Bydd cynhadledd Conffederasiwn GIG Cymru yn cael ei chynnal ar 12 Medi yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd, Caerdydd.
Gan ddod ag arweinwyr ynghyd o bob rhan o iechyd a gofal a thu hwnt, bydd cynrychiolwyr yn clywed gan arbenigwyr yn y diwydiant, yn cymryd rhan mewn gweithdai rhyngweithiol ac yn cael digon o gyfle i rwydweithio â chynrychiolwyr ac arddangoswyr eraill.
Bydd AGIC yn arddangos yn y gynhadledd eleni ynghyd ag arddangoswyr eraill ar draws y sector Iechyd a gofal. Byddwn ar stondin 10, dewch i ddweud helo.