Gwasanaethau mamolaeth Ysbyty Glangwili wedi gwella'n sylweddol ers yr arolygiad diwethaf
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (2 Mawrth 2023) yn nodi tystiolaeth o welliannau yn y gofal a roddir yn Uned Famolaeth Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin.
Cwblhaodd AGIC arolygiad dirybudd ar safle’r uned famolaeth dros dri diwrnod yn olynol ym mis Tachwedd 2022, gan gynnwys y wardiau cynenedigol ac ôl-enedigol, yr uned a arweinir gan fydwragedd, y ward esgor a’r ardal asesiadau brysbennu. Nododd yr arolygwyr fod y gofal mamolaeth a ddarperir wedi gwella ers arolygiad blaenorol AGIC yn 2019, ond fod angen rhoi sylw i rai meysydd o hyd.
Gwelsom fod y staff yn ymrwymedig i ddarparu gofal o safon uchel i'r cleifion. Gwelodd y tîm arolygu sawl enghraifft o'r staff yn ymddwyn mewn ffordd dosturiol, garedig a chyfeillgar tuag at y cleifion a'u teuluoedd. Dywedodd y rhan fwyaf o'r cleifion y gwnaethom siarad â nhw wrthym eu bod yn hapus ac yn cael gofal da yn yr ysbyty. Nododd yr arolygwyr hefyd fod trefniadau da ar waith i roi cymorth profedigaeth i gleifion a theuluoedd.
Roedd y staff yn cael eu hannog a'u cefnogi i gymryd rhan mewn prosiectau gwella ansawdd er mwyn gwella'r gofal a ddarperir, a chefnogi eu datblygiad parhaus. Roedd y staff yn gadarnhaol am y cymorth a'r arweinyddiaeth roeddent yn eu cael, a gwnaethant ddisgrifio diwylliant cadarnhaol o ran rhoi gwybod am ddigwyddiadau a dysgu gwersi ohonynt. Nododd yr arolygwyr fod y tîm arwain yn weladwy, yn gefnogol ac yn ymgysylltu'n dda iawn â'r staff. Gwnaed gwelliannau hefyd er mwyn cydweithio'n effeithiol â byrddau iechyd eraill.
Nododd rhai o'r menywod ar y ward ôl-enedigol nad oeddent bob amser yn cael meddyginiaeth lleddfu poen mewn modd amserol pan oedd ei hangen arnynt, neu nad oeddent yn cael esboniad pam na allent gael y feddyginiaeth. Rhaid i'r bwrdd iechyd sicrhau bod cleifion yn cael meddyginiaeth lleddfu poen mewn modd effeithlon, diogel ac amserol.
Gwelodd yr arolygwyr fod gwelliannau wedi'u gwneud mewn perthynas â mesurau diogelwch i sicrhau bod babanod yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn yn llawn yn yr ysbyty. Fodd bynnag, ar y noson gyntaf yr arolygiad, nododd yr arolygwyr nad oedd y cypyrddau a oedd yn cynnwys cofnodion y cleifion wedi'u cloi a bod y drysau ar agor. Gwnaeth yr arolygwyr godi hyn ar unwaith gyda'r uwch-reolwyr a chafodd drysau'r cypyrddau eu cloi o ganlyniad. Rhaid i'r tîm rheoli sicrhau bod y staff yn cloi'r oergelloedd meddyginiaethau a'r cypyrddau sy'n cynnwys cofnodion y cleifion pan na fyddant yn cael eu defnyddio. Nodwyd gennym hefyd nad oedd pob aelod o'r staff yn cydymffurfio â hyfforddiant gorfodol a bod angen i'r rheolwyr sicrhau bod y rotas yn cael eu hadolygu er mwyn gwneud yn siŵr bod digon o adnoddau ar gael.
Mynegodd rhai o'r staff y gwnaethom siarad â nhw bryderon ynglŷn â'r anghysondeb o ran ymatebolrwydd meddygon ymgynghorol i argyfwng pan fydd bydwragedd a meddygon iau yn galw amdanynt. Ategwyd hyn hefyd gan sylwadau a wnaed yn yr arolwg staff a gynhaliwyd gennym.
Gwelsom fod gwelliannau sylweddol wedi'u gwneud ers ein harolygiad diwethaf yn 2019. Roedd systemau a phrosesau penodol iawn ar waith i sicrhau bod yr ysbyty yn canolbwyntio ar wella ei wasanaethau'n barhaus. Roedd hyn yn cael ei gyflawni drwy raglen dreigl o archwiliadau a'i strwythur llywodraethu sefydledig, a oedd yn galluogi aelodau allweddol/enwebedig o'r staff i gyfarfod yn rheolaidd i drafod canlyniadau clinigol sy'n gysylltiedig â darparu gofal cleifion.
Mae angen i welliannau parhaus ganolbwyntio ar gydymffurfiaeth staff â phrosesau'r ystafell glinigol, fel sicrhau y caiff yr oergelloedd meddyginiaethau eu cloi'n gyson pan na fyddant yn cael eu defnyddio ac y caiff y cypyrddau sy'n cynnwys cofnodion cleifion eu cloi bob amser.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi llunio cynllun sy'n cynnwys cyfres gynhwysfawr o gamau gweithredu i gefnogi gwelliannau pellach.
Dywedodd Prif Weithredwr AGIC, Alun Jones:
‘Roedd yn gadarnhaol gweld bod newidiadau a gwelliannau sylweddol wedi’u gwneud ers ein harolygiad blaenorol. Rhaid ymdrin â'r pryderon a nodwyd er mwyn sicrhau bod ansawdd y gofal a ddarperir yn parhau i wella.Byddwn yn parhau i ymgysylltu â’r gwasanaeth er mwyn sicrhau cynnydd amserol yn erbyn ein canfyddiadau.’
Tachwedd 2022 – Adroddiad Cryno ar yr Arolygiad – Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin