Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed: Adolygiad Dilynol o Faterion Diogelwch

Adolygiad dilynol ar y cyd yn darganfod bod arferion yn parhau i beri risgiau i blant a phobl ifanc.

Mae plant a phobl ifanc sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn parhau i gael eu rhoi mewn perygl. Dyma gasgliad ein adolygiad dilynol ar y cyd gyda Swyddfa Archwilio Cymru a gyhoeddwyd heddiw.

Canolbwyntiodd yr adolygiad ar y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd mewn ymateb i bryderon yn ymwneud â diogelwch a nodwyd yn adroddiad Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) a gyhoeddwyd yn 2009.

Mae'r adroddiad dilynol hwn a gyhoeddwyd heddiw yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru a byrddau iechyd wedi gwneud rhywfaint o gynnydd o ran mynd i'r afael â'r materion diogelwch a amlygwyd yn adroddiad 2009. Roedd y gwelliannau a wnaethpwyd yn cynnwys diwygio polisïau a gweithdrefnau, cryfhau hyfforddiant, ac ehangu gwasanaethau cymorth cymunedol.

Fodd bynnag, er gwaethaf y gwelliannau erys y risgiau a nodwyd yn adroddiad 2009: mae rhai plant a phobl ifanc yn parhau i gael eu derbyn yn amhriodol i wardiau iechyd meddwl oedolion, nid yw gweithwyr iechyd proffesiynol yn rhannu gwybodaeth ac yn cyflawni eu dyletswyddau diogelu bob tro, ac mae arferion rhyddhau anniogel yn parhau.

Mae gwasanaethau cymunedol sy'n darparu cymorth dwys wedi cael eu hehangu yn ystod y blynyddoedd diwethaf a cheir cynlluniau i ehangu'r gwasanaethau hyn ymhellach. Fodd bynnag, ni fyddant ar gael ym mhob rhan o Gymru, ac yn y rhannau hynny lle nad yw'r gwasanaeth hwn ar gael mae mwy o ddibyniaeth ar wasanaethau cleifion mewnol. Mae pobl ifanc yn parhau i gael eu derbyn yn amhriodol i wardiau iechyd meddwl, ac nid yw'r camau i leihau'r risgiau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu yn yr amgylchiadau hyn wedi bod yn gwbl lwyddiannus. Yn ogystal mae diffyg capasiti yn y ddwy uned CAMHS arbenigol yng Nghymru hefyd yn peri i blant a phobl ifanc gael eu hanfon y tu allan i'r ardal y maent yn byw ynddi i gael triniaeth.


Daw'r adroddiad hefyd i'r casgliad er bod polisïau a gweithdrefnau diwygiedig wedi cryfhau'r hyfforddiant a roddwyd ar waith i wella camau diogelu a rhannu gwybodaeth ymysg gweithwyr iechyd proffesiynol, nid ydynt wedi arwain at welliannau ymarferol ar lawr gwlad.


Hefyd nid yw arferion diogel ar waith o hyd ar gyfer pobl ifanc sy'n colli apwyntiadau. Caiff llawer o bobl ifanc nad ydynt yn cadw apwyntiadau eu rhyddhau heb i ddigon o sylw gael ei roi i'r risgiau dan sylw, ac nid yw byrddau iechyd wedi datblygu trefniadau i wirio diogelwch eu gweithdrefnau rhyddhau. Datblygwyd "protocol nas dygwyd" gan Lywodraeth Cymru, ond nid yw'r effaith y mae'n ei gael ar ddiogelwch rhyddhau pobl ifanc yn hysbys eto ac mae angen ei fonitro.

Gwna'r adroddiad nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru, gyda'r nod o:

  • wella trefniadau adrodd byrddau iechyd ar bobl ifanc a gaiff eu derbyn i ward iechyd meddwl oedolion, gan gynnwys y camau a gymerir i leihau'r risgiau i'r bobl ifanc dan sylw.
  • egluro'r amgylchiadau lle y byddai'n briodol neu'n dderbyniol derbyn pobl ifanc i ward iechyd meddwl oedolion.
  • cryfhau'r systemau ar gyfer monitro'n rheolaidd gydymffurfiaeth y staff â'u cyfrifoldebau diogelu a rhannu gwybodaeth, a chyda phrotocol "nas dygwyd"

Meddai Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas: 

Er gwaethaf y camau a gymerwyd i fynd i'r afael â'r pryderon yn ymwneud â diogelwch a godwyd yn adroddiad 2009, mae plant a phobl ifanc yn parhau i gael eu rhoi mewn perygl. Felly mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r sefyllfa'n fwy grymus i sicrhau bod byrddau iechyd yn dylunio ac yn darparu gwasanaethau sy'n amddiffyn plant a phobl ifanc ac sy'n lleihau'r risgiau iddynt.

Meddai Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Kate Chamberlain: 

Mae'r problemau'n gysylltiedig â darparu gwasanaethau iechyd meddwl diogel i blant a phobl ifanc a nodwyd yn 2009 yn parhau, a cheir heriau sylweddol i Fyrddau Iechyd fynd i'r afael â hwy wrth ddatblygu gwasanaethau a newid arferion proffesiynol ar lawr gwlad. Bydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn parhau i fonitro'r cynnydd sy'n cael ei wneud yng Nghymru o ran gwella effeithiolrwydd a diogelwch gwasanaethau a ddarperir i blant a phobl ifanc.