Neidio i'r prif gynnwy

Eisoes wedi cofrestru ac am roi gwybod i ni bod rhywbeth wedi newid?

Sut i roi gwybod i ni am newidiadau i'ch gwasanaeth

Practisau deintyddol preifat a gwasanaethau gofal iechyd annibynnol

Mae'n rhaid i bractisau deintyddol preifat, practisau mynediad uniongyrchol preifat a gwasanaethau gofal iechyd annibynnol sydd wedi'u cofrestru ag AGIC roi gwybod i ni yn ysgrifenedig pan fydd newidiadau penodol yn digwydd,  sef:

  • Newidiadau i'r Datganiad o Ddiben a'r Canllaw i Gleifion/Taflen Wybodaeth i Gleifion
  • Newidiadau i'r person(au) cofrestredig
  • Person(au) cofrestredig yn cael ei ddyfarnu'n euog o drosedd
  • Absenoldeb person cofrestredig
  • Newidiadau i'r sefydliad
  • Penodi datodwyr
  • Marwolaeth person cofrestredig

Sut i roi gwybod i ni

Mae ffurflenni ar gael isod.  Cwblhewch y ffurflenni gan roi cymaint o wybodaeth â phosibl cyn eu hanfon atom. Cofiwch gynnwys unrhyw wybodaeth arall sydd yn bwysig yn eich barn chi.  Pan fyddwn wedi ystyried yr hyn rydych wedi'i ddweud wrthym efallai y byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth.

Sut i anfon y wybodaeth atom

Yn aml, bydd yr hyn rydych yn ei ddweud wrthym yn cynnwys gwybodaeth sensitif.  Gallwch naill ai anfon ffurflenni drwy'r Post Brenhinol diogel neu gallwch eu hanfon drwy Objective Connect, sy'n ffordd ddiogel o anfon gwybodaeth atom yn electronig. 

Os nad oes gennych gyfrif Objective Connect, cysylltwch ag AGIC ar 0300 062 8163.

Yr hyn y byddwn yn ei wneud gyda'r wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni

Byddwn yn ystyried y wybodaeth y byddwch yn ei hanfon atom o fewn 10 diwrnod o'r dyddiad y daw i law a byddwn yn ei chadw gyda'ch cofnodion eraill.  Os bydd angen unrhyw wybodaeth arall gennych neu os bydd angen i chi gymryd unrhyw gamau pellach byddwn yn rhoi gwybod i chi.

Y gyfraith

Mae Rheoliadau 7 (b), 10(2), 26, 27, 28, 29 a 30 o Reoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017 yn nodi bod yn rhaid i berson cofrestredig practis deintyddol preifat ein hysbysu yn ysgrifenedig pan fydd newidiadau yn digwydd.

Mae Rheoliadau 8(b), 11(2), 11(3), 14, 32, 33, 34 a 35 o Reoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011 yn nodi bod yn rhaid i berson cofrestredig ysbyty annibynnol, clinig annibynnol neu asiantaeth feddygol annibynnol ein hysbysu yn ysgrifenedig pan fydd newidiadau yn digwydd.

Dogfennau