Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant: Datganiad o Fwriad Strategol
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi dod ynghyd i gyhoeddi Datganiad o Fwriad Strategol ar y cyd sy'n canolbwyntio ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Y datganiad hwn yw’r cam cyntaf tuag at strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar y cyd a gaiff ei lansio yn 2024.
Fel yr arolygiaethau a'r rheoleiddwyr annibynnol ar gyfer gofal iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru, rydym yn gweithio i wella ansawdd a diogelwch y gwasanaethau hyn i bobl Cymru.
Rydym am helpu i wella mynediad pobl at y gwasanaethau hyn ac ansawdd eu profiad ohonynt.Yn ein barn ni, bydd sicrhau ffocws cryf ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein gwaith yn ein helpu i gyflawni'r nod hwn.
Fel arolygiaethau a rheoleiddwyr, byddwn yn:
- Cryfhau'r ffocws ar gydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein gwaith a lle byddwn yn dod o hyd i anghydraddoldebau byddwn yn eu herio ac yn rhoi gwybod amdanynt. Byddwn yn sicrhau bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan annatod o'n gwaith, er mwyn ysgogi gwelliannau yn y ffordd y caiff gwasanaethau gofal iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant eu darparu i bobl sy'n rhannu un neu fwy o'r nodweddion gwarchodedig.
- Gwella ein trefniadau ar gyfer ymgysylltu â chymunedau amrywiol er mwyn rhoi llais a dylanwad cryf iddynt yn ein gwaith. Byddwn yn gwella ein dealltwriaeth o brofiadau pobl sy'n rhannu un neu fwy o'r nodweddion gwarchodedig er mwyn llywio ein penderfyniadau.
- Datblygu ein sefydliadau fel eu bod yn gynhwysol ac yn gynrychioliadol. Byddwn yn datblygu gweithlu mwy amrywiol sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Byddwn yn helpu aelodau ein gweithlu i lwyddo ac i ffynnu beth bynnag fo’u cefndir, mewn gweithleoedd teg a chynhwysol. Byddwn yn buddsoddi i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth ein staff ac yn creu diwylliannau dysgu i’n galluogi i werthuso a herio ein dealltwriaeth o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Dywedodd Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Alun Jones:
“Ni ddylai anghydraddoldeb chwarae unrhyw ran yn y ffordd y caiff gwasanaethau eu cynllunio na’u darparu. Rydym yn cydnabod y rôl bwysig y mae ein sefydliadau yn ei chwarae o fewn y sectorau hyn a natur bellgyrhaeddol y ddau faes i gynifer o bobl ledled Cymru. Byddwn yn nodi ac yn herio anghydraddoldebau mewn gwasanaethau ble bynnag y byddwn yn dod o hyd iddynt, er mwyn sicrhau canlyniadau tecach a gwell i bobl.”
Dywedodd Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru, Gillian Baranski:
“Mae'r datganiad hwn o fwriad strategol yn ailddatgan ein hymrwymiad i herio ein hunain a’r sectorau rydym yn gweithio gyda, i fod yn fwy cyfartal, yn fwy amrywiol ac yn fwy cynhwysol yn y ffordd rydym yn gweithio a’r ffordd y caiff gofal iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant eu darparu.”
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant: Datganiad o Fwriad Strategol