Neidio i'r prif gynnwy

Gwelliannau wedi'u nodi, er bod heriau yn parhau ar gyfer Adran Achosion Brys Ysbyty Maelor Wrecsam

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad yn dilyn arolygiad dirybudd o'r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Maelor Wrecsam, a reolir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Ysbyty Maelor Wrecsam Adran achosion brys

Nododd yr arolygiad fod heriau systemig parhaus yn effeithio ar yr adran, gan gynnwys galw uchel a llif cleifion gwael drwy'r ysbyty oherwydd oedi wrth ryddhau cleifion. Fodd bynnag, nododd yr arolygwyr lawer o welliannau cadarnhaol ers yr arolygiad blaenorol ym mis Awst 2022. Roedd hyn yn cynnwys lefelau staffio gwell o ran nyrsys a staff meddygol, yn ogystal â llai o ddibyniaeth ar staff asiantaeth sydd wedi helpu i gynnal parhad a gwybodaeth yr adran. Nododd yr arolygwyr fod diwylliant yr adran wedi gwella, a'i fod yn gadarnhaol, yn gefnogol ac yn gynhwysol. 

Fodd bynnag, nodwyd nifer o bryderon ynghylch diogelwch y cleifion yn ystod yr arolygiad y mae angen gweithredu ar unwaith yn eu cylch. Roedd y rhain yn cynnwys meddyginiaethau yr oedd y dyddiad defnyddio arnynt wedi mynd heibio, a hylifau IV nad oeddent wedi'u storio'n gywir yn eu deunydd pecynnu gwreiddiol. 

Cydnabu'r arolygwyr fod y staff yn gweithio dan amodau heriol, a bod rhai cleifion wedi treulio dros 36 awr yn yr adran o ganlyniad i'r oedi wrth ryddhau cleifion. Er bod gwelliannau wedi cael eu gwneud ers yr arolygiad diwethaf, gwnaethom argymell mentrau pellach i wella llif cleifion ac i fynd i'r afael â phwysau cenedlaethol ar adrannau achosion brys.

Roedd yr ardal aros ac ardaloedd eraill o'r Adran Achosion Brys yn gymharol dawel, er bod llawer o gleifion yn yr ardaloedd hyn. Roedd cleifion â chyflyrau brys a risg uchel yn cael eu huwchgyfeirio'n gyflym ac yn cael eu symud i'r ardaloedd trin priodol. Roedd cymorth arbenigol yn effeithiol, ac roedd y meddygon yn ymateb yn brydlon i asesiadau. Nodwyd bod oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys. Fodd bynnag, mae'r achosion hyn o oedi yn cael eu rheoli ac mae gweithdrefnau uwchgyfeirio priodol ar waith. 

Canfu'r arolygwyr nad oedd pob claf yn cael ei frysbennu o fewn 15 munud ar ôl cyrraedd, fel yr argymhellir, ac roedd achosion lle nad oedd arsylwadau rheolaidd o gleifion yn cael eu cynnal yn gyson na'u cofnodi. Rhaid i'r bwrdd iechyd sicrhau bod y broses frysbennu yn cael ei chwblhau'n brydlon, a bod arsylwadau o gleifion yn cael eu cynnal yn rheolaidd a'u dogfennu er mwyn sicrhau diogelwch y cleifion.

Roedd y staff yn gweithio'n galed i gynnal preifatrwydd ac urddas y cleifion, er bod hyn yn fwy heriol i'r rhai y gofalwyd amdanynt ar drolïau yn y coridorau. Rhaid i'r bwrdd iechyd barhau i geisio lleihau'r defnydd o goridorau ar gyfer gofalu am gleifion. Fodd bynnag, cafwyd adborth cadarnhaol gan y cleifion ar y cyfan, gyda llawer yn canmol y staff am eu proffesiynoldeb a'u hymroddiad. 

Canfu'r arolygiad fod yr adran yn lân ac yn daclus, a bod mesurau atal a rheoli heintiau da ar waith. Fodd bynnag, roedd achosion lle nad oedd cleifion â heintiau a allai fod yn drosglwyddadwy wedi cael eu hynysu. Rhaid i'r bwrdd iechyd sicrhau bod cleifion sydd â symptomau heintiau a allai fod yn drosglwyddadwy yn cael eu rhoi mewn ardal briodol er mwyn lleihau'r risg o groes-heintio. 

Canfu'r arolygwyr fod y dodrefn yn yr ystafell asesu iechyd meddwl yn peri risgiau hunan-niweidio ac yn anaddas, er bod y staff yn sicrhau bod y cleifion yn cael eu goruchwylio. Rhaid i'r bwrdd iechyd gael dodrefn newydd er mwyn sicrhau diogelwch y cleifion a'r staff ac i fynd i'r afael â risgiau clymu. Yn ychwanegol, nid oedd asesiadau risg ar gyfer cwympiadau a briwiau pwyso yn cael eu cwblhau yn gyson ar gyfer y cleifion. 

Wrth adolygu cofnodion cleifion, roedd y rhan fwyaf yn electronig. Fodd bynnag, roedd dogfennaeth a gwblhawyd gan feddygon arbenigol ar bapur, felly roedd yn anodd cael trosolwg llawn o asesiadau a thriniaethau'r cleifion. Rydym yn argymell y dylid cyflwyno system cofnodion electronig ar gyfer y bwrdd iechyd cyfan er mwyn gwella prosesau rhannu gwybodaeth a gofal cleifion. 

Gwelodd yr arolygwyr fod y staff yn ymdrechu i ddarparu gofal mewn ffordd a oedd yn hyrwyddo ac yn amddiffyn hawliau'r bobl, ni waeth beth fo'u rhywedd na'u cefndir. Gallai'r cleifion roi adborth yn uniongyrchol i'r staff, ac roedd systemau ffurfiol ar waith i ddelio â chwynion, a oedd yn gyson â phroses Gweithio i Wella GIG Cymru. 

Roedd enghreifftiau o waith partneriaeth da rhwng gwahanol ddisgyblaethau staff a phroffesiynau o fewn yr adran ac o'r tu allan iddi, gan gynnwys gwasanaethau fferylliaeth, therapi galwedigaethol a ffisiotherapi. Roedd y tîm arwain yn ymrwymedig i wella'r gwasanaeth, ac roedd uwch-staff nyrsio yn darparu cymorth pan oedd y pwysau yn arbennig o drwm. Fodd bynnag, mynegodd y staff fod angen i'r uwch-reolwyr sydd y tu allan i'r adran fod yn fwy gweladwy. Rydym wedi gofyn i'r bwrdd iechyd ystyried sylwadau'r staff ac ystyried sut y gellir gwneud gwelliannau mewn ymateb iddynt. 

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:

          Mae ymrwymiad a phroffesiynoldeb y staff yn Adran Achosion Brys Ysbyty Maelor Wrecsam yn amlwg, a hynny wrth weithio dan amodau heriol. Er bod cynnydd wedi cael ei wneud ers ein harolygiad diwethaf, mae heriau sylweddol o hyd. Yn debyg i lawer o Adrannau Achosion Brys y GIG ledled Cymru, mae Ysbyty Maelor Wrecsam dan bwysau sylweddol. Mae mynd i'r afael â phroblemau systemig mewn perthynas â llif cleifion a'r ffordd y darperir gofal yn hanfodol er mwyn sicrhau gofal diogel ac amserol. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau bod yr argymhellion yn cael eu rhoi ar waith er mwyn ysgogi gwelliannau i ofal cleifion.