Cleifion yn cael gofal iechyd o ansawdd da yn uned iechyd meddwl Bryn Hesketh
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (3 Chwefror) yn dilyn ei harolygiad yn uned Bryn Hesketh, sy'n uned asesu iechyd meddwl a gaiff ei rhedeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Cwblhaodd AGIC arolygiad dirybudd dros ddau ddiwrnod yn yr uned ym Mae Colwyn ym mis Tachwedd y llynedd. Uned iechyd meddwl i bobl hŷn yw Bryn Hesketh a all ddarparu ar gyfer hyd at 13 o gleifion.
Yn ystod yr arolygiad, gwelsom fod ansawdd y gofal a ddarperir yn ddiogel ac yn effeithiol, gyda'r staff yn ymrwymedig i drin y cleifion â pharch a thosturi. Dywedodd y cleifion a'u perthnasau, pan ofynnwyd iddynt, eu bod yn fodlon ar y gofal a ddarperir. Arsylwodd yr arolygwyr enghreifftiau o ryngweithio da rhwng y staff a'r cleifion, gyda'r staff yn gofalu am y cleifion mewn ffordd urddasol a chynhwysol.
Er i'r arolygwyr weld bod yr uned yn lân ac yn daclus gyda threfniadau ar waith i leihau croes-heintio, tynnwyd sylw at waith atgyweirio yr oedd angen ei gwblhau, gan gynnwys dolenni drysau'r wardiau a oedd wedi torri ac atgyweiriadau i'r toiledau.
Dywedodd y staff wrthym eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a bod lefelau da o reolaeth ac arweinyddiaeth ym mhob rhan o'r uned. Fodd bynnag, roeddent yn feirniadol o'r diffyg cymorth ac ymgysylltu gan y sefydliad ehangach ac uwch-reolwyr y tu allan i'r uned.
Roedd yn amlwg bod y staff yn cael eu hannog i fanteisio ar hyfforddiant yn fewnol ac yn allanol. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn digwydd yn ystod pandemig COVID-19. Mae angen ffocws ychwanegol i sicrhau bod y staff yn cwblhau pob elfen o'r hyfforddiant gorfodol. Roedd arsylwi nad oedd larymau argyfwng personol y staff yn gweithio ym mhob rhan o'r uned yn destun pryder. Mae angen mynd i'r afael â hyn i leihau'r risg i staff a chleifion.
Dywedodd Prif Weithredwr AGIC, Alun Jones:
Mae'n dda gweld ansawdd y gofal a ddarperir i'r cleifion gan y staff ymroddedig yn uned Bryn Hesketh. Mae'n galonogol gweld bod gwelliannau wedi'u cydnabod ac eisoes yn cael eu rhoi ar waith gydag anogaeth gan y staff. Mae'r lleoliad wedi llunio cynllun cynhwysfawr sy'n nodi camau gwella, y byddwn yn parhau i fonitro eu cynnydd yn ei erbyn.