Neidio i'r prif gynnwy

Cod Ymddygiad

Ein nod yw rhoi sicrwydd annibynnol ar ansawdd, diogelwch ac effeithiolrwydd gofal iechyd drwy gyflwyno adroddiadau agored a chlir ar ein harolygiadau, ein hadolygiadau a'n hymchwiliadau. Mae'n hollbwysig bod ein gwaith yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn annibynnol er mwyn i'r cyhoedd, gwasanaethau gofal iechyd a'r Llywodraeth allu ymddiried ynddo. Mae sicrhau bod pob aelod o staff AGIC yn dilyn Cod Ymarfer cyffredin yn hanfodol er mwyn cyflawni hyn.

Mae'r Cod hwn yn cynnwys chwe egwyddor ac arferion cysylltiedig. Mae rhai arferion yn berthnasol i fwy nag un egwyddor. Er mwyn osgoi ailadrodd, ni chaiff yr arferion fel arfer eu hailadrodd o dan egwyddorion gwahanol. Mae'r Cod yn benodol ond, mewn rhai achosion, rydym yn gwybod y bydd angen ei ddehongli ac y bydd angen arddel barn broffesiynol. 

Mae'r Cod yn gyson â Chod Ymddygiad y Gwasanaeth Sifil a Chod Ymddygiad Staff Llywodraeth Cymru. Mae AGIC yn dehongli gwerthoedd craidd, fel hygrededd, gonestrwydd, gwrthrychedd a didueddrwydd fel a ganlyn: 

	Hygrededd – rhoi budd y cyhoedd o flaen budd sefydliadol, gwleidyddol neu bersonol 	Gonestrwydd – dweud y gwir a bod yn agored am y dystiolaeth ac wrth ei dehongli 	Gwrthrychedd – defnyddio methodoleg ac adnoddau safonol i gasglu tystiolaeth a selio argymhellion ar werthusiad gwrthrychol o'r dystiolaeth 	Didueddrwydd – gweithredu'n annibynnol yn unol â rhinweddau'r dystiolaeth.

Egwyddor 1: Bod yn agored a hygyrchedd

Byddwn yn cyflwyno adroddiadau gonest, teg a diduedd ar ein gwaith. Bydd ar gael yn hawdd i bawb, a bydd yn cyflawni'r nod o roi sicrwydd annibynnol i'r cyhoedd, gwasanaethau iechyd a'r Llywodraeth. 

Arferion

  • Cyflwyno adroddiadau ar ganfyddiadau mewn ffordd onest, deg a diduedd
  • Cyhoeddi adroddiadau yn unol â'n Polisi Cyhoeddiadau 
  • Cyhoeddi adroddiadau yn ein fformat safonol cydnabyddedig er mwyn gwella eglurder a chysondeb
  • Defnyddio iaith sy'n hawdd i'w darllen a'i deall. Bydd hyn yn sicrhau bod ein gwybodaeth mor hygyrch â phosibl i amrywiaeth o gynulleidfaoedd gwahanol
  • Sicrhau bod pob adroddiad ar gael ar ein gwefan 
  • Sicrhau bod adroddiadau ar gael yn gyfartal i bawb, yn unol â'r protocolau y cytunwyd arnynt ar gyfer dosbarthu adroddiadau dan embargo.

Egwyddor 2: Didueddrwydd a gwrthrychedd

Dylid rheoli tystiolaeth a gwybodaeth am arolygiadau, ymchwiliadau ac adolygiadau o wasanaethau mewn ffordd ddiduedd a gwrthrychol.

Arferion

  • Cwblhau gwaith maes â hygrededd, cwrteisi a sensitifrwydd
  • Cyfathrebu'n agored ac yn onest
  • Gwerthuso gwaith y gwasanaeth gofal iechyd mewn ffordd wrthrychol 
  • Cyflwyno'r dystiolaeth mewn ffordd ddiduedd a gwrthrychol
  • Cyhoeddi'r fethodoleg ar gyfer y gwaith a manylion am y ffordd y casglwyd y dystiolaeth.

Egwyddor 3: Hygrededd

Dylai budd y cyhoedd ddod o flaen budd sefydliadol, gwleidyddol neu bersonol ar bob cam o'r broses o gasglu tystiolaeth, rheoli a chyhoeddi ein gwaith.

Arferion

  • Sicrhau bod aelodau o staff yn cael eu hamddiffyn rhag unrhyw bwysau gwleidyddol a allai ddylanwadu ar y broses o lunio neu gyflwyno'r dystiolaeth
  • Sicrhau mai dim ond y gweithgareddau hynny y maent yn meddu ar y wybodaeth, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol ar eu cyfer y bydd aelodau o staff yn cymryd rhan ynddynt 
  • Rhoi rheolaethau ar waith i sicrhau na chaiff gwybodaeth ei defnyddio er budd personol nac mewn unrhyw ffordd a fyddai'n torri'r gyfraith neu'n cael effaith andwyol ar amcanion cyfreithlon a moesegol AGIC neu'r sefydliad sy'n cael ei adolygu 
  • Rhoi gwybod i'ch rheolwr am unrhyw feysydd gwaith nad ydych yn teimlo'n ddigon cymwys i ymgymryd â nhw.

Egwyddor 4: Sicrwydd o ran ansawdd

Dylai'r holl waith a wneir gan AGIC, gan gynnwys adolygiadau, arolygiadau ac ymchwiliadau, fod yn gyson â'n methodoleg safonol a chael ei ddogfennu'n llawn. Dylai'r broses o gasglu gwybodaeth fod yn gyson â'r dulliau a'r safonau cydnabyddedig. Dylid monitro ansawdd a rhoi sicrwydd yn ei gylch gan ystyried yr arferion y cytunwyd arnynt. 

Arferion

  • Sicrhau y caiff yr holl dystiolaeth ei chasglu ac y caiff adroddiadau eu llunio'n unol â'r fethodoleg y cytunwyd arni
  • Sicrhau y caiff adroddiadau eu llunio gan gyrraedd lefel ansawdd sy'n cydymffurfio â chanllaw arddull AGIC
  • Mabwysiadu gweithdrefnau sicrhau ansawdd a sicrhau bod aelodau o staff yn cael hyfforddiant addas ar sicrhau ansawdd
  • Ceisio cyflawni gwelliant parhaus o ran hyfedredd, effeithiolrwydd ac ansawdd gwaith, er enghraifft, drwy gymryd rhan lawn mewn gweithgareddau hyfforddi a datblygu. 

Egwyddor 5: Cyfrinachedd

Dim ond gwybodaeth sydd ei hangen i'n galluogi i gyflawni ein gwaith yn effeithiol y dylid gofyn amdani. Mae gwybodaeth breifat am unigolion yn gyfrinachol a chaiff ei thrin yn unol â fframweithiau cyfreithiol. 

Arferion

  • Sicrhau nad yw adroddiadau yn datgelu pwy yw unigolyn nac unrhyw wybodaeth breifat amdano
  • Diogelu gwybodaeth a gewch wrth i chi gyflawni eich dyletswyddau a chadw gwybodaeth gyfrinachol yn ddiogel
  • Rhoi gwybod am unrhyw faterion yn ymwneud â gwybodaeth neu ddata i'r Perchennog Asedau Gwybodaeth (gweler adran 11 am fanylion pellach) yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru. 

Egwyddor 6: Dull cefnogol

Mae AGIC yn gweithredu mewn ffordd sy'n ystyried gwaith sicrwydd fel proses gefnogol a gaiff ei chynnal ar y cyd â'r corff iechyd perthnasol, gyda'r nod o lywio gwelliannau mewn gwasanaethau gofal iechyd.

Arferion

  • Byddwn yn ceisio peidio â rhoi pwysau diangen ar wasanaethau gofal iechyd (er enghraifft, drwy gynnal sawl arolygiad ar yr un safle ar yr un pryd)
  • Bydd ein gwaith sicrwydd yn anelu at ymgysylltu â staff a defnyddwyr gwasanaethau mewn ffordd gadarnhaol ac adeiladol 
  • Byddwn yn pennu amserlenni rhesymol ar gyfer ceisiadau am wybodaeth (ac eithrio pan fo angen cyflwyno ceisiadau byr rybudd neu gynnal arolygiadau dirybudd neu geisiadau eraill oherwydd risg)
  • Bydd staff sy'n ymgymryd â gwaith sicrwydd yn gweithredu mewn modd sensitif er mwyn osgoi rhoi straen diangen ar aelodau unigol o staff.