Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II, 1926 – 2022
Ar ran Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, testun tristwch mawr i ni yw clywed am farwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines.
Neges gan y Prif Weithredwr Alun Jones:
"Rwy’n siarad ar ran pob un ohonom yn Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru pan ddywedaf pa mor drist ydym i alaru am farwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines. Fel y teyrn â'r teyrnasiad hiraf yn hanes y Deyrnas Unedig, mae ei hymroddiad i wasanaeth cyhoeddus a'i hurddas wrth gyflawni’r rôl hon wedi bod yn ysbrydoledig ac yn rhodd arbennig."