Neidio i'r prif gynnwy

Ffioedd Gofal Iechyd Annibynnol

Mae ffioedd yn daladwy, oni bai eich bod yn gymwys am eithriad, pan fyddwch yn gwneud cais i gofrestru ar gyfer; amrywio amodau cofrestriad; dileu amodau cofrestriad; ac yn flynyddol er mwyn cynnal cofrestriad.

Ffioedd gwneud cais

Caiff ffioedd eu hanfon fel anfoneb drwy e-bost pan fyddwn yn cadarnhau ein bod wedi derbyn cais llawn.  Bydd yr e-bost yn rhoi'r manylion am y swm y bydd angen i chi ei dalu, y dyddiad y bydd angen ei dalu a sut y gallwch ei dalu.  Ni ddylech dalu eich ffi tan i chi dderbyn yr anfoneb.  Caiff y ffioedd cofrestredig taladwy eu rhestru isod:

Ysbytai Annibynnol

Categori

Ffi ymgeisio i gofrestru fel DarparwrFfi gwneud cais i gofrestru fel Rheolwr
Ysbyty nad yw'n acíwt£1,500£100
Ysbyty acíwt£2,500£100
Ysbyty Iechyd Meddwl£2,500£100
Ysbyty Terfynu Beichiogrwydd£750£100
Ysbyty Mamolaeth£1,500£100
Triniaeth feddygol sy'n defnyddio anesthesia lleol£750£100
Dental treatment under general anaesthesia£750£100
Llawdriniaeth gosmetig£2,500£100

 

Ysbyty Annibynnol a'i brif ddiben yw darparu triniaeth gan ddefnyddio Techneg a Ragnodir neu Dechnoleg a Ragnodir

Categori

Ffi ymgeisio i gofrestru fel DarparwrFfi gwneud cais i gofrestru fel Rheolwr
Ffrwythloni In-vitro (IVF)£750£100
Cynhyrchion Laser Dosbarth 3B neu ddosbarth 4 sy'n cael eu defnyddio at ddibenion heb lawdriniaeth£500£100
Cynhyrchion Laser Dosbarth 3B neu ddosbarth 4 sy'n cael eu defnyddio at ddibenion llawdriniaeth£750£100
Goleuni Pwls Dwys (IPL)£500£100
Dialysis£750£100
Endosgopi£750£100
Therapi Ocsigen Hyperbarig£750£100
Enwaedu Dynion£500£100

 

Asiantaeth feddygol a chlinigol annibynnol

Categori

Ffi gwneud cais i gofrestru fel DarparwrFfi gwneud cais i gofrestru fel Rheolwr
Clinig Annibynnol£500£100
Asiantaeth Feddygol Annibynnol£500£100

Lle bydd cais i gofrestru yn cael ei nodi ar un neu fwy o'r categorïau isod, dim ond un ffi fydd yn daladwy, a hon fydd y ffi uchaf. Os bydd mwy nag un unigolyn yn gwneud cais i gofrestru, bydd angen i bob unigolyn dalu ffi.  Dim ond ffi Darparwr fydd yn daladwy lle bydd unig fasnachwr yn gwneud cais i gofrestru.

Ffioedd DBS

Fel rhan o'r broses gofrestru, rhaid i AGIC gynnal gwiriad DBS mewn perthynas â'r Rheolwr/Rheolwyr Cofrestredig a'r Unigolyn/Unigolion Cyfrifol, sydd wedi ei gyhoeddi yn y 3 blynedd diwethaf.  Lle y bo'n briodol, caiff pecynnau cais DBS eu postio ar ôl derbyn cais i gofrestru, ac anfonir anfoneb am ffi o £44 i gwmpasu'r gost drwy e-bost.

Eithriadau ffioedd

Nid fydd angen i chi dalu ffi gofrestru os byddwch yn gwneud cais i gofrestru Hosbis neu os byddwch yn cofrestru fel elusen ac mae'r holl wasanaethau a ddarperir gan yr elusen honno am ddim, ac nid yw gwasanaethau'r elusen yn cael eu comisiynu gan y GIG neu gan awdurdod lleol.  Nid yw'r eithriad hwn yn berthnasol i Reolwyr Cofrestredig elusennau sy'n ateb y meini prawf hyn.

Ffioedd blynyddol

Mae eich ffi flynyddol yn ddyledus un mis ar ôl y dyddiad cofrestru ac yn flynyddol, felly yn ystod y mis lle bydd blwyddyn ers i chi gofrestru (gellir dod o hyd i'r dyddiad cofrestru ar eich tystysgrif cofrestru).  Byddwn yn anfon anfoneb atoch i roi gwybod i chi bod eich ffi flynyddol yn ddyledus  Bydd yr e-bost yn rhoi'r manylion am y swm y bydd angen i chi ei dalu, y dyddiad y bydd angen ei dalu a sut y gallwch ei dalu.  Ni ddylech dalu eich ffi tan i chi dderbyn yr anfoneb.  Caiff y ffioedd taladwy eu rhestru isod:

Categori

Ysbytai Annibynnol

FfiFfi ychwanegol ar gyfer pob lleoliad a gymeradwyir (gwely dros nos): 1- 25Ffi ychwanegol ar gyfer pob lleoliad a gymeradwyir (gwely dros nos):26- 59Ffi ychwanegol ar gyfer pob lleoliad a gymeradwyir (gwely dros nos):60Ffi ychwanegol ar gyfer pob lleoliad a gymeradwyir (gwely dros nos):100+
Ddim yn acíwt£1,500£200£100£100£100
Acíwt£2,000£200£100£50£25
Iechyd meddwl£2,000£200£100£50£25
Terfynu beichiogrwydd£1,500----
Mamolaeth£2,000£200£100£100£100
Triniaeth a ddarperir gan ddefnyddio anesthesia lleol£750----
Dental treatment under general anaesthesia£1,500----
Llawdriniaeth gosmetig£2,000£200£50£50£50

Er enghraifft, os ydych yn ysbyty acíwt gyda 55 o fannau a gymeradwyir, byddai'r cyfrifiad yn:

Ffi ar gyfradd wastad = £2,000

Mannau 1-25 = 25 x £200 = £5,000

Mannau 26-55 = 30 x £100 = £3,000

Cyfanswm ffi flynyddol = £10,000

Categori Ysbyty Annibynnol a'i brif ddiben yw darparu triniaeth gan ddefnyddio Techneg a Ragnodir neu Dechnoleg a

Ragnodir

Ffi
Ffrwythloni In-vitro (IVF)£1,500
Cynhyrchion laser dosbarth 3B neu ddosbarth 4 sy'n cael eu defnyddio at ddibenion heb lawdriniaeth£500
Cynhyrchion laser dosbarth 3B neu ddosbarth 4 sy'n cael eu defnyddio at ddibenion llawdriniaeth£750
Goleuni Pwls Dwys (IPL)£500
Dialysis£1,500
Endosgopi£1,500
Therapi ocsigen hyperbarig£1,500
Enwaedu dynion£500

 

Asiantaeth feddygol a chlinigol annibynnol

Categori

Ffi
Clinig Annibynnol£500
Asiantaeth Feddygol Annibynnol£500

Os ydych wedi cofrestru mwy nag unwaith am eich bod yn defnyddio gwasanaethau drwy endidau cyfreithiol ar wahân, bydd ffi flynyddol yn gymwys ar gyfer pob un o'ch cofrestriadau.

Os na fyddwch yn talu eich ffi flynyddol erbyn y dyddiad disgwyliedig, Bydd AGIC yn cyhoeddi Hysbysiad o Gynnig i ganslo eich cofrestriad.  Efallai y bydd AGIC hefyd yn dewis adfer y ffi fel dyled sifil.

Ffioedd i amrywio neu ddileu amod cofrestriad

Os byddwch yn dymuno dileu neu newid (amrywio) amod cofrestriad, bydd angen i chi dalu ffi.  Mae'r tabl isod yn gosod y ffioedd hyn.  Dylech gyflwyno'r cais i AGIC a byddwn yn anfon anfoneb drwy e-bost a fydd yn nodi'r ffi daladwy, y dyddiad dyledus a chyfarwyddiadau ar sut i wneud y taliad.

Math o newidFfi
Mân amrywiadau£250
Amrywiadau mawr£500
Dileu amod£50

Amrywiadau mawr

Amrywiad mawr yw amrywiad o amodau lle mae AGIC yn ystyried ei fod yn briodol ymweld â'r lleoliad i gael sicrwydd er mwyn penderfynu ar y cais.  Yn aml bydd yn gais fydd yn newid y rheswm gwreiddiol dros ganiatáu'r cofrestriad.   Ceir enghreifftiau isod ond caiff pob cais ei ystyried yn ôl ei haeddiant: 

  • Ehangu'r gwasanaeth i lety sydd newydd gael ei adeiladu sy'n cynnwys addasiadau strwythurol fel:
    • newid y waliau;
    • newid llwybrau allanfeydd tân;
    • newid defnydd yr ystafelloedd a ddefnyddir gan gleifion.
  • Newidiadau i wasanaeth sy'n gofyn am gyfarpar/staff newydd.
  • Darparu triniaeth gan ddefnyddio cynnyrch laser Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4 (lle na chaiff gwasanaethau tebyg eu darparu eisoes).

Mân amrywiadau

Mân amrywiad yw newid i wasanaeth lle nad yw'n angenrheidiol i AGIC ymweld â'r lleoliad i gael sicrwydd er mwyn penderfynu ar y cais.  Ceir enghreifftiau isod ond caiff pob cais ei ystyried yn ôl ei haeddiant:

  • Rhoi'r gorau i fathau o driniaeth neu wasanaeth.
  • Mân addasiadau adeiladu i leoliad.
  • Cynnyrch laser Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4 newydd er mwyn cynnal triniaethau tebyg i'r rhai sydd eisoes wedi'u cofrestru.

Ad-daliadau

Os byddwch yn gwneud cais i ganslo eich cofrestriad efallai y bydd hawl gennych i gael ad-daliad.

  • Ni fydd eich ad-daliad yn fwy na 50% o'r ffi flynyddol.
  • Bydd pob ad-daliad yn cael ei gyfrifo yn seiliedig ar y nifer o chwarteri fydd yn weddill o'r flwyddyn gofrestru (wedi'i gyfrifo o ddyddiad talu eich ffi flynyddol) 
  • Mae chwarter o'r flwyddyn yn golygu cyfnod o dri mis olynol.
  • Wrth gyfrifo sawl chwarter o'r flwyddyn sy'n weddill, ni fydd y mis calendr y caiff y cais i ganslo ei dderbyn ei cael ei gyfrif.

Y gyfraith

 

Mae Rheoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2011 yn gosod ffioedd sy'n daladwy i wneud cais am gofrestriad ac i gynnal cofrestriad yn flynyddol o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000

Mae'r ffioedd priodol yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth uchod fel y'u nodwyd gan Weinidogion Cymru.  Nid AGIC sy'n gyfrifol am osod y ffioedd hyn.