Canmol staff er gwaethaf pwysau eithriadol yn Adran Achosion Brys Ysbyty Treforys yn Abertawe
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (8 Rhagfyr 2022) yn nodi'r angen am welliannau yn adran achosion brys Ysbyty Treforys. Daeth yr arolygiad i'r casgliad nad oedd y cleifion yn cael gofal o ansawdd yn gyson, er gwaethaf ymdrechion y staff.
Cwblhaodd AGIC arolygiad dirybudd o'r adran achosion brys ar dri diwrnod dilynol ym mis Medi eleni. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd nifer o ardaloedd asesu eu harolygu hefyd, gan gynnwys yr Uned Achosion Brys Plant, yr Uned Asesu Cyflym a'r Uned Gwneud Penderfyniadau Llawfeddygol.
Yn ystod yr arolygiad ar y safle, nododd AGIC gyfanswm o 25 o feysydd cyffredinol i'w gwella, gan gynnwys preifatrwydd ac urddas cleifion, maeth a hydradu, atal a rheoli heintiau a lefelau staffio. Gwelodd arolygwyr AGIC achosion o oedi y tu hwnt i'r canllawiau cenedlaethol, wrth frysbennu ac wrth gynnal adolygiadau meddygol o gleifion a oedd yn cyrraedd â phoen yn y frest, gan gynnwys symptomau trawiad ar y galon. Nododd yr arolygiad hefyd fod rhai cleifion wedi cael eu gadael yn gorwedd ar arwynebau anaddas am gyfnodau hir.
Mae AGIC yn ymwybodol o'r pwysau dwys ledled Cymru ym maes gofal sylfaenol, gwasanaethau ambiwlans ac adrannau achosion brys. Fodd bynnag, mae sicrhau diogelwch cleifion yn parhau'n hollbwysig. Nododd yr arolygwyr ddiffyg gofal a thriniaethau amserol, er gwaethaf ymdrechion parhaus gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i wella llif cleifion. Ar y cyfan, roedd y cleifion yn derbyn gwasanaeth diogel, ond roedd llif cleifion gwael yn yr adran a'r ysbyty ehangach yn cael effaith ar hyn. Mae'r adroddiad yn nodi nad oedd y cleifion bob amser yn cael eu brysbennu, eu hadolygu na'u trin mewn modd amserol. Bydd yr ysbyty yn agor Uned Feddygol Acíwt newydd, a fydd yn cynnig gofal brys ar yr un diwrnod, y mis hwn, sy'n anelu at leihau'r pwysau ar yr adran achosion brys.
Dangosodd yr arolygiad ar y safle fod yr adran achosion brys yn wynebu cyfnod o alw di-baid am ei gwasanaethau. Nododd ein canfyddidau reolaeth ac arweinyddiaeth dda, a nododd y staff eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi. Pan ofynnwyd iddynt, nododd y cleifion eu bod yn fodlon ar y gofal a ddarparwyd gan y staff, ond nid oedd yr amgylchedd yn addas ar gyfer cynnal preifatrwydd ac urddas y cleifion o ganlyniad i nifer uchel y cleifion a oedd yn defnyddio'r gwasanaeth. Gwelsom aelodau o'r staff yn gwneud ymdrechion i gynnal preifatrwydd ac urddas y cleifion, er gwaethaf y gofod cyfyngedig a oedd ar gael. Nodwyd gennym fod y staff yn gweithio'n galed i roi profiad cadarnhaol a lefelau gofal da i'r cleifion er gwaethaf pwysau eithriadol.
Dangosodd sylwadau gan y staff nad oeddent bob amser yn gallu darparu gofal i'r safon roeddent am ei chyrraedd oherwydd y pwysau a'r galw cynyddol ar yr adran, gan gynnwys lefelau staffio a chymysgedd sgiliau annigonol.
Mae'r bwrdd iechyd wedi llunio cynllun cynhwysfawr sy'n nodi camau gweithredu manwl ar gyfer sut y caiff gwelliannau eu gwneud yn yr adran achosion brys.
Dywedodd Prif Weithredwr AGIC, Alun Jones:
Mae pwysau cynyddol ar wasanaethau'r GIG, ac fel pob ysbyty ledled Cymru, mae Ysbyty Treforys yn parhau i wynebu heriau eithriadol oherwydd galw cynyddol a phrinder staff. Mae llif cleifion yn broblem a gaiff ei chydnabod yn genedlaethol, wedi'i hachosi gan bwysau ar y system gyfan ac mae AGIC yn cydnabod bod y bwrdd iechyd yn gweithio'n galed i wneud gwelliannau ac i leihau amseroedd aros. Mae ein hadroddiad yn nodi argymhellion penodol y mae angen i'r bwrdd iechyd ymdrin â nhw er mwyn gwella.
Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i sicrhau y gwneir cynnydd yn erbyn ein canfyddiadau. Mae aelodau allweddol o staff yn y bwrdd iechyd wedi ymateb yn gadarnhaol i'n hadborth ac wrth ohebu wedi hynny, gan ddangos ymrwymiad clir i ymdrin â'r materion a nodwyd.