Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi rhybudd i ddarparwr sy'n defnyddio gwasanaethau laser anghofrestredig

Yn dilyn ymchwiliad troseddol diweddar, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi defnyddio ei phwerau cyfreithiol o ganlyniad i achos o dorri Deddf Safonau Gofal 2000.

Mae'n dilyn tystiolaeth o ddwy gwmni cysylltiedig yn darparu gwasanaethau triniaeth laser esthetig yng Nghaerdydd heb gofrestriad. 

Yn gyfan gwbl, cyflawnwyd wyth trosedd yn unol ag Adran 11 o Ddeddf Safonau Gofal 2000. Cyflawnodd pob cwmni cyfyngedig y drosedd o gynnal sefydliad heb gofrestru, cyflawnodd pob person sy'n rheoli'r gwasanaethau y drosedd o reoli sefydliad heb gofrestru, ac mae dau gyfarwyddwr pob cwmni cyfyngedig wedi cyflawni'r drosedd yn unol ag Adran 11 a 30(2), o gydsynio i gyflawni'r troseddau hynny.

Cyflwynwyd y rhybudd hwn ar ôl canfod bod y lleoliadau wedi bod yn gweithredu heb gofrestriad rhwng mis Mehefin 2023 a mis Hydref 2023, a mis Hydref 2023 a mis Chwefror 2024, yn y drefn honno.

Fel rheoleiddiwr gwasanaethau gofal iechyd annibynnol yng Nghymru, mae AGIC yn ymrwymedig i weithredu pan na chaiff safonau eu cyrraedd. Pan na fydd darparwr gofal iechyd annibynnol yn cydymffurfio â gofynion rheoliadol, byddwn yn gweithredu. 

Mae'n ofynnol i ysbytai, clinigau ac asiantaethau meddygol annibynnol gofrestru ag AGIC cyn darparu unrhyw weithgaredd rheoleiddiedig o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000.

Os ydych yn bwriadu defnyddio gwasanaeth gofal iechyd annibynnol, cadarnhewch fod y gwasanaeth hwnnw wedi'i gofrestru ag AGIC gan ddefnyddio'r cyfleuster chwilio ar ein gwefan. Os na allwch ddod o hyd i'r gwasanaeth neu os oes gennych wybodaeth am ddarparwr gofal iechyd anghofrestredig yng Nghymru, hoffem glywed gennych chi.

Darperir gwasanaethau gofal iechyd mewn nifer o wahanol ffyrdd a gan amrywiaeth o weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Os bydd unrhyw amheuaeth ynghylch yr angen i gofrestru, fe'ch cynghorir i gysylltu ag AGIC i gael cyngor drwy gwblhau a chyflwyno Ffurflen Ymholiad Cofrestru.