Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau i Ymgeiswyr

Mae darparu neu reoli gwasanaeth y mae'n ofynnol ei gofrestru heb gael ei gofrestru ag AGIC yn drosedd o dan Adran 11 o Ddeddf Safonau Gofal 2000. Gall methu â chofrestru pan fo angen arwain at gymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn.

Felly, mae'n bwysig eich bod yn penderfynu p'un a yw'n ofynnol i chi gofrestru'r gwasanaeth rydych am ei ddarparu neu ei reoli cyn i chi gyflwyno cais i gofrestru ag AGIC ai peidio.

Gofal iechyd annibynnol

Wrth benderfynu pa wasanaethau gofal iechyd annibynnol y mae'n ofynnol iddynt gofrestru â ni, mae'n rhaid i ni ystyried Deddf Safonau Gofal 2000 a Rheoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011.

Mae AGIC yn cofrestru darparwyr a rheolwyr y mathau canlynol o wasanaethau gofal iechyd annibynnol yng Nghymru:

  • Ysbytai annibynnol
  • Clinigau annibynnol
  • Asiantaethau meddygol annibynnol

Isod ceir enghreifftiau o wasanaethau y gall fod angen eu cofrestru (fel canllaw yn unig y dylid defnyddio'r isod). Mae Rheoliadau 3, 4 a 5 o Reoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011 yn disgrifio'r eithriadau i gofrestru. Cynghorir darparwyr i gwblhau a chyflwyno ffurflen ymholiad cofrestru er mwyn i ni allu cadarnhau p'un a oes angen iddynt gofrestru ai peidio.

Practis deintyddol preifat

Wrth benderfynu pa bractisau deintyddol y mae'n ofynnol iddynt gofrestru â ni, mae'n rhaid i ni ystyried Deddf Safonau Gofal 2000 a Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017.

Mae AGIC yn cofrestru darparwyr a rheolwyr gwasanaethau deintyddol preifat yng Nghymru

Isod ceir enghreifftiau o wasanaethau y gall fod angen eu cofrestru (fel canllaw yn unig y dylid defnyddio'r isod). Mae Rheoliad 4 o Reoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017 yn disgrifio'r eithriadau i gofrestru. Cynghorir darparwyr i gwblhau a chyflwyno ffurflen ymholiad cofrestru er mwyn i ni allu cadarnhau p'un a oes angen iddynt gofrestru ai peidio.

Ysbytai annibynnol a chlinigau annibynnol

Er mwyn cael eich dosbarthu fel ysbyty annibynnol neu glinig annibynnol, rhaid darparu gwasanaethau o sefydliad. Mae AGIC yn ystyried ‘sefydliad’ yn adeilad ffisegol sydd â rhywfaint o sefydlogrwydd a threfn o ran pa mor aml y darperir y gwasanaeth yn yr adeilad hwn.

Enghreifftiau:

  • Mae gwasanaeth sy'n cael gwared ar datŵs drwy ddefnyddio laser a ddarperir o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9:00am a 5:00pm mewn uned fanwerthu ar brydles neu mewn salon dan berchnogaeth yn awgrymu bod trefniadau parhaol a threfnus ar waith. Felly, mae sefydliad yn bodoli. 
  • Efallai na fyddai'r un gwasanaeth a ddarperir ar sail ad hoc mewn nifer o wahanol unedau manwerthu yn awgrymu bod trefniadau parhaol a threfnus ar waith. Felly, efallai nad oes sefydliad yn bodoli.

Rhaid darparu'r gwasanaeth yn rheolaidd hefyd. Mae AGIC yn ystyried y caiff gwasanaethau eu darparu'n ‘rheolaidd’ os cânt eu darparu o leiaf bob mis.

Ysbyty Annibynnol

Mae Deddf Safonau Gofal 2000 yn disgrifio ysbyty annibynnol fel a ganlyn:

     a) an establishment

  •  the main purpose of which is to provide medical or psychiatric treatment for illness or mental disorder or palliative care; or
  • in which (whether or not other services are also provided) any of the listed services are provided;

     b) any other establishment in which treatment or nursing (or both) are provided for persons liable to be detained under the Mental Health Act 1983.

Mae Deddf Safonau Gofal 2000 a Rheoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011 yn disgrifio ‘gwasanaethau rhestredig’ fel a ganlyn:

  • Medical treatment under anaesthesia or intravenously administered sedation
  • Dental treatment under general anaesthesia
  • Obstetric services and, in connection with childbirth, medical services
  • Termination of pregnancies
  • Cosmetic surgery (other than ear and body piercing, tattooing, the subcutaneous injection of a substance or substances into the skin for cosmetic purposes and the removal of hair roots or small blemishes by the application of heat using an electric current)
  • Treatment using prescribed techniques or prescribed technology (including treatment using Class 3B or 4 laser equipment, treatment using an intense pulsed light, circumcision of male children by a health care professional, haemodialysis or peritoneal dialysis, endoscopy, hyperbaric therapy and in vitro fertilisation techniques).

At ei gilydd, mae AGIC yn ystyried sefydliadau nad ydynt yn rhan o'r GIG yng Nghymru sy'n darparu'r gwasanaethau canlynol:

  • Triniaeth feddygol neu seiciatrig neu ofal lliniarol ynghyd â gwelyau (dros nos) i gleifion mewnol
  • Gwasanaethau rhestredig (p'un a ddarperir gwelyau i gleifion mewnol ai peidio)
  • Triniaeth neu ofal nyrsio (neu'r ddau) ar gyfer unigolion a allai gael eu cadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.

i fod yn ysbytai annibynnol y mae'n ofynnol i ddarparwyr a rheolwyr gyflwyno cais i gofrestru â ni lle mae rhaid i gofrestriad gael ei gymeradwyo cyn y gellir darparu gwasanaethau.

Yn eu plith mae:

  • Ysbytai preifat sy'n darparu amrywiaeth o wasanaethau gofal iechyd i gleifion mewnol a chleifion allanol, yn debyg i'r rhai sydd ar gael yn ysbytai'r GIG
  • Hosbisau
  • Ysbytai iechyd meddwl
  • Salonau harddwch sy'n defnyddio cyfarpar laser Dosbarth 3B neu 4 i gael gwared ar datŵs a/neu i drin unrhyw gyflyrau eraill ar y croen
  • Clinigau lle mae gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn enwaedu bechgyn
  • Clinigau sy'n darparu IVF.

Noder: Er efallai nad yw'r gwasanaeth yn ysbyty annibynnol, mae'n bosibl y bydd dal angen iddo gofrestru fel clinig annibynnol neu asiantaeth annibynnol (gweler isod)

Clinigau annibynnol

Mae Deddf Safonau Gofal 2000 yn disgrifio clinig annibynnol fel a ganlyn:

an establishment of a prescribed kind (not being a hospital) in which services are provided by medical practitioners (whether or not any services are also provided for the purposes of the establishment elsewhere).

But an establishment in which, or for the purposes of which, services are provided by medical practitioners in pursuance of the National Health Service Act 2006 or the National Health Service (Wales) Act 2006 is not an independent clinic.

Diffinnir ymarferydd meddygol yn Rheoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011 fel ymarferydd meddygol cofrestredig. Diffinnir ymarferydd meddygol cofrestredig yn Atodlen 1 o Ddeddf Dehongli 1978 fel "a fully registered person within the meaning of the Medical Act 1983 who holds a licence to practice under that Act".

Mae person sydd wedi'i gofrestru o dan Ddeddf Feddygol 1983 yn feddyg sydd wedi'i gofrestru â'r Cyngor Meddygol Cyffredinol.

Mae AGIC yn ystyried gwasanaethau meddygol fel y gwasanaethau hynny y mae'n ofynnol iddynt gael ymarferydd meddygol sydd wedi'i gofrestru â'r Cyngor Meddygol Cyffredinol er mwyn darparu gwasanaethau o'r fath.

At ei gilydd, mae AGIC yn ystyried sefydliadau yng Nghymru:

  • Pan gaiff gwasanaethau meddygol preifat yn unig eu darparu'n rheolaidd gan ymarferwyr meddygol

i fod yn glinigau annibynnol y mae'n ofynnol i ddarparwyr a rheolwyr gyflwyno cais i gofrestru â ni lle mae rhaid i gofrestriad gael ei gymeradwyo cyn y gellir darparu gwasanaethau.

Yn eu plith mae:

  • Ystafell ymgynghori lle darperir gwasanaethau meddyg teulu preifat
  • Clinig lle mae llawfeddyg ymgynghorol yn gweld cleifion cyn ac ar ôl llawfeddygaeth gosmetig mewn ysbyty preifat.

Noder: Er efallai nad yw'r gwasanaeth yn glinig annibynnol, mae'n bosibl y bydd dal angen iddo gofrestru fel asiantaeth annibynnol (gweler isod).

Fel rheol, nid oes angen i wasanaethau a ddarperir mewn sefydliadau yng Nghymru gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill (nad ydynt wedi'u cofrestru â'r Cyngor Meddygol Cyffredinol) gofrestru ag AGIC, oni bai bod gwasanaeth rhestredig yn cael ei ddarparu.

Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill yn cynnwys y canlynol:

  • Nyrsys sydd wedi'u cofrestru â'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
  • Optometryddion ac optegwyr cymwysedig sydd wedi'u cofrestru â'r Cyngor Optegol Cyffredinol
  • Osteopathiaid sydd wedi cofrestru â'r Cyngor Osteopathig Cyffredinol
  • Ceiropractyddion sydd wedi'u cofrestru â'r Cyngor Ceiropracteg Cyffredinol
  • Fferyllwyr sydd wedi'u cofrestru â'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol
  • Ceiropodyddion, podiatryddion, ffisiotherapyddion, deietegwyr, fferyllwyr cymorth clyw, therapyddion galwedigaethol, parafeddygon a seicolegwyr sydd wedi'u cofrestru â'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.

Gweler y rhestr lawn o broffesiynau yn: https://www.hcpc-uk.org/

Asiantaeth Feddygol Annibynnol

Mae Deddf Safonau Gofal 2000 yn disgrifio asiantaeth feddygol annibynnol fel a ganlyn:

an undertaking (not being an independent clinic or an independent hospital) which consists of or includes the provision of services by medical practitioners.

But if any of the services are provided for the purposes of an independent clinic, or by medical practitioners in pursuance of the National Health Service Act 2006 or the National Health Service (Wales) Act 2006, it is not an independent medical agency.

Fel rheol, mae AGIC yn ystyried unrhyw fenter (busnes):

  • Lle darperir gwasanaethau meddygol preifat yn unig gan ymarferwyr meddygol yn rheolaidd, naill ai'n unigol neu ar ran cwmni, sydd wedi'i leoli yng Nghymru

i fod yn asiantaethau meddygol annibynnol y mae'n ofynnol i ddarparwyr a rheolwyr gyflwyno cais i gofrestru â ni lle mae rhaid i gofrestriad gael ei gymeradwyo cyn y gellir darparu gwasanaethau.

Yn achos asiantaethau meddygol, nid oes rhaid iddynt fod yn sefydliad (h.y. adeilad ffisegol sydd â rhywfaint o sefydlogrwydd a threfn)

Yn eu plith mae:

  • Gwasanaethau meddyg teulu preifat ar-lein lle mae'r cwmni darparu ar-lein a/neu'r meddyg wedi'i leoli yng Nghymru
  • Gwasanaethau i bobl sydd â dibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol lle mae triniaeth (meddyginiaeth) yn cael ei rhagnodi gan feddyg yng Nghymru a'i darparu yng nghartrefi'r bobl eu hunain.

Practisau deintyddol preifat

Mae Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017 yn disgrifio:

  1. practisau deintyddol preifat fel a ganlyn:

  ymgymeriad sy’n darparu neu sy’n cynnwys darparu:

     (a) gwasanaethau deintyddol preifat; neu

     (b) gwasanaethau proffesiynol perthnasol ac eithrio at ddibenion Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

  2. gwasanaethau deintyddol preifat fel a ganlyn:

gwasanaethau deintyddol ac eithrio at ddibenion Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ac mae deintyddiaeth breifat i gael ei dehongli yn unol â hynny.

Fel rheol, mae AGIC yn ystyried unrhyw fenter (busnes):

  • Lle darperir gwasanaethau deintyddol preifat gan unigolyn sydd wedi'i gofrestru â'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol yn rheolaidd, naill ai'n unigol neu ar ran cwmni, yng Nghymru

Enghreifftiau:

  • Practis deintyddol lle y caiff gwasanaethau'r GIG a gwasanaethau deintyddol preifat eu cynnig gan unigolion sydd wedi'u cofrestru â'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol a bod yr adeiladau yng Nghymru.
  • Gwasanaeth Hylendid Deintyddol lle mae hylenydd deintyddol (sydd wedi'i gofrestru â'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol) yn sicrhau bod cleifion yn gallu cael gafael ar y gwasanaeth yn uniongyrchol mewn sefydliad yng Nghymru.
  • Deintydd (sydd wedi'i gofrestru â'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol) sy'n rhoi cyngor deintyddol i gleifion ar-lein yn breifat (nid ar ran y GIG) ac sydd wedi'i leoli yng Nghymru neu bod cyfeiriad cofrestredig y cwmni sy'n darparu'r gwasanaeth yng Nghymru.

Rhaid darparu'r gwasanaeth yn rheolaidd hefyd. Mae AGIC yn ystyried y caiff gwasanaethau eu darparu’n ‘rheolaidd’ os cânt eu darparu o leiaf bob mis.