Canmol staff uned iechyd meddwl arbenigol yn Ysbyty Bryn y Neuadd, ond mae angen gwneud rhai gwelliannau
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (5 Hydref 2023) yn dilyn arolygiad dirybudd o uned iechyd meddwl arbenigol Tŷ Llewelyn yn Ysbyty Bryn y Neuadd. Roedd yr arolygiad yn canolbwyntio ar dair ward diogelwch canolig a chafodd ei gynnal dros dri diwrnod yn olynol ym mis Gorffennaf 2023.
Mae Uned Tŷ Llewelyn, sydd wedi'i lleoli yn Llanfairfechan, ac yn cael ei rhedeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn darparu gofal iechyd meddwl acíwt i gleifion mewnol, ac mae'n cynnwys ward adsefydlu ac uned gofal seiciatrig dwys dynodedig.
Ar y cyfan, nododd yr arolygwyr fod protocolau addas ar waith i reoli risg, iechyd a diogelwch a rheoli heintiau. Roedd y staff yn ymrwymedig i ddarparu gofal o safon uchel er bod nifer o swyddi gwag yn yr uned. Fodd bynnag, roedd angen gwneud gwelliannau amgylcheddol i ystafelloedd gwely'r cleifion, yr ystafelloedd ymolchi a'r ardaloedd cymunedol. Roedd y materion yn cynnwys llwydni yn yr ystafelloedd cawod a'r toiledau, system awyru wael yn y gampfa a'r ystafell wahanu, risgiau pwyntiau clymu yn yr ystafelloedd ymolchi ac roedd angen ailbaentio’r ward a'r ardaloedd cymunedol.
Roedd y staff y gwnaethom siarad â nhw yn frwdfrydig am eu rolau a'r modd roeddent yn cefnogi cleifion ac yn gofalu amdanynt. Gwelsom y rhan fwyaf o'r staff yn cymryd amser i siarad â'r cleifion ac yn mynd i'r afael ag unrhyw anghenion neu bryderon a godwyd. Roedd y staff i'w gweld yn parchu preifatrwydd y cleifion drwy gnocio ar ddrysau'r ystafelloedd gwely a'r ystafelloedd ymolchi cyn mynd i mewn.
Roedd ymatebion diogel a therapiwtig ar waith i reoli ymddygiad heriol ac i hybu diogelwch a llesiant y cleifion. O safbwynt cynllunio gofal ac arferion yn yr ysbyty, roedd pwyslais clir ar adsefydlu gyda gofal wedi'i deilwra at yr unigolyn a'i gefnogi gan yr arferion lleiaf cyfyngol. Roedd mynediad i'r uned yn ddiogel er mwyn atal mynediad heb awdurdod. Roedd y staff yn gwisgo larymau personol y gallent eu defnyddio i alw am help pe bai angen. Roedd pwyntiau galw am nyrs ar gael o gwmpas yr ysbyty ac yn ystafelloedd gwely ac ystafelloedd ymolchi'r cleifion, fel y gallai'r cleifion alw am gymorth pe bai angen, ond roedd angen i'r rhain fod yn fwy hygyrch mewn rhai ystafelloedd gwely.
Drwy gydol yr arolygiad, gwelsom dîm o staff ymrwymedig a phroffesiynol a oedd yn deall anghenion y cleifion yn yr ysbyty yn dda ac roeddent yn ymrwymedig i ddarparu gofal o ansawdd uchel i'r cleifion.
Yn ystod ein hymweliad arolygu, gwelsom dystiolaeth bod y staff, rheolwyr y ward a'r uwch-dîm arwain yn dangos arweinyddiaeth ymroddedig a brwdfrydig. Fodd bynnag, cawsom nifer bach o ymatebion negyddol yn ein harolwg staff a oedd yn gwrthddweud hyn. Roedd yr adborth a gawsom yn gysylltiedig â'r staff nad oeddent yn teimlo eu bod yn cael eu hannog na'u cefnogi i godi pryderon, diffyg hyder bod y sefydliad yn gweithredu ar bryderon, a'r diwylliant. Rydym wedi gofyn i'r bwrdd iechyd ystyried yr adborth hwn gan ganolbwyntio'n bennaf ar y gydberthynas rhwng staff y ward a'r uwch-reolwyr.
Gwelsom fod strwythur llywodraethu effeithiol ar waith o ran cyfarfodydd i drafod digwyddiadau, cwynion a materion sy'n ymwneud â gofal cleifion. Mae'n rhaid i'r gwasanaeth wella ei broses o recriwtio staff ar gyfer swyddi gwag. Nododd rhai o'r staff fod prinder adnoddau yn effeithio ar ofal cleifion a llesiant y staff.
Roedd cynlluniau gofal a thriniaeth y cleifion yn cael eu cadw i safon dda, ond, ar noson gyntaf yr arolygiad, gwelsom nad oedd yr oergelloedd meddyginiaeth wedi cael eu cloi. Codwyd hyn gyda'r staff, a unionodd y sefyllfa yn syth, ac roedd pob oergell wedi'i chloi yn ystod gweddill yr arolygiad. Gwelsom dystiolaeth bod gwiriadau tymheredd yr oergell feddyginiaeth yn cael eu cwblhau'n rheolaidd. Fodd bynnag, roedd rhai bylchau lle nad oedd gwiriadau tymheredd wedi'u cofnodi.
Dywedodd y cleifion wrthym nad oedd fawr ddim amrywiaeth ar y bwydlenni, gan gynnwys prydau nad oeddent yn cael eu coginio'n ffres ar y safle mwyach. Mae'n rhaid i'r bwrdd iechyd adolygu adborth y cleifion a gwella'r dewisiadau bwydlen i sicrhau bod y dewisiadau sydd ar gael yn bodloni gofynion maeth ei gleifion.
Roedd gwybodaeth ysgrifenedig yn cael ei harddangos ar y ward i'r cleifion a'u teuluoedd. Gwelsom fod posteri yn arddangos gwybodaeth am wasanaethau eirioli a sut y gallai'r cleifion roi adborth ar y gofal roeddent yn ei gael ar y wardiau.
Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:
Mae'n gadarnhaol gweld ymrwymiad y staff sy'n gweithio yn Uned Tŷ Llewelyn i ddarparu gofal o safon uchel i gleifion ag anghenion cymhleth. Drwy gynnal y gwaith hwn, gwelsom dystiolaeth a oedd yn dangos bod angen i'r bwrdd iechyd wneud rhagor o waith i sicrhau bod y staff yn gallu codi pryderon yn hyderus ac yn bwysicach na hynny, y bydd yn gweithredu ar y rhain yn briodol. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r bwrdd iechyd ar ei gynllun ar gyfer gwella.