Neidio i'r prif gynnwy

Er Cof am Dr Matthew Sargeant

Clywsom y newyddion trist iawn yr wythnos hon fod ein prif Feddyg a Benodwyd i Roi Ail Farn, Dr Matthew Sargeant, wedi marw.

Dr Matthew Sargeant

Hoffem dalu teyrnged i Matthew a oedd yn arweinydd yn ei faes, sef seiciatreg, ac yr oedd parch mawr tuag ato ymhlith ei holl gydweithwyr ledled Cymru ac, yn wir, y DU. Gwnaeth gyfraniad helaeth ym maes seiciatreg ac roedd ei ymrwymiad diderfyn i ddarparu gofal eithriadol i bobl Cymru yn gwbl amlwg. Roedd yn fentor ac yn ffynhonnell cymorth i lawer o feddygon eraill, a oedd yn dibynnu ar ei brofiad a'i arbenigedd eang i'w harwain.

Yn ogystal â'i gyflawniadau proffesiynol, roedd Matthew hefyd yn ffrind annwyl i lawer o'i gydweithwyr ac i bawb yn Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Bydd pob un ohonom yn gweld eisiau ei ymrwymiad, ei etheg waith ddigynsail a'i garedigrwydd.

Rydym yn ddiolchgar iawn ein bod wedi cael yr anrhydedd o gael profiad uniongyrchol o waith ardderchog Matthew, ei garedigrwydd a'i ffraethineb. Roedd yn ymrwymedig i'w waith gydag AGIC a gwnaeth wahaniaeth i gynifer o fywydau. Mae ei golli wedi gadael gwacter yn ein tîm ac yn ein calonau, ac mae'r byd ychydig yn dywyllach hebddo.

Rydym yn meddwl am wraig Matthew, ei deulu, ei ffrindiau a'i gydweithwyr y bydd eu colled yn sylweddol. Hoffem gydymdeimlo'n ddwys â nhw i gyd ar yr adeg hon.

Diolch Dr Sargeant, Matthew, Dr Sarg ar ran pawb yn AGIC ac ar ran pobl Cymru am eich gwaith a'ch gofal trugarog. Byddwn yn gweld eich eisiau ac yn cofio'n dyner amdanoch.

Katherine Williams, Cyfarwyddwr Cyngor Clinigol a Llywodraethu Ansawdd