Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau Newid yr Unigolyn Cyfrifol ar gyfer gwasanaeth sydd wedi'i gofrestru ag AGIC

Nod y dudalen we hon yw egluro'r fframwaith cyfreithiol mewn perthynas â'r Unigolyn Cyfrifol. Mae'n ymdrin â'r gwiriadau y mae'n rhaid i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) eu cynnal o fewn ystyr Deddf Safonau Gofal 2000 a Rheoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011 / Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017.

Er arweiniad yn unig y bwriedir y ddogfen hon. Nid yw'n disodli'r angen i gyfeirio'n uniongyrchol at y ddeddfwriaeth berthnasol. 

Mae'r ‘Wybodaeth Ofynnol’ yn Atodiad A yn rhestru popeth y mae angen i chi ei gyflwyno gyda'ch cais i wneud newid.

Mae'n drosedd gwneud datganiad ffug yn fwriadol. Gallai gwneud hynny olygu eich bod yn agored i gamau erlyn a gallai arwain at wrthod eich cais.

Cefndir

Mae rôl a chyfrifoldebau Unigolyn Cyfrifol yn amrywio rhwng sefydliadau darparu ac yn aml cânt eu pennu gan faint sefydliad a / neu natur ei fusnes. Nid yw'r ddeddfwriaeth yn nodi pa gyfrifoldebau a ddylai fod gan yr Unigolyn Cyfrifol, heblaw'r hyn a nodir yn y Rheoliadau (gweler y cyfeiriadau yn Atodiad B).

Mewn rhai sefydliadau, gall fod yn uwch-reolwr clinigol ac mewn eraill, gall fod yn gyfarwyddwr bwrdd. Gallai fod gan yr Unigolyn Cyfrifol yr awdurdod i wneud penderfyniadau strategol (er enghraifft, ynghylch staffio, adnoddau, cyllid neu safleoedd), ond mae'n bosibl na fydd ganddo'r awdurdod hwnnw, ac nid yw'n ofynnol o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 na'r Rheoliadau perthnasol iddo feddu ar y cyfrifoldeb hwn.

Mae personau cofrestredig o dan rwymedigaeth barhaus i redeg a rheoli’r sefydliad perthnasol gyda gofal, cymhwysedd a sgil digonol, a bydd AGIC yn rheoleiddio’r gwasanaeth gan gadw hyn mewn cof. Fel rhan o’r rhwymedigaeth hon, mae gan y darparwr cofrestredig hefyd gyfrifoldeb parhaus i sicrhau bod yr Unigolyn Cyfrifol yn ymgymryd â hyfforddiant priodol er mwyn meithrin y sgiliau sydd eu hangen i redeg y sefydliad. 

Bydd AGIC am gael sicrwydd bod gan yr unigolyn a enwebir fel yr Unigolyn Cyfrifol nid yn unig y sgiliau a’r profiad personol gofynnol ar gyfer y rôl, ond hefyd yr awdurdod strategol angenrheidiol o fewn y sefydliad i allu goruchwylio'r gwaith o reoli'r sefydliad yn effeithiol. 

Bydd AGIC yn disgwyl gweld tystiolaeth o’r materion hyn yng nghymwysterau a CV yr Unigolyn Cyfrifol, y manyleb person, a’r disgrifiad swydd ar gyfer y rôl.

Os bydd AGIC o'r farn, mewn unrhyw achos penodol, fod angen mwy o wybodaeth arni am unrhyw ran o’r uchod, mae'n bosibl y bydd yn gofyn i unigolyn sy’n rhedeg neu’n rheoli’r gwasanaeth ddarparu’r wybodaeth honno. 

Rhwymedigaethau darparwyr cofrestredig i gydymffurfio â gofynion rheoleiddiol

Ar ôl i ddarparwr gael ei gofrestru, mae rhwymedigaeth barhaus arno i redeg y sefydliad gyda gofal, cymhwysedd a sgil digonol.  O ran penodi'r Unigolyn Cyfrifol, mae hyn yn golygu, yn benodol, fod yn rhaid i'r darparwr sicrhau bod yr Unigolyn Cyfrifol:

  • yn parhau i fod yn addas o ran bodloni ei ofynion rheoleiddiol;
  • yn ymgymryd â'r hyfforddiant perthnasol o bryd i'w gilydd er mwyn cynnal y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y swydd; 
  • yn meddu ar yr awdurdod gofynnol o fewn y sefydliad i allu goruchwylio'r gwaith o reoli'r gwasanaeth yn effeithiol.

Mae hyn yn golygu y bydd angen i'r darparwr cofrestredig gael y wybodaeth sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth mewn perthynas â'r Unigolyn Cyfrifol, ac mae hyn yn cynnwys:

  • Prawf pendant o bwy yw’r unigolyn, gan gynnwys ffotograff diweddar. 
  • Tystysgrif briodol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
  • Geirdaon ysgrifenedig gan ddau gyflogwr mwyaf diweddar yr unigolyn.
  • Os bydd unigolyn wedi gweithio'n flaenorol mewn swydd a oedd yn cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion sy'n agored i niwed, cadarnhad, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd i ben.
  • Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymwysterau perthnasol.
  • Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth.
  • Os bydd yr unigolyn yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol, manylion cofrestriad yr unigolyn â'r corff (os oes un) sy'n gyfrifol am reoleiddio aelodau'r proffesiwn gofal iechyd dan sylw.

Hysbysiadau o dan y Rheoliadau

Os penodir Unigolyn Cyfrifol gwahanol i oruchwylio'r gwaith o reoli'r gwasanaeth cofrestredig, rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i AGIC. 

Fel yr esboniwyd uchod, y darparwr cofrestredig sy'n gyfrifol am sicrhau bod unrhyw Unigolyn Cyfrifol newydd yn addas ar gyfer y swydd.

Nid yw'r Unigolyn Cyfrifol yn berson cofrestredig ac, felly, rôl AGIC fydd cadarnhau bod y darparwr cofrestredig yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth fel rhan o'i swyddogaeth rheoleiddio ac arolygu.

Yn ymarferol, mae hyn yn golygu, ar ôl penodi'r Unigolyn Cyfrifol newydd, y gofynnir i ddarparwyr gyflwyno hunanasesiad a datganiad eu bod wedi cynnal y gwiriadau gofynnol.  Mae AGIC wedi cyflwyno ffurflen Newid Unigolyn Cyfrifol i'w chwblhau pan fydd yr Unigolyn Cyfrifol yn newid, sydd ar gael yn Newid gwybodaeth yr Unigolyn Cyfrifol (UC) | Arolygiaeth Gofal Cymru (agic.org.uk)

Bydd y ffurflen hon yn gofyn i ddarparwyr gadarnhau bod y gwiriadau perthnasol wedi'u cynnal ar yr Unigolyn Cyfrifol ac y bydd darparwyr yn parhau i gyflawni eu rhwymedigaethau.

Bydd hefyd yn ofynnol i ddarparwyr roi awdurdod ysgrifenedig i AGIC (lle y bo'n briodol) os bwriedir i'r Unigolyn Cyfrifol gael y canlynol:

  1. cyfrifoldeb am wneud unrhyw gais o dan adran 15 o'r Ddeddf, megis cais i amrywio neu ddileu amod cofrestriad, neu i ddiddymu'r cofrestriad, ac ati;
  2. cyfrifoldeb am wneud penderfyniadau ar ran y darparwr, megis cytuno ar amodau cofrestriad, neu gyflwyno sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas ag unrhyw gam(au) gweithredu arfaethedig gan AGIC;
  3. yr awdurdod strategol a'r adnoddau i roi unrhyw ofynion penodol a wneir gan AGIC ar waith, megis cymryd camau unioni mewn perthynas ag achos honedig o dorri'r Rheoliadau.

Mae'r darparwr cofrestredig yn uniongyrchol atebol am gydymffurfio â'r Rheoliadau a gallai gael ei erlyn os na fydd yn gwneud hynny.

 [LM1]Include link to the form

Pryd byddai AGIC yn gofyn am ragor o wybodaeth gan y darparwr cofrestredig mewn perthynas â'r Unigolyn Cyfrifol?

Unrhyw bryd ar ôl i Unigolyn Cyfrifol newydd gael ei benodi, os bydd gan AGIC wybodaeth sy'n awgrymu ei bod yn bosibl nad yw'r Unigolyn Cyfrifol newydd yn addas ar gyfer y rôl y bydd yn ei chyflawni, bydd AGIC bob amser yn gofyn am ragor o wybodaeth yn unol â gofynion y Rheoliadau:

  • bydd yn gofyn i'r darparwr cofrestredig am gopïau o unrhyw eirdaon a dderbynniwyd mewn perthynas â'r Unigolyn Cyfrifol (gan gynnwys geirdaon meddygol)
  • bydd am gael ei bodloni gan unrhyw dystiolaeth ddogfennol bod y lefel briodol o wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd wedi'i gynnal
  • (lle y bo'n briodol) bydd yn cyfweld â'r Unigolyn Cyfrifol yn breifat.

Mae'n bosibl y bydd angen i AGIC ymweld â'r gwasanaeth hefyd er mwyn cadarnhau dilysrwydd yr uchod, ond dylai AGIC, fel mater o drefn, ofyn am gopi wedi'i sganio i ddechrau.

Tystysgrifau cofrestru

Pan gaiff AGIC ei hysbysu bod Unigolyn Cyfrifol wedi newid, bydd AGIC yn cyhoeddi tystysgrifau diwygiedig er mwyn adlewyrchu hyn.

Caiff y tystysgrifau newydd eu hanfon i gyfeiriad y sefydliad i'w harddangos ac yna dylai'r hen dystysgrif gael ei dychwelyd i AGIC.

Atodiad A

Gwybodaeth ofynnol

  • Ffurflen newid unigolyn cyfrifol – wedi'i chwblhau'n llawn, ei llofnodi a'i dyddio 
  • Disgrifiad swydd ar gyfer yr Unigolyn Cyfrifol
  • Datganiad o ddiben – Wedi'i ddiwygio er mwyn cynnwys manylion yr Unigolyn Cyfrifol 
  • Canllaw i gleifion / Taflen wybodaeth i gleifion – Wedi'i ddiwygio / diwygio er mwyn cynnwys manylion yr Unigolyn Cyfrifol

Ni fydd cais yn cael ei dderbyn oni bai bod pob un o'r eitemau uchod wedi cael eu cyflwyno neu fod y Tîm Cofrestru wedi rhoi cytundeb ymlaen llaw.

Atodiad B - Rheoliadau

Rheoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011

Rheoliad 10 Ffitrwydd y Darparwr Cofrestredig 

(1) Rhaid i berson beidio â rhedeg sefydliad neu asiantaeth onid yw'n berson ffit i wneud hynny.

(2) Nid yw person yn ffit i redeg sefydliad neu asiantaeth onid yw'r person hwnnw—

(a) yn unigolyn sy'n bodloni'r gofynion a bennir ym mharagraff (3); neu

(b) yn gorff, ac—

(i) y corff hwnnw wedi hysbysu swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru o enw, cyfeiriad a swydd unigolyn yn y corff (sef yr unigolyn y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “yr unigolyn cyfrifol”), a'r unigolyn hwnnw'n gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall y corff ac yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth y sefydliad neu'r asiantaeth; a

(ii) yr unigolyn hwnnw'n bodloni'r gofynion a bennir ym mharagraff (3).

(3) Y gofynion yw—

(a) bod yr unigolyn yn addas o ran ei uniondeb a'i gymeriad da i redeg y sefydliad neu'r asiantaeth neu, yn ôl fel y digwydd, i fod yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth y sefydliad neu'r asiantaeth;

(b) bod yr unigolyn yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i redeg y sefydliad neu'r asiantaeth neu, yn ôl fel y digwydd, i fod yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth y sefydliad neu'r asiantaeth; ac

(c) bod gwybodaeth neu, yn ôl fel y digwydd, ddogfennaeth lawn a boddhaol, ar gael ynglŷn â'r unigolyn mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1, 2 a 4 i 8 o Atodlen 2.

(4) Nid yw person yn ffit i redeg sefydliad neu asiantaeth—

(a) os yw'r person wedi'i farnu'n fethdalwr neu os dyfarnwyd atafaeliad ar ei ystâd ac nad yw'r person (yn y naill achos neu'r llall) wedi'i ryddhau, ac nad yw'r gorchymyn methdalwr wedi'i ddirymu na'i ddiddymu neu fod cyfnod o foratoriwm yn gymwys i'r person hwnnw o dan orchymyn rhyddhau o ddyled; neu

(b) os yw'r person wedi gwneud compównd neu drefniant gyda chredydwyr y person hwnnw ac nad ydyw wedi'i ryddhau mewn perthynas â hynny.

 

Rheoliad 13 Y person cofrestredig – gofynion cyffredinol

(1) Rhaid i'r darparwr cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig redeg neu reoli'r sefydliad neu asiantaeth, yn ôl fel y digwydd, gyda gofal, cymhwysedd a sgil digonol, o ystyried maint y sefydliad neu'r asiantaeth, y datganiad o ddiben a niferoedd ac anghenion y cleifion.

(2) Os yw'r darparwr cofrestredig—

(a) yn unigolyn, rhaid iddo ymgymryd; neu

(b) yn gorff, rhaid iddo sicrhau bod yr unigolyn cyfrifol yn ymgymryd,

o bryd i'w gilydd â pha bynnag hyfforddiant sy'n briodol i sicrhau bod ganddo'r sgiliau angenrheidiol i redeg y sefydliad neu asiantaeth.

(3) Rhaid i unrhyw unigolyn sy'n rheoli'r sefydliad neu asiantaeth ymgymryd, o bryd i'w gilydd, â pha bynnag hyfforddiant sy'n briodol i sicrhau bod ganddo'r sgiliau angenrheidiol i reoli'r sefydliad neu'r asiantaeth.

 

Rheoliad 33 Hysbysu ynghylch newidiadau

(1) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru mewn ysgrifen cyn gynted ag y bo'n ymarferol, os digwydd unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol neu os bwriedir i unrhyw un ohonynt ddigwydd—

(a) person ac eithrio'r person cofrestredig yn rhedeg neu'n rheoli'r sefydliad neu'r asiantaeth;

(b) person yn peidio â rhedeg neu reoli'r sefydliad neu'r asiantaeth;

(c) pan fo'r person cofrestredig yn unigolyn, yr unigolyn hwnnw yn newid ei enw;

(ch) pan fo'r darparwr cofrestredig yn gorff—

(i) newid enw neu gyfeiriad y corff;

(ii) newid cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall y corff;

(d) yr unigolyn cyfrifol yn newid ei enw;

(dd) enwi rhywun arall yn unigolyn cyfrifol;

(e) pan fo'r darparwr cofrestredig yn unigolyn, penodi ymddiriedolwr mewn methdaliad, neu wneud compównd neu drefniant gyda chredydwyr;

(f) pan fo'r darparwr cofrestredig yn gwmni neu'n bartneriaeth, penodi derbynnydd, rheolwr, datodwr neu ddatodwr dros dro; neu

(ff) newid neu ehangu mangre'r sefydliad yn sylweddol, neu gaffael mangre ychwanegol, y bwriedir ei defnyddio at ddibenion y sefydliad.

 

Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017

Rheoliad 9 Addasrwydd Darparwr Cofrestredig 

(1) Rhaid i berson beidio â rhedeg sefydliad neu asiantaeth onid yw'n berson addas i wneud hynny.

(2) Nid yw person yn addas i gynnal practis deintyddol preifat oni bai bod y person—

  1. yn unigolyn sy’n bodloni’r gofynion a nodir ym mharagraff (3);

  1. yn bartneriaeth, a bod pob un o’r partneriaid yn bodloni’r gofynion ym mharagraff (3); neu

(b) yn sefydliad ac—

(i) bod y sefydliad wedi hysbysu swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru am enw a chyfeiriad yr unigolyn cyfrifol a’i swydd yn y sefydliad; a

(ii) bod yr unigolyn yn bodloni’r gofynion ym mharagraff (3).

(3) Y gofynion yw—

(a) bod yr unigolyn yn addas o ran ei uniondeb ac o gymeriad da i gynnal y practis deintyddol preifat neu, yn ôl y digwydd, i fod yn gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o reoli’r practis deintyddol preifat;

(b) bod yr unigolyn yn gallu oherwydd ei iechyd, ar ôl i addasiadau rhesymol (os oes rhai) gael eu gwneud, gynnal y practis deintyddol preifat neu, yn ôl y digwydd, fod yn gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o reoli’r practis deintyddol preifat; ac

(c) bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl y digwydd, ar gael mewn perthynas â’r unigolyn mewn cysylltiad â phob un o’r materion a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 3.

(4) Wrth asesu cymeriad unigolyn at ddibenion paragraff (3)(a), rhaid i’r materion a ystyrir gynnwys y rhai a restrir yn Rhan 2 o Atodlen 3.

(5) Nid yw person yn addas i gynnal practis deintyddol preifat—

(a) os yw’r person hwnnw wedi ei ddyfarnu’n fethdalwr neu y dyfarnwyd y secwestriad o ystad y person ac (yn y naill achos neu’r llall) os nad yw’r person wedi ei ryddhau ac nad yw’r gorchymyn methdalu wedi ei ddiddymu na’i ddadwneud neu fod cyfnod moratoriwm o dan orchymyn rhyddhau o ddyled (o fewn ystyr “debt relief order” yn adran 251A o Ddeddf Ansolfedd 1986) yn gymwys mewn perthynas â’r person; neu

(b) os yw’r person hwnnw wedi gwneud compównd neu drefniant â chredydwyr y person ac nad yw wedi ei ryddhau mewn cysylltiad ag ef.

 

Rheoliad 12 Y person cofrestredig – gofynion cyffredinol

(1) Rhaid i’r darparwr cofrestredig a’r rheolwr cofrestredig gynnal neu reoli’r practis deintyddol preifat, yn ôl y digwydd, gyda gofal, cymhwysedd a sgìl digonol, gan roi sylw i faint y practis deintyddol preifat, y datganiad o ddiben a nifer y cleifion a’u hanghenion.

(2) Rhaid i’r darparwr cofrestredig a’r rheolwr cofrestredig ymgymryd, o bryd i’w gilydd, ag unrhyw hyfforddiant sy’n briodol er mwyn sicrhau bod ganddynt y sgiliau y mae eu hangen i gynnal neu reoli’r practis deintyddol preifat, yn ôl y digwydd.

(3) At ddibenion y rheoliad hwn, rhaid i’r sawl a ganlyn ymgymryd â’r hyfforddiant y cyfeirir ato ym mharagraff (2)—

(a) yr unigolyn, os yw’r darparwr cofrestredig yn unigolyn;

(b) yr unigolyn cyfrifol, os yw’r darparwr cofrestredig yn sefydliad; neu

  1. un o’r partneriaid, os yw’r darparwr cofrestredig yn bartneriaeth.

Rheoliad 27 Hysbysiad o newidiadau

(1) Rhaid i’r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol gwneud hynny, os bydd unrhyw un neu ragor o’r digwyddiadau a ganlyn yn digwydd neu os bwriedir iddynt ddigwydd—

(a) bod person ac eithrio’r person cofrestredig yn cynnal neu’n rheoli’r practis deintyddol preifat;

(b) bod person yn peidio â chynnal neu reoli’r practis deintyddol preifat;

(c) pan fo’r person cofrestredig yn unigolyn, bod yr unigolyn hwnnw yn newid ei enw;

(d) pan fo’r darparwr cofrestredig yn bartneriaeth, bod unrhyw newid yn aelodaeth y bartneriaeth;

(e) pan fo’r darparwr cofrestredig yn sefydliad—

(i) bod enw neu gyfeiriad y sefydliad yn newid;

(ii) bod unrhyw newid i gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall o’r sefydliad;

(f) bod yr unigolyn cyfrifol yn newid ei enw;

(g) bod newid i hunaniaeth yr unigolyn cyfrifol;

(h) pan fo’r darparwr cofrestredig yn unigolyn, bod ymddiriedolwr mewn methdaliad yn cael ei benodi, neu fod compównd neu drefniant yn cael ei wneud â chredydwyr;

(i) pan fo’r darparwr cofrestredig yn gwmni neu’n bartneriaeth, bod derbynnydd, rheolwr, datodwr neu ddatodwr dros dro yn cael ei benodi; neu

(j) bod y fangre a ddefnyddir i gynnal y practis deintyddol preifat yn cael ei newid neu ei hestyn yn sylweddol, neu fod mangre ychwanegol yn cael ei chaffael y bwriedir ei defnyddio at ddibenion y practis.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni:

Tîm Cofrestru

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Llywodraeth Cymru

Parc Busnes Rhyd-y-car

Merthyr Tudful

CF48 1UZ

Ffôn:  0300 062 8163

E-bost: AGIC.Cofrestru@llyw.cymru