Neidio i'r prif gynnwy

Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid

Mae pobl wrth wraidd yr hyn rydym yn ei wneud ac fel rhan o'n hymrwymiad i ddeall anghenion pobl yn well, rydym am glywed yn uniongyrchol gan bobl a chymunedau amrywiol ledled Cymru.

hands up

Credwn mewn gweithio gydag eraill i wella ansawdd gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru. Rydym am ddeall mwy am grwpiau amrywiol, er mwyn sicrhau bod ein gwaith yn ystyried y materion sy'n effeithio ar ansawdd y gwasanaethau gofal iechyd a ddarperir.

Bydd diben Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid AGIC yn dylanwadu ar y ffordd rydym yn gwneud ein gwaith mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Bydd gan grŵp gynrychiolaeth amrywiol er mwyn cynghori a llywio ein cynlluniau a'n ffrydiau gwaith.

Rydym yn cydnabod effaith wrthgyfartal gofal iechyd, lle y mae'r rheini â'r angen mwyaf yn aml yn dod o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig yn ein cymunedau. Nod ein strategaeth yw asesu ansawdd a hygyrchedd gofal iechyd i bawb ledled Cymru.

Drwy'r grŵp hwn, ein nod yw datblygu a meithrin ein dealltwriaeth o gymunedau amrywiol, gan weithio tuag at nod a rennir o lywio gwelliannau ym maes gofal iechyd.

Aelodau'r Grŵp

Mind Cymru

Age Cymru

Race Council Cymru

Triniaeth Deg i Fenywod Cymru (FTWW)

Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (RNIB)

Anabledd Cymru

Umbrella Cymru

Cyngor Ffoaduriaid Cymru

Glitter Cymru

Cyngor Cymru i Bobl Fyddar

Gofalwyr Cymru

Adferiad Recovery

Youth Cymru

Stonewall Cymru

Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar (RNID)

Stroke Association

The Wallich

Asiantaeth Adfer Caethiwed (ARA)

Os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â: AGIC.cyfathrebu@llyw.cymru