Ym mis Mawrth 2022, gwnaethom gyhoeddi adroddiad yn dilyn ein Hadolygiad Cenedlaethol o Atal Argyfwng Iechyd Meddwl yn y Gymuned.

Yn yr adroddiad, nodwyd sawl problem sylweddol o fewn y system cymorth iechyd meddwl ac, yn benodol, y bwlch mewn gwasanaethau ar gyfer unigolion y mae angen mwy na chymorth safonol gan Feddyg Teulu arnynt ond nad ydynt yn bodloni'r meini prawf ar gyfer gwasanaethau arbenigol. Roedd gan feddygon teulu ddiffyg ymwybyddiaeth o wasanaethau cymorth amgen yn aml, ac mae'r prosesau atgyfeirio beichus yn arwain at oedi, gan beryglu cymorth amserol a dwysáu cyflyrau iechyd meddwl unigolion o bosibl.
Mae'r themâu allweddol a nodwyd yn sgil ein gwaith yn cynnwys:
- Dulliau ymgysylltu a chyfathrebu gwell: Roedd angen gwella'r prosesau cydgysylltu a chyfathrebu rhwng gwahanol wasanaethau er mwyn diffinio atgyfeiriadau brys yn glir ac osgoi oedi diangen
- Cymorth ar ôl argyfwng: Er bod yr ymateb cychwynnol i argyfyngau yn ddigonol ar y cyfan, yn aml ceir oedi wrth ddarparu cymorth parhaus yn dilyn yr ymyriad mewn argyfwng, gan arwain at gylchoedd atgyfeirio mynych
- Aneffeithlonrwydd prosesau atgyfeirio: Mae aneffeithlonrwydd mewn prosesau atgyfeirio uniongyrchol yn rhoi pwysau ychwanegol ar adrannau achosion brys, gan beri oedi wrth ddarparu cymorth iechyd meddwl hanfodol
- Rheoli gwasanaethau brys: Nodwyd enghreifftiau cadarnhaol mewn gwasanaethau brys lle mae gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol yn rheoli galwadau, sy'n golygu y caiff unigolion gymorth amserol drwy gyngor dros y ffôn ac y cânt eu cyfeirio'n briodol, ond roedd hyn yn anghyson ledled Cymru
- Sefydliadau'r trydydd sector: Mae'r sefydliadau hyn yn darparu cymorth gwerthfawr ond maent yn wynebu aneffeithlonrwydd am nad ydynt yn gallu atgyfeirio'n uniongyrchol at wasanaethau arbenigol
- Monitro iechyd corfforol: Roedd diffyg eglurder o ran y cyfrifoldeb am fonitro iechyd corfforol ymhlith cleifion iechyd meddwl, gan effeithio ar brosesau rheoli iechyd cyffredinol
- Mentrau cadarnhaol: Mae camau cadarnhaol yn cynnwys pwyntiau mynediad unigol ar gyfer gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol arbenigol, rolau Ymarferwyr Iechyd Meddwl lleol, a ‘lleoedd diogel’ ar gyfer cymorth byrdymor mewn argyfwng. Fodd bynnag, nid oedd y mentrau hyn yn cael eu rhoi ar waith yn gyson ar draws pob rhanbarth.
Ar y cyfan, er bod ymroddiad ymhlith staff i ddarparu gofal effeithiol ac amserol, roedd angen gwella dyluniad ac effeithlonrwydd gwasanaethau er mwyn cefnogi unigolion yn well ac atal argyfyngau iechyd meddwl.
Nododd yr adroddiad 19 o argymhellion ar gyfer gwella, ac roedd yn ofynnol i sefydliadau gyflwyno cynllun gwella i AGIC mewn ymateb i'r rhain. Diben hyn oedd sicrhau eu bod yn ymdrin â'r materion a godwyd yn ein hadolygiad.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf ers cyhoeddi'r adroddiad, rydym wedi monitro cynnydd byrddau iechyd mewn perthynas â phob cynllun gwella. Gwnaethom gynnal proses ddilynol dau gam i adolygu cynnydd pob bwrdd iechyd o ran ei gynllun gwella, gan ddadansoddi'r cynnydd ar gyfer yr ail gam o gymharu â cham un, a gwblhawyd ddiwedd ar yr haf yn 2024.
Mae'n galonogol nodi bod cynnydd pob bwrdd iechyd mewn perthynas â chwblhau camau gweithredu yn gadarnhaol ar y cyfan. Mae'r meysydd allweddol lle roedd camau gweithredu ar gyfer gwella wedi cael eu rhoi ar waith yn llawn ac mewn modd amserol ym mhob bwrdd iechyd yn cynnwys y canlynol:
Mae byrddau iechyd wedi dechrau gwella trefniadau er mwyn caniatáu i weithwyr gofal sylfaenol proffesiynol gael gafael ar gyngor arbenigol amserol ar gyflyrau, triniaethau a meddyginiaethau ar gyfer iechyd meddwl, gan felly wella effeithiolrwydd gwasanaethau gofal sylfaenol i reoli achosion iechyd meddwl yn raddol.
Mae cynlluniau'n cael eu hymgorffori i wella cyfranogiad y trydydd sector a chamau i ymgysylltu ag ef, er mwyn creu ystod ehangach o gymorth ar gyfer unigolion y mae angen gwasanaethau iechyd meddwl a llesiant arnynt a phwysleisio argaeledd rhwydweithiau cymorth eraill i gleifion.
Mae byrddau iechyd yn symleiddio prosesau atgyfeirio ar gyfer pob gwasanaeth ac yn sefydlu pwynt mynediad unigol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl amrywiol. Bydd hyn yn helpu i symleiddio'r broses atgyfeirio ac yn darparu opsiynau gwell i gleifion ac atgyfeirwyr.
Mae'r ffordd y caiff gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru eu meincnodi yn gwella er mwyn tynnu sylw at arferion da a mentrau cadarnhaol, sy'n golygu y gellir rhannu gwybodaeth a gwersi gwerthfawr ar draws rhanbarthau.
Mae ffocws o'r newydd ar fynediad at dimau argyfwng iechyd meddwl ar gyfer gwasanaethau brys a fydd yn helpu'r timau hyn i gynnig cyngor a chymorth amserol i unigolion sydd ag anghenion iechyd meddwl brys. Mae ymgorffori hyn yn llawn yn hanfodol ar gyfer sefyllfaoedd brys. Mae staff iechyd meddwl yn cael eu hintegreiddio mewn timau sy'n ymdrin â galwadau brys ledled Cymru, gan helpu i ddarparu cyngor a chymorth cynnar i unigolion y mae angen gofal iechyd meddwl brys arnynt. Mae hyn yn cynnwys gwasanaeth ffonio 111 a phwyso 2 y GIG er mwyn gwella'r ymateb i argyfyngau iechyd meddwl.
Mae byrddau iechyd wedi dechrau gwella eu hymdrechion i ddarparu cyngor a gwybodaeth fwy amserol a chliriach i unigolion sydd ag anghenion iechyd meddwl. Bydd hyn yn helpu i godi ymwybyddiaeth pobl o'r gwasanaethau cymorth ychwanegol sydd ar gael iddynt yn y gymuned, gan gynnwys y rhai a gynigir gan y trydydd sector.
Er bod nifer o fyrddau iechyd wedi cwblhau eu holl gamau gweithredu bron, roedd camau gweithredu'n weddill gan y rhan fwyaf o fyrddau iechyd, felly mae angen gwneud ymdrech ychwanegol i ymdrin â'r rhain a sicrhau bod y camau gweithredu yn gynaliadwy.
Mae'n rhaid i fyrddau iechyd sefydlu prosesau clir i sicrhau bod asesiadau iechyd corfforol a gwaith monitro yn cael eu cwblhau ar gyfer partïon perthnasol o dan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. Mae gwella prosesau cyfathrebu rhwng byrddau iechyd a gwasanaethau meddygon teulu yn hanfodol ac mae'n rhaid cynnal hyn er mwyn cefnogi a gwella cyngor iechyd meddwl a phrosesau atgyfeirio amserol.
Mae angen gwneud gwaith o hyd i gryfhau cysylltiadau rhwng pob gwasanaeth er mwyn gwella mynediad a darpariaeth i unigolion y mae angen cymorth iechyd meddwl arnynt. Hefyd, mae'n rhaid sefydlu prosesau dilynol cadarn er mwyn sicrhau y darperir gofal amserol a phriodol i unigolion sy'n cael ymyriad mewn argyfwng ond nad ydynt yn cael eu derbyn i'r ysbyty wedi hynny. Dylai byrddau iechyd hefyd adolygu a theilwra gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol er mwyn canolbwyntio ar anghenion unigol, gyda'r nod o atal iechyd meddwl rhag dirywio a darparu cymorth amserol ym mhob gwasanaeth cymunedol.
Er bod ymdrechion i gryfhau trefniadau cydweithio â sefydliadau trydydd sector yn gwella, mae angen ffocws o'r newydd er mwyn hwyluso atgyfeiriadau uniongyrchol at wasanaethau iechyd meddwl y GIG pan fo angen. Mae'r broses o roi pwyntiau mynediad unigol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl ar waith yn gwella ledled Cymru ond mae'n rhaid cynnal hyn er mwyn sicrhau bod cymorth a gofal teg a phrydlon ar gael i unigolion sydd ag anghenion iechyd meddwl. At hynny, mae'n rhaid i fyrddau iechyd barhau i ganolbwyntio ar integreiddio rolau ymarferwyr iechyd meddwl fel rhan o lwybr iechyd meddwl di-dor.
Yn olaf, mae angen lleoedd diogel teg y gellir cael mynediad iddynt yn hawdd yn y gymuned ar gyfer oedolion sydd ag anghenion iechyd meddwl brys, er mwyn darparu opsiwn amgen tawel yn lle cael eu derbyn i'r ysbyty neu alw ar y gwasanaethau brys. Dylai byrddau iechyd hefyd ystyried mesurau ychwanegol i godi ymwybyddiaeth o gymorth iechyd meddwl ar gyfer dynion lle mae synio am hunanladdiad ar ei uchaf a, thrwy hynny, hybu eu llesiant a'u cyfeirio at wasanaethau priodol.
Byddwn yn ymgymryd â chamau dilynol pellach maes o law gyda'r bwrdd iechyd nad yw wedi ymateb eto lle roedd nifer o'r argymhellion heb eu cwblhau, neu roedd camau gweithredu'n mynd rhagddynt.
Ar y cyfan, tynnodd yr adolygiad gwreiddiol sylw at y bylchau critigol a'r meysydd i'w gwella o fewn gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru. Mae'r gwaith monitro a'r prosesau dilynol parhaus i adolygu'r camau gweithredu yn dangos ymrwymiad cryf i fynd i'r afael â'r materion a nodwyd a gwella ansawdd gofal iechyd meddwl. Er bod y rhan fwyaf o'r byrddau iechyd wedi gwneud cynnydd canmoladwy, mae angen parhau i weithio a chanolbwyntio ar yr argymhellion anghyflawn er mwyn darparu cymorth iechyd meddwl cynhwysfawr.