Yr hyn sydd angen i chi ei wybod os ydych am roi gwybod am bryderon yn y gwaith
Beth yw chwythu'r chwiban?
Chwythu’r chwiban yw’r term a ddefnyddir pan fydd rhywun sy’n gweithio mewn sefydliad neu drosto yn dymuno codi pryderon am arferion gwael, camymddwyn, anghyfreithlondeb neu risg yn y sefydliad. Gall y pryderon hyn effeithio ar gleifion, y cyhoedd, staff eraill, neu'r sefydliad ei hun.
Mae chwythu'r chwiban yn berthnasol i fynegi pryder o fewn y sefydliad yn ogystal ag yn allanol, megis i reoleiddiwr fel AGIC.
Os ydych yn weithiwr gofal iechyd a'ch bod am godi pryder
O bryd i'w gilydd, efallai y bydd gennych bryderon am rywbeth sy'n digwydd lle rydych yn gweithio a allai effeithio ar gleifion, eich cydweithwyr, neu'r sefydliad cyfan. Nid yw gwneud rhywbeth am y pryderon hyn bob amser yn hawdd.
Mae gan AGIC rôl arbennig ar gyfer pobl sy'n ystyried chwythu'r chwiban ynglŷn â phryderon sydd ganddynt am gamymddwyn ym maes gofal iechyd yng Nghymru. Mae AGIC yn “gorff rhagnodedig” o dan y deddfau chwythu'r chwiban, felly gall gweithwyr, cyn-weithwyr, staff asiantaeth dros dro neu gontractwyr sy'n dod â phryderon i ni am weithgareddau eu cyflogwr gael rhywfaint o amddiffyniad ar gyfer eu hawliau cyflogaeth.
Rhaid i bob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ddilyn ei god ymddygiad proffesiynol a byddem bob amser yn argymell eich bod yn mynegi eich pryder yn eich sefydliad yn gyntaf. Fodd bynnag, os teimlwch na allwch wneud hyn, neu os ydych eisoes wedi dilyn y llwybr hwn, byddwn yn gwrando ar eich pryder ac yn egluro wrthych sut y gallwn helpu. Mae'n bosibl y bydd angen i ni drosglwyddo'r wybodaeth rydych yn ei rhoi i ni ymlaen i sefydliad neu gorff rheoleiddio arall os ydyw'n fwy priodol iddyn nhw ymchwilio i’r pryder.
Os byddwch yn datgelu gwybodaeth i ni, caiff eich datgeliad ei “ddiogelu” os ydych wedi ei wneud yn onest, os ydych yn credu ei fod yn sylweddol wir, ac os oes gennych gred resymol ei fod yn ymwneud â darparu gofal iechyd yng Nghymru.
Dogfennau
-
Codi Pryderon am Ofal Iechyd yng Nghymru: Cyngor i Weithwyr Gofal Iechyd , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 48 KBCyhoeddedig:48 KB