Neidio i'r prif gynnwy

Gweithgareddau AGIC a gorfodi o dan y Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Datguddio Meddygol) (RhYÏ(DM)) – Adroddiad Blynyddol 2014-2015

Ein hadroddiad blynyddol cyntaf yw hwn ar weithgareddau rheoleiddiol yng Nghymru yng nghyswllt RhYÏ(DM).

Rydym yn gyfrifol am fonitro cydymffurfiaeth â’r Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Datguddio Meddygol) (RhYÏ(DM)) i sicrhau bod cleifion yn cael eu hamddiffyn pan fyddant yn derbyn triniaeth sy'n cynnwys datguddiad i ymbelydredd ïoneiddio.

Rydym yn gwneud hyn trwy asesu ac arolygu adrannau clinigol sy’n defnyddio ymbelydredd ïoneiddio. Rydym hefyd yn adolygu digwyddiadau rydym wedi cael ein hysbysu amdanynt lle mae cleifion wedi bod yn agored i fwy o ymbelydredd nag a fwriadwyd.

Mae ein hadroddiad blynyddol yn manylu ar y canfyddiadau a wnaethom yn ein harolygiadau RhYÏ(DM) yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a'r achosion y gwnaethom eu hadolygu pan gafodd cleifion eu datguddio i swm mwy o ymbelydredd ïoneiddio nag sy'n angenrheidiol.