Neidio i'r prif gynnwy

Mae Adran Achosion Brys Ysbyty Glan Clwyd yn dangos arwyddion o welliant, ond mae heriau o hyd

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (22 Awst 2024) yn dilyn arolygiad dilynol dirybudd o Adran Achosion Brys Ysbyty Glan Clwyd yn y Rhyl.

Ysbyty Glan Clwyd - Adran Achosion Brys

Ym mis Mai 2022, cafodd yr adran, a gaiff ei rhedeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ei dynodi'n Wasanaeth sydd Angen ei Wella'n Sylweddol (SRSI). Nod proses SRSI AGIC yw nodi methiannau gwasanaeth, er mwyn ysgogi gwelliannau brys. Roedd y dynodiad hwn yn seiliedig ar dystiolaeth a gasglwyd, a arweiniodd at arolygiad dirybudd ar y safle ym mis Mai 2022. Cynhaliwyd arolygiad dilynol wedyn ym mis Tachwedd 2022, a nododd mai dim ond ychydig o welliant a oedd wedi'i wneud ac, felly, bod y dynodiad yn parhau i fod ar waith. 

Yn ystod yr arolygiad diweddar, a gynhaliwyd dros dri diwrnod yn olynol ym mis Ebrill/Mai 2024, gwelsom welliannau amlwg mewn perthynas â'r pryderon sylweddol a nodwyd yn 2022. Roedd y rhain yn cynnwys atgyfeirio cleifion â chyflyrau critigol a risg uchel yn amserol a goruchwyliaeth well o'r ardal aros o gymharu â'r arolygiadau blaenorol. Ar y cyfan, nododd yr arolygwyr ddiwylliant gwell, cynnydd mewn lefelau staffio ac arweinyddiaeth gryfach. 

O ganlyniad i'r gwelliannau allweddol hyn, mae AGIC wedi penderfynu diddymu statws SRSI yr adran Serch hynny, erys nifer o faterion ac mae'r gwasanaeth yn parhau i weithredu mewn amodau heriol iawn. Ymhlith y pryderon roedd amseroedd aros gormodol, prosesau annigonol ar gyfer asesu cleifion, materion yn ymwneud â rheoli meddyginiaethau, a gwiriadau annigonol o gyfarpar achub bywyd. 

Gwelsom fod y trefniadau ar gyfer goruchwylio ystafell aros yr uned wedi gwella a bod argyfyngau cleifion yn cael eu huwchgyfeirio a'u rheoli'n dda. Ar y cyfan, roedd yr adran yn lân ac yn daclus, gyda mesurau atal a rheoli heintiau cadarn ar waith; ac roedd risgiau cyffredinol i iechyd a diogelwch yn cael eu hasesu. 

Fodd bynnag, roeddem yn pryderu bod y pwysau a'r galw yn yr adran yn arwain at fwy o risg i'r cleifion. Mater allweddol a nodwyd oedd llif cleifion gwael drwy'r ysbyty. Ystyr llif cleifion yw symud cleifion drwy system gofal iechyd o'r adeg y cânt eu derbyn i'r adeg y cânt eu rhyddhau. Yn ystod yr arolygiad, roedd tua 50 o gleifion bob dydd yr ystyriwyd eu bod yn ddigon da i gael eu rhyddhau, ac roedd pob un o welyau'r uned yn llawn.  Fodd bynnag, roedd oedi cyn eu rhyddhau am wahanol resymau, yn cynnwys aros am ofal adsefydlu pellach, aros i becyn gofal gael ei roi ar waith neu aros am leoliad mewn cyfleuster gofal arall. Roedd cleifion yn aros tua phedair awr am driniaeth yn yr adran, ac roedd ychydig yn llai na chwarter y cleifion yn aros dros 12 awr cyn cael eu gweld hyd yn oed. Canfu'r arolygwyr fod un claf yr amheuwyd ei fod wedi torri gwddf y forddwyd wedi aros dros 10 awr cyn cael ei weld gan feddyg, ac nad oedd unrhyw gofnod o feddyginiaeth lleddfu poen. Dywedodd rhai cleifion wrthym eu bod wedi aros hyd at 48 awr ac nad oeddent wedi cael unrhyw wybodaeth am eu cynlluniau gofal a thriniaeth. 

Gwelodd yr arolygwyr dystiolaeth o gyfathrebu da ymhlith y staff yn ystod cyfarfodydd trosglwyddo rhwng shifftiau, ynghyd â chydberthnasau gwaith da yn yr adran a gyda staff ambiwlans. Gwelodd yr arolygwyr ryngweithio cadarnhaol rhwng y staff a'r cleifion, gyda'r staff yn trin y cleifion ag urddas a pharch, er gwaethaf yr amodau heriol. Roedd y staff yn sicrhau bod y cleifion yn gallu mynegi eu barn cymaint â phosibl ynglŷn â'u cynlluniau triniaeth. Gallai'r cleifion roi adborth am y gwasanaeth, ac roedd system dda ar waith i gofnodi a rheoli cwynion. 

Gwnaethom ofyn am sicrwydd ar unwaith y byddai camau'n cael eu cymryd mewn nifer o feysydd, gan gynnwys gwirio cyfarpar achub bywyd, rheoli meddyginiaethau, a'r gweithdrefnau a oedd ar waith i archwilio, asesu ac arsylwi ar gleifion yn rheolaidd. Ni chafodd yr arolygwyr sicrwydd bod y prosesau rheoli meddyginiaethau yn ddigon cadarn a diogel o ganlyniad i wallau wrth roi meddyginiaethau a threfniadau annigonol ar gyfer monitro cyflwr cleifion fel cymeriant hylif ar gyfer gosod canwlâu.  Testun pryder oedd nodi bod rhai cleifion, yr oedd angen asesiadau risg arnynt mewn perthynas â briwiau pwysau neu gwympo, wedi gorfod aros dros chwe awr ar ôl cyrraedd yr adran cyn cael yr asesiadau hyn. O ganlyniad, nid oedd addasiadau wedi'u gwneud yn syth ar gyfer y rheini a oedd yn wynebu risg o ganlyniad i broblemau symudedd, neu eiddilwch cynyddol. Roedd oedi yn aml cyn i gleifion gael triniaeth gan feddygon arbenigol, ac roedd hyn yn faes i'w wella a nodwyd yn arolygiad blaenorol yr uned. Testun pryder hefyd oedd nodi nad oedd cyfarpar dadebru, fel diffibriliwr mewn un ystafell, wedi cael ei archwilio ers dechrau mis Ionawr 2024. 

Yn gyffredinol, roedd y lleoliad wedi gwneud gwelliannau mewn perthynas â darparu gofal meddygol amserol, cynnal asesiadau parhaus, a monitro. Fodd bynnag, canfu'r arolygwyr mai dim ond tri o bob 10 claf oedd yn cael eu brysbennu o fewn y terfyn amser cenedlaethol a argymhellir, sef 15 munud, a bod cleifion yn aros 58 munud cyn cael eu brysbennu ar gyfartaledd. Rydym yn cydnabod bod galw mawr ac amseroedd aros hir mewn adrannau achosion brys yn fater cenedlaethol, ond teimlai'r arolygwyr y gallai'r gwasanaeth wneud mwy i ddarparu gofal amserol. 

Roedd angen gwelliannau pellach i sicrhau bod trafodaethau ynghylch Peidio â Dechrau Adfywio Cardiopwlmonaidd (DNACPR) yn cael eu cofnodi'n gywir a bod y wybodaeth hon ar gael yn hawdd i'r staff. Mae'n bwysig bod y trafodaethau hyn, a'r penderfyniadau a wneir, yn cael eu cynnal mewn ffordd sensitif ac effeithiol er mwyn parchu dymuniadau a safbwyntiau pawb dan sylw. 

Roedd system rheoli cofnodion electronig cadarn ar waith yn yr adran; fodd bynnag, roedd rhai nodiadau cleifion nad oeddent yn electronig yn cael eu storio gyda'i gilydd, a oedd yn cynyddu'r risg o ddryswch ymysg y staff ac oedi posibl. Serch hynny, roedd yn gadarnhaol gweld bod gweithdrefnau uwchgyfeirio cadarn ar waith i ddiogelu cleifion sy'n gadael yr adran heb gael eu gweld neu yn erbyn cyngor meddygol. 

Ers yr arolygiad blaenorol, roedd y cyfraddau cwblhau ar gyfer hyfforddiant staff gorfodol wedi gwella; ac roedd arweinyddiaeth amlwg dda yn yr adran. Roedd yn galonogol gweld bod lefelau staffio wedi gwella hefyd, a bod llai o ddibyniaeth ar staff asiantaeth.

Mae'r bwrdd iechyd wedi llunio cynllun sy'n cynnwys cyfres gynhwysfawr o gamau gweithredu i fynd i'r afael â'r amrywiaeth eang o welliannau sydd eu hangen. Rhaid i'r gwasanaeth sicrhau bod y mesurau gwella yn parhau ar waith a bod y prosesau a roddir ar waith yn gynaliadwy nawr ac yn y dyfodol.

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:

‘Mae'r pwysau a'r galw ar wasanaethau gofal iechyd yn parhau i greu heriau sylweddol i'r GIG. Yn ystod yr arolygiad hwn, gwelsom fod y staff yn gweithio'n eithriadol o galed mewn amodau heriol i ddarparu gofal diogel ac effeithiol i'r cleifion. Mae'n galonogol gweld bod gwelliannau wedi'u gwneud ers ein harolygiad blaenorol o'r adran, ond mae angen gwneud gwelliannau pellach o hyd. Y gobaith yw y bydd yr adroddiad hwn yn galluogi'r bwrdd iechyd i ddeall yr heriau y mae'r gwasanaeth yn eu hwynebu yn glir, ac y bydd yn cefnogi'r camau sydd angen eu cymryd i wella. Byddwn yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau y caiff y gwelliannau hyn eu gwneud ac y ceir tystiolaeth o'r gwelliannau hynny.’

Ebrill and Mai 2024 - Adroddiad Arolygu Ysbyty: Adran Achosion Brys - Ysbyty Glan Clwyd

Adran Achosion Brys Ysbyty Glan Clwyd – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Gostwng Lefel Rhybudd – Gwasanaeth Sydd Angen Ei Wella'n Sylweddol