Neidio i'r prif gynnwy

Ffioedd Practis Deintyddol Preifat

Ffioedd gwneud cais

Nid yw ffioedd yn daladwy i wneud cais i gofrestru fel practis deintyddol preifat. Fodd bynnag, mae ffi flynyddol yn daladwy i barhau'n gofrestredig, yn ogystal â rhai ffioedd pan fydd pethau'n newid. Manylir ar y ffioedd hyn isod.

Ffioedd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Fel rhan o'r broses gofrestru, mae angen tystysgrif DBS uwch ar AGIC sydd wedi cael ei chyhoeddi yn y tair blynedd diwethaf at ddibenion deintyddiaeth mewn perthynas â'r Rheolwr/Rheolwyr Cofrestredig. Er nad yw'n ofynnol iddynt gael eu cynnal gan AGIC, gallwn wneud hyn ar ran Rheolwyr Cofrestredig ac Unigolion Cyfrifol sy'n ymgeisio yn unig.  Lle y bo'n briodol, caiff pecynnau cais DBS eu postio ar ôl derbyn cais i gofrestru, ac anfonir anfoneb am ffi o £44 i gwmpasu'r gost drwy e-bost.

Ffioedd blynyddol

Math o bractisFfi
Practis preifat yn unig£500
Practisau GIG a phreifat lle mae 2 ddeintydd neu fwy yn darparu gwasanaethau deintyddol.£500
Practisau GIG a phreifat lle nad oes mwy nag un deintydd yn darparu gwasanaethau deintyddol.£300

Mae eich ffi flynyddol yn ddyledus un mis ar ôl y dyddiad cofrestru (pro rata ar gyfer y misoedd sy'n weddill o'r flwyddyn ariannol) ac yn flynyddol ar 1 Ebrill ar ôl hynny.  Byddwn yn anfon anfoneb atoch i roi gwybod i chi bod eich ffi flynyddol yn ddyledus  Bydd hyn yn rhoi'r manylion am y swm y bydd angen i chi ei dalu, y dyddiad y bydd angen ai dalu a sut y gallwch ei dalu.  Ni ddylech dalu eich ffi tan i chi dderbyn yr anfoneb.

Os na fyddwch yn talu eich ffi flynyddol erbyn y dyddiad disgwyliedig, Bydd AGIC yn cyhoeddi Hysbysiad o Gynnig i ganslo eich cofrestriad.  Efallai y bydd AGIC hefyd yn dewis adfer y ffi fel dyled sifil.

Ffioedd i amrywio neu ddileu amod cofrestriad

Mathau o newidFfi
Mân amrywiad£250
Amrywiadau mawr£500
Dileu amod£50

Os byddwch yn dymuno dileu neu newid (amrywio) amod cofrestriad, bydd angen i chi dalu ffi.  Mae'r tabl isod yn gosod y ffioedd hyn.  Dylech gyflwyno'r cais i AGIC a byddwn yn anfon anfoneb drwy e-bost a fydd yn nodi'r ffi daladwy, y dyddiad dyledus a chyfarwyddiadau ar sut i wneud y taliad.

Amrywiadau mawr

Amrywiad mawr yw amrywiad o amodau lle mae AGIC yn ystyried ei fod yn briodol ymweld â'r practis i gael sicrwydd er mwyn penderfynu ar y cais. 

Yn aml bydd yn gais fydd yn newid y rheswm gwreiddiol dros ganiatáu'r cofrestriad.   Ceir enghreifftiau isod pan y gellid ystyried bod angen cael arolygiad – fodd bynnag, caiff pob cais ei ystyried yn ôl ei haeddiant:

  • Ehangu'r gwasanaeth i lety sydd newydd gael ei adeiladu sy'n cynnwys addasiadau strwythurol fel:
    • newid y waliau; 
    • newid llwybrau allanfeydd tân;
    • newid defnydd yr ystafelloedd a ddefnyddir gan gleifion.
  • Newidiadau i wasanaeth sy'n gofyn am gyfarpar/staff newydd.
  • Darparu triniaeth ddeintyddol gan ddefnyddio cynnyrch laser Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4.

Mân amrywiad

Mân amrywiad yw newid i wasanaeth lle nad yw'n angenrheidiol i AGIC ymweld â'r practis i gael sicrwydd er mwyn penderfynu ar y cais. 

Ceir enghreifftiau isod o arolygiad na fyddai fel arfer yn cael ei ystyried yn angenrheidiol – fodd bynnag, caiff pob cais ei ystyried yn ôl ei haeddiant:

  • Rhoi'r gorau i fathau o driniaeth neu wasanaeth.
  • Mân addasiadau adeiladu i leoliad. 
  • Cynnyrch laser Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4 newydd er mwyn cynnal triniaethau tebyg i'r rhai sydd eisoes wedi'u cofrestru.

Ad-daliadau

Os byddwch yn gwneud cais i ganslo eich cofrestriad efallai y bydd hawl gennych i gael ad-daliad.

  • Ni fydd eich ad-daliad yn fwy na 75% o'r ffi flynyddol.
  • Bydd pob ad-daliad yn cael ei gyfrifo yn seiliedig ar y nifer o chwarteri fydd yn weddill o'r flwyddyn gofrestru (wedi'i gyfrifo o ddyddiad talu eich ffi flynyddol) 
  • Mae chwarter o'r flwyddyn yn golygu cyfnod o dri mis olynol.
  • Wrth gyfrifo sawl chwarter o'r flwyddyn sy'n weddill, ni fydd y mis calendr y caiff y cais i ganslo ei dderbyn ei cael ei gyfrif.

Y gyfraith

Mae rheoliadau 33 a 34, Atodlen 5 Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017 yn gosod y ffioedd sy'n daladwy i gynnal ac i amrywio cofrestriad dan Ddeddf Safonau Gofal 2000

Mae'r ffioedd priodol yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth uchod fel y'u nodwyd gan Weinidogion Cymru.  Nid AGIC sy'n gyfrifol am osod y ffioedd hyn.