Cysylltu â ni dros y Pasg
Y Pasg hwn, bydd ein swyddfeydd ar gau o 5pm ddydd Iau, 17 Ebrill. Bydd ein horiau busnes arferol yn ailddechrau ddydd Mawrth, 22 Ebrill.

Beth i'w wneud os bydd gennych bryder
Os byddwch yn pryderu am y gofal rydych chi, aelod o'ch teulu neu ffrind wedi ei gael neu'n ei gael ar hyn o bryd, cysylltwch â'ch bwrdd iechyd lleol i drafod eich pryderon.
Yna os byddwch am roi gwybod i ni am eich pryder, llenwch ein ffurflen gysylltu.
Os ydych yn weithwyr gofal iechyd ac eisiau codi pryder
Os bydd gennych bryderon am rywbeth sy'n digwydd lle rydych yn gweithio a allai effeithio ar gleifion, eich cydweithwyr, neu'r sefydliad cyfan, gallwch ddod o hyd i wybodaeth ar ein tudalen chwythu'r chwiban.
Cyfeiriad diogelu
Os byddwch yn pryderu bod plentyn neu oedolyn yn eich teulu neu'r gymuned mewn perygl o niwed, trais neu esgeulustod, gallwch gysylltu â'r gwasanaethau cymdeithasol yn eich ardal i roi gwybod am bryder diogelu. Ewch i wefan Llywodraeth Cymru i gael manylion cyswllt drwy ddefnyddio'r dolenni canlynol:
Diogelu plant: rhoi gwybod os ydych yn amau achos o gam-drin, esgeulustra neu niwed | GOV.WALES
Diogelu oedolion: rhoi gwybod os ydych yn amau achos o gam-drin, esgeulustra neu niwed | GOV.WALES