Gwelliannau sylweddol wedi cael eu gwneud i wasanaethau mamolaeth yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (26 Ebrill) yn dilyn arolygiad dirybudd o'r Uned Famolaeth yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful, a gaiff ei rhedeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Roedd yn gadarnhaol gweld bod llawer o welliannau wedi cael eu gwneud ers ein harolygiad blaenorol ym mis Medi 2022, a nodwyd sawl maes o arfer da. Fodd bynnag, mae'r her sy'n gysylltiedig ag ymdrechion i wella'r diwylliant ac i wella morâl ymhlith y staff yn parhau o hyd. Mae gwelliannau sylweddol wedi cael eu gwneud, ond oherwydd y risgiau uniongyrchol i ddiogelwch cleifion a nodwyd yn ystod yr arolygiad, cyhoeddwyd hysbysiad sicrwydd ar unwaith er mwyn mynd i'r afael â'r lefelau staffio isel yn ystod shifftiau nos, ac i sicrhau y caiff cypyrddau sy'n cynnwys sylweddau peryglus eu cloi'n ddiogel.
Cwblhaodd yr arolygwyr yr arolygiad dirybudd o wasanaethau mamolaeth yr ysbyty dros gyfnod o dri diwrnod dilynol ym mis Ionawr 2024, gan ganolbwyntio ar Ward 21 sy'n darparu gofal cynenedigol a gofal ôl-enedigol, yn ogystal â gwasanaethau ar gyfer ysgogi'r cyfnod esgor. Roedd yr arolygiad hefyd yn cynnwys y Ward Esgor, yr Uned Asesu Dydd a'r Ardal Asesiadau Brysbennu.
Nodwyd bod staff ar bob lefel yn gweithio'n galed i roi profiad cadarnhaol i fenywod a phobl sy'n rhoi genedigaeth. Roedd yr enghreifftiau o ryngweithio a welsom yn ystod yr arolygiad yn dangos parch ac agwedd broffesiynol tuag at y cleifion a'u teuluoedd. Roedd digon o gyfleusterau ac amwynderau yn yr uned, a phan ofynnwyd iddynt, dywedodd y mwyafrif o'r cleifion wrthym eu bod yn cael eu trin ag urddas, tosturi a charedigrwydd.
Gwelodd yr arolygwyr dystiolaeth bod y staff yn gwrando ar ddewisiadau'r cleifion ac yn gweithredu arnynt, gan gynnwys achosion lle nad oedd y dewisiadau hynny yn unol â'r canllawiau a'r llwybrau cenedlaethol. Roedd asesiadau risg wedyn yn cael eu cynnal ar gyfer y dewisiadau hyn ac roedd cynlluniau yn cael eu rhoi ar waith ar eu cyfer. Nodwyd yr arolygwyr bod hyn yn arfer da.
Roedd bydwragedd arbenigol ar gael yn yr uned i gefnogi cleifion a'u teuluoedd yr oedd angen cymorth ychwanegol arnynt. Gwelodd yr arolygwyr fod pawb yn cael gofal wedi'i deilwra at yr unigolyn, a bod trefniadau eirioli ar waith. Pan ofynnwyd iddynt, dywedodd y cleifion wrthym fod y staff yn diwallu eu hanghenion mewn modd amserol, er bod yr uned yn brysur iawn. Fodd bynnag, pan edrychodd yr arolygwyr ar gofnodion y cleifion, gwelwyd bod oedi weithiau wrth roi meddyginiaethau lleddfu poen, a hynny o ganlyniad i lefelau staffio isel yr uned.
Roedd mesurau diogelwch digonol ar waith er mwyn sicrhau bod y babanod yn ddiogel yn yr uned, yn ogystal â mesurau effeithiol ar gyfer atal a rheoli heintiau ym mhob rhan o'r wardiau. Roedd trefniadau llywodraethu'r adran yn gadarn, ac roedd llawer o enghreifftiau o waith tîm amlddisgyblaethol effeithiol ac effeithlon. Roedd cyfraddau cydymffurfio â hyfforddiant gorfodol y staff yn rhagorol, gan gynnwys hyfforddiant ar brofedigaethau a hyfforddiant ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Disgrifiodd yr uwch-reolwyr amrywiaeth eang o fentrau a gynhaliwyd, ac sy'n cael eu cynnal o hyd, i gefnogi llesiant ac i ymgysylltu â'r staff. Fodd bynnag, pan ofynnwyd i'r staff, awgrymwyd nad oedd aelodau'r tîm rheoli yn ymgysylltu ddigon nac i'w gweld ddigon yn yr uned. Roedd yn siomedig nodi bod y sylwadau gan y staff yn debyg i'r sylwadau a wnaed yn ystod ein harolygiad blaenorol, gan gynnwys pryderon am lefelau staffio isel sy'n cael effaith negyddol ar eu llesiant personol.
Dywedodd Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Alun Jones:
‘Roedd yn gadarnhaol gweld bod gwelliannau sylweddol wedi’u gwneud ers ein harolygiad blaenorol, gyda sawl enghraifft o arfer da. Fodd bynnag, rhaid i'r bwrdd iechyd sicrhau bod digon o adnoddau ar y wardiau a allai, yn y pen draw, gael effaith gadarnhaol ar forâl a llesiant y staff. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg er mwyn sicrhau y gwneir cynnydd parhaus yn erbyn ein canfyddiadau.’