Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi adroddiad arolygu ar gyfer Amddiffyn Plant yng Nghymru

Ar y cyd ag arolygiaethau eraill, gwnaethom gynnal adolygiad ar y cyd o effeithiolrwydd trefniadau gweithio mewn partneriaeth a gwaith asiantaethau unigol ym maes Amddiffyn Plant ledled Cymru.

Adroddiad Trosolwg: Arolygiad ar y Cyd o Drefniadau Amddiffyn Plant 2019 - 2024

Cynhaliwyd Arolygiadau ar y Cyd o Drefniadau Amddiffyn Plant (JICPA) rhwng 2019 a 2024 mewn ymateb i achosion o gam-drin ac esgeuluso plant.  

Lluniwyd adolygiad heddiw gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS), Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Estyn, yn dilyn arolygiadau ar y cyd o'r ymateb amlasiantaethol i achosion o gam-drin ac esgeuluso plant yn ardaloedd y chwe bwrdd diogelu rhanbarthol yng Nghymru rhwng 2019 a 2024. 

Nod y gwaith oedd asesu i ba raddau mae asiantaethau partner yn llwyddo i gyfathrebu a chydweithio i hyrwyddo lles plant a'u hamddiffyn rhag camdriniaeth a niwed.

Mae'r adolygiad wedi tynnu sylw at sawl enghraifft o arfer da o fewn partneriaethau amlasiantaethol, awdurdodau lleol, heddluoedd, gwasanaethau gofal iechyd a gwasanaethau plant, ac enghreifftiau o ddiwylliant diogelu cadarn a pharodrwydd i weithio'n effeithiol ar draws asiantaethau. Dangosodd yr adolygiad hefyd sawl enghraifft o waith arloesol sy'n cael effaith gadarnhaol ar yr ymdrech i wella ansawdd trefniadau amddiffyn plant yng Nghymru.

Fodd bynnag, tynnodd yr adolygiad sylw at rai broblemau systemig sy'n atal trefniadau cydweithio, gan gynnwys y ffaith bod gwahanol systemau TG yn achosi anawsterau a rhai achosion o oedi wrth gyfleu gwybodaeth hanfodol ar draws partneriaid amlasiantaethol. 

Dywedodd llefarydd ar ran AGIC: 

“Rhaid i Weithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant allu cael gafael ar wybodaeth gywir ac allweddol am ddiogelu. Ar ben hynny, mae'n rhaid bod sianeli cyfathrebu cadarn ar waith i ddeall a rhannu risgiau sy'n ymwneud â phlant a chymryd y camau angenrheidiol i'w hamddiffyn. Er mwyn gwneud hyn, dylai partneriaid proffesiynol ddefnyddio'r un systemau rhannu gwybodaeth.

Mae ein harolygiadau wedi tynnu sylw at yr effaith y mae'r heriau hyn yn ei chael ar blant, rhieni, gofalwyr a staff sy'n ymwneud â diogelu plant a phobl ifanc. Drwy fynd i'r afael â'r materion hyn, gall asiantaethau partner gydweithio'n fwy effeithiol i sicrhau bod diogelwch plant sy'n wynebu risg yn cael ei gynnal.

Rydym yn ymrwymedig i weithio gydag asiantaethau partner i wella trefniadau amddiffyn plant, er mwyn sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael ei amddiffyn rhag niwed. Mae ein gwaith arolygu ar y cyd yn chwarae rôl allweddol wrth nodi meysydd i'w gwella a llywio newid cadarnhaol i arferion diogelu.”

I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, darllenwch yr adroddiad llawn isod.

Y camau nesaf 

Rydym yn disgwyl i asiantaethau ac awdurdodau ystyried y meysydd i'w gwella a nodwyd a chymryd camau priodol i fynd i'r afael â'r meysydd hyn a'u gwella. Byddwn yn monitro cynnydd drwy ein gweithgarwch adolygu perfformiad parhaus gyda'r asiantaethau a'r awdurdodau hynny. 

Lle y bo'n berthnasol, rydym yn disgwyl i'r asiantaethau a'r awdurdodau rannu'r arferion cadarnhaol a nodwyd â phartneriaid eraill, er mwyn rhannu'r gwersi a ddysgwyd a helpu i lywio gwelliant parhaus mewn gwasanaethau statudol ledled Cymru.

 

Adroddiad Trosolwg: Arolygiad ar y Cyd o Drefniadau Amddiffyn Plant 2019 – 2024