Neidio i'r prif gynnwy

Camau cyfreithiol wedi'u cymryd yn erbyn darparwr heb ei gofrestru

Yn dilyn ymchwiliad troseddol diweddar yn ymwneud â gwasanaeth heb ei gofrestru, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi rhybudd o ganlyniad i dorri Deddf Safonau Gofal 2000.

Fel rheoleiddiwr gwasanaethau gofal iechyd annibynnol yng Nghymru, mae AGIC yn ymrwymedig i weithredu pan na chaiff safonau eu cyrraedd. Pan na fydd darparwr gofal iechyd annibynnol yn cydymffurfio â gofynion rheoliadol, byddwn yn gweithredu.

Mae'n ofynnol i ysbytai, clinigau ac asiantaethau meddygol annibynnol gofrestru ag AGIC. Cyhoeddwyd y rhybudd hwn ar ôl iddi ddod i'r amlwg bod y lleoliad yn gweithredu heb gofrestriad.

Os ydych yn bwriadu defnyddio gwasanaeth gofal iechyd annibynnol, cadarnhewch fod y gwasanaeth hwnnw wedi'i gofrestru ag AGIC gan ddefnyddio'r cyfleuster chwilio ar ein gwefan. Os na allwch ddod o hyd i'r gwasanaeth neu os oes gennych wybodaeth am ddarparwr gofal iechyd heb ei gofrestru yng Nghymru, hoffem glywed gennych chi.

Caiff gwasanaethau gofal iechyd eu darparu mewn sawl ffordd wahanol, a hynny gan amrywiaeth o weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Os bydd unrhyw amheuaeth ynghylch yr angen i gofrestru, fe'ch cynghorir i gysylltu ag AGIC i gael cyngor drwy gwblhau a chyflwyno Ffurflen Ymholiad Cofrestru.