Cysylltu â ni dros gyfnod y Nadolig
Gwybodaeth am ein hamseroedd agor dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd a sut y gallwch gysylltu â ni
Dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, byddwn ar gau ar y dyddiadau canlynol:
25, 26 a 27 Rhagfyr – Ar gau
1 Ionawr – Ar gau
Byddwn ar agor fel yr arfer eto ar 2 Ionawr.
Bydd ein llinellau ffôn yn cau am 3:00yp 24 Rhagfyr a 31 Rhagfyr. Bydd ein blwch post, agic@llyw.cymru yn parhau i gael ei fonitro tan 4:30yp ar y diwrnodau hynny.
Bydd oriau gweithredu arferol yn gymwys ar bob diwrnod arall.
Beth i'w wneud os bydd gennych bryder
Os byddwch yn pryderu am y gofal rydych chi, aelod o'ch teulu neu ffrind wedi ei gael neu'n ei gael ar hyn o bryd, cysylltwch â'ch bwrdd iechyd lleol i drafod eich pryderon.
Yna os byddwch am roi gwybod i ni am eich pryder, llenwch ein ffurflen gysylltu.
Os ydych yn weithwyr gofal iechyd ac eisiau codi pryder
Os bydd gennych bryderon am rywbeth sy'n digwydd lle rydych yn gweithio a allai effeithio ar gleifion, eich cydweithwyr, neu'r sefydliad cyfan, gallwch ddod o hyd i wybodaeth ar ein tudalen chwythu'r chwiban.
Cyfeiriad diogelu
Os byddwch yn pryderu bod plentyn neu oedolyn yn eich teulu neu'r gymuned mewn perygl o niwed, trais neu esgeulustod, gallwch gysylltu â'r gwasanaethau cymdeithasol yn eich ardal i roi gwybod am bryder diogelu. Ewch i wefan Llywodraeth Cymru i gael manylion cyswllt drwy ddefnyddio'r dolenni canlynol:
Diogelu plant: rhoi gwybod os ydych yn amau achos o gam-drin, esgeulustra neu niwed | GOV.WALES
Diogelu oedolion: rhoi gwybod os ydych yn amau achos o gam-drin, esgeulustra neu niwed | GOV.WALES