheoliadau er mwyn nodi meysydd y mae angen eu gwella. Yn dilyn ein gwaith arolygu a sicrwydd, byddwn yn cyhoeddi adroddiad sy'n amlinellu ein canfyddiadau a'n hargymhellion.

Mae'r prif gyhoeddiadau diweddaraf yn cynnwys:

Gellir dod o hyd i'r holl adroddiadau a gyhoeddwyd yma: Dod o hyd i adroddiad arolygu.

Eisiau gwybod pryd y bydd adroddiadau AGIC yn cael eu cyhoeddi? Edrychwch ar ein Hamserlen Gyhoeddi.

 

Inspectors with clipboards, map of wales and checklist on clipboard on orange background

 

Tîm Uwchgyfeirio a Gorfodi

Mae tîm Uwchgyfeirio a Gorfodi AGIC yn arwain gweithgarwch uwchgyfeirio a gorfodi mewn perthynas â'r GIG, gofal iechyd annibynnol a deintyddiaeth breifat yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys dechrau a chynnal ymchwiliadau troseddol mewn perthynas â darparwyr anghofrestredig.

Rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y darparwyr gwasanaethau estheteg anghofrestredig. Gallwn ddechrau cymryd camau troseddol mewn perthynas â'r gwasanaethau hynny sy'n gweithredu heb gofrestriad. Rydym yn annog pawb i roi gwybod am ddarparwyr anghofrestredig, gan fod cofrestru ag AGIC yn ofyniad cyfreithiol, ac mae hefyd yn gam tuag at sicrhau bod darparwyr yn gweithio mewn ffordd ddiogel a chyfreithlon yn unol â'r safonau sefydledig.

Defnyddio neu brynu laser?

Ydych chi'n defnyddio Laserau ac IPL ar gyfer Triniaeth yng Nghymru? Dyma'r hyn mae angen i chi ei wybod

Os ydych yn bwriadu defnyddio laserau Dosbarth 3B/4 neu Oleuni Pwls Dwys (IPL) ar gyfer triniaethau, mae'n bwysig cadarnhau ag AGIC a oes angen cofrestriad. 

Eisoes wedi cofrestru ag AGIC? Hyd yn oed os ydych eisoes wedi cofrestru ag AGIC, bydd angen i chi roi gwybod i ni os byddwch am ddefnyddio IPL a/neu laserau dosbarth 3B/4 newydd neu wahanol.

Angen Cofrestru? Ddim yn siŵr a oes angen i chi gofrestru eich dyfais? Llenwch ffurflen gyflym, a bydd tîm Cofrestru AGIC yn rhoi cymorth i chi.

Map of Wales with magnifying glass on green background

 

Adolygiad Cenedlaethol o Benderfyniadau Peidiwch â Dechrau Adfywio Cardiopwlmonaidd (DNACPR)

Ar 23 Mai, gwnaethom gyhoeddi adroddiad yn nodi canfyddiadau ein hadolygiad o benderfyniadau Peidiwch â Dechrau Adfywio Cardiopwlmonaidd (DNACPR) i Oedolion yng Nghymru.

Ystyriodd yr adolygiad a yw cleifion yn cael eu cynnwys yn weithredol wrth wneud penderfyniadau ynghylch DNACPR ac a yw'r penderfyniadau hynny'n cael eu cofnodi a'u cyfleu'n glir rhwng gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Mae ein canfyddiadau yn tynnu sylw at enghreifftiau clir o arfer canmoladwy ledled Cymru, fodd bynnag, mae lle i wella. Yn benodol, gwelsom fod angen gwella prosesau cyfathrebu am benderfyniadau ynghylch DNACPR ar draws timau gofal iechyd, a gyda chleifion a'u hanwyliaid, i sicrhau bod pobl yn deall y rhesymau am y penderfyniad a'r cynlluniau ar gyfer gofal yn llawn.

Darllenwch grynodeb o'n canfyddiadau.

Emoji at desk with grey waves and thumbs up and thumbs down coming from head

Adolygiad Cenedlaethol o Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed

Rydym yn arwain adolygiad ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Cymru ac Estyn i werthuso pa mor dda y mae gwasanaethau gofal iechyd, gwasanaethau addysg a gwasanaethau plant yn cefnogi anghenion iechyd meddwl plant a phobl ifanc ledled Cymru.

Mae ein hadolygiad yn canolbwyntio ar blant 11 – 16 oed mewn addysg orfodol, a thrwy waith ymchwil ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, rydym yn gobeithio ateb y cwestiwn:

  • Sut mae gwasanaethau gofal iechyd, gwasanaethau addysg a gwasanaethau plant yng Nghymru yn cefnogi anghenion iechyd meddwl plant a phobl ifanc, pan fyddant yn aros am asesiad, neu'r rhai nad ydynt yn bodloni'r meini prawf ar gyfer ymyriad gan wasanaethau CAMHS arbenigol?

Mae ein harolygon ar gyfer yr adolygiad hwn bellach wedi cau. Diolch i bawb a rannodd ein postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol ac adnoddau eraill yn ymwneud â'r adolygiad hwn; rydym yn fodlon iawn ar lefel yr ymateb.

Daw'r adolygiad i ben drwy gyhoeddi adroddiad cenedlaethol ar y cyd yn ystod hydref 2024.

Am ragor o wybodaeth, ewch i'n gwefan.

HIW stand at Royal College of Midwives Conference

Cynhadledd Dydd Gŵyl Dewi Coleg Brenhinol y Bydwragedd

Aethom i Gynhadledd Dydd Gŵyl Dewi Coleg Brenhinol y Bydwragedd, yng Ngwesty'r Angel yng Nghaerdydd. Thema'r gynhadledd eleni oedd 'Mamolaeth Gynhwysol yng Nghymru'. Roedd y gynhadledd yn cynnwys amrywiaeth o siaradwyr diddorol a drafododd bynciau fel gwella ein hymwybyddiaeth o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle, ymwybyddiaeth ddiwylliannol, meithrin dealltwriaeth well o'r gymuned LHDTCRhA+, benthyg croth, niwroamrywiaeth a gweithio ym maes gofal iechyd mewn perthynas â'r Gymraeg.

Drwy'r digwyddiad hwn, cawsom gipolwg gwerthfawr ar wasanaethau mamolaeth ledled Cymru, yn ogystal â dealltwriaeth well o'r heriau a wynebir gan fenywod a phobl sy'n rhoi genedigaeth.

Dysgu a Dealltwriaeth

Rhannu dysgu a dealltwriaeth er mwyn gwella gofal iechyd

Astudiaeth Achos o dan y Chwyddwydr ar Arfer Da – Adran Achosion Brys Ysbyty Athrofaol Cymru

Cwblhaodd Arolygwyr AGIC arolygiad dirybudd o Adran Achosion Brys, Uned Penderfyniadau Clinigol ac Adran Achosion Brys Pediatrig yr ysbyty ar dri diwrnod dilynol ym mis Mawrth 2024.

Roedd yn gadarnhaol gweld bod llawer o welliannau wedi cael eu gwneud ers ein harolygiad blaenorol ym mis Mehefin 2022, a nodwyd sawl maes o arfer da.

Roedd meysydd penodol o arfer da yn cynnwys gallu'r adran i reoli'r galw uchel a'r pwysau a oedd arni (drwy'r gwasanaeth Parth Asesu a Thrin yn Gyflym); y staff parchus a chyfeillgar a oedd yn darparu gofal o ansawdd uchel; a'r iaith Gymraeg yn cael ei hyrwyddo ar draws yr adran.

Tynnodd ein harolygiad blaenorol sylw at yr angen i wella trefniadau atal a rheoli heintiau. Aethpwyd i'r afael â'r materion hyn drwy'r gwaith diweddar i adnewyddu'r uned, ac adleoli'r ardaloedd clinigol. Roedd strwythur rheoli addas ar waith, roedd staff newydd wedi'u recriwtio i rolau hanfodol, ac mae mentrau wedi cael eu rhoi ar waith i wella cyfraddau cadw staff, gan gynnwys llwybr sefydlu ar gyfer staff newydd.

Darllenwch ein hastudiaeth achos

Dweud eich Dweud

Rydym am glywed eich barn! Ewch i'n gwefan lle mae nifer o arolygon i gleifion ar agor ar hyn o bryd. Rydym yn croesawu eich barn.

Mae pob arolwg sydd ar agor gennym bellach ar gael ar dudalen arolygon.

Munud i'w sbario? Hoffem gael eich barn chi ar ein Bwletin Arsylwi – dim ond ychydig o gwestiynau a dyna'r cyfan!

Groups of people and speaker phone on blue background