Cyhoeddi adroddiad blynyddol ar y defnydd o’r trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid yng Nghymru
Ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Cymru, rydym wedi cyhoeddi'r adroddiad monitro blynyddol ar y defnydd o’r trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid yng Nghymru.
Datblygwyd y trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid i sicrhau bod hawliau dynol pobl yn cael eu diogelu a’u cynnal, a bod y gofal y maent yn ei dderbyn er eu lles gorau ac yn cael ei ddarparu yn y modd lleiaf cyfyngol.
Mae’r trefniadau diogelu yn berthnasol i bobl dros 18 oed na allant gydsynio i driniaeth neu ofal mewn ysbyty neu gartref gofal. Maent yn darparu fframwaith cyfreithiol ar gyfer amddifadu i atal achosion o dorri'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.
Darllenwch yr adroddiad llawn a'r holl ganfyddiadau allweddol isod.