Neidio i'r prif gynnwy

Mae angen gwneud gwelliannau sylweddol mewn ysbyty iechyd meddwl yn yr Wyddgrug

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (11 Gorffennaf) yn dilyn arolygiad o Coed Du Hall, gwasanaeth iechyd meddwl yn Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. Ysbyty adsefydlu iechyd meddwl agored annibynnol â 22 o welyau yw Coed Du Hall. Mae'n ysbyty rhywedd cymysg ac yn gweithio gydag unigolion ag anghenion cymhleth, y mae angen rhagor o ofal adsefydlu arnynt.

Neuadd Coed Du - Gwasanaeth Iechyd Meddwl Annibynnol

Cynhaliwyd yr arolygiad dros gyfnod o dri diwrnod ym mis Mawrth 2024, gan ganolbwyntio ar wardiau Ash, Beech a Cedar, gan gynnwys y Studio Suites. Yn ystod yr arolygiad, cyhoeddwyd hysbysiad sicrwydd ar unwaith oherwydd pryderon ynghylch llesiant y cleifion, y staff ac ymwelwyr, a phryderon nad oedd risgiau posibl o niwed yn cael eu nodi, eu monitro, eu lleihau, na'u hatal. Roedd glendid yr ysbyty hefyd yn destun pryder, gan gynnwys sawl mater cynnal a chadw, a oedd yn peri risgiau posibl i'r cleifion.

Gwelodd yr arolygwyr y staff yn gweithio'n galed i drin y cleifion ag urddas a pharch. Roedd amrywiaeth o gyfleusterau a gweithgareddau therapiwtig ar gael i'r cleifion i gefnogi a chynnal eu hiechyd a'u llesiant, gan gynnwys eiriolwr iechyd meddwl. Ar y cyfan, roedd yn ymddangos bod gan y staff gydberthnasau proffesiynol da â'r cleifion, a bod cynlluniau gofal a thriniaeth unigol ar waith. Yn gyffredinol, roedd y cleifion yn gadarnhaol am eu gofal a gwnaethant ddweud eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan y staff. Roedd blwch awgrymiadau yn yr ysbyty lle y gallai'r cleifion a pherthnasau/gofalwyr rannu adborth.  

Gwelodd yr arolygwyr enghreifftiau o arfer da mewn perthynas â rheoli ymddygiad heriol cleifion, yn arbennig o ran tawelu sefyllfa. Canfu'r arolygwyr fod prosesau monitro ac archwilio cadarn ar waith, a bod cofnodion yn cael eu cadw i safon dda. Er gwaethaf y meysydd hyn o arfer da, codwyd materion lle mae angen sicrwydd ar unwaith yn ymwneud â'r ffaith nad oedd risgiau o niwed yn cael eu nodi a'u hatal. Roedd y risgiau hyn yn cynnwys nad oedd y staff yn defnyddio larymau personol, wardiau anniben a oedd yn peri risg i gleifion a allai hunan-niweidio, gan gynnwys drws tân gwydr a oedd wedi malu'n deilchion, ac eitemau wedi'u difrodi eraill ar y wardiau. Gwelodd yr arolygwyr hefyd safonau glendid gwael ym mhob rhan o'r ysbyty, ac nad oedd materion cynnal a chadw yn cael eu cofnodi fel mater o drefn na'u datrys yn briodol. 

Ni chafodd yr arolygwyr sicrwydd bod y cleifion a'r staff yn cael eu diogelu rhag risgiau adnabyddadwy dal heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd oherwydd diffyg safonau glendid a hylendid priodol. Ymdriniwyd â'r pryderon hyn drwy broses diffyg cydymffurfio AGIC, a ddefnyddir pan na fydd gwasanaeth yn bodloni gofynion cyfreithiol.Roedd yr arolygwyr hefyd yn pryderu ynghylch cywirdeb ac ansawdd data a oedd yn cael eu cofnodi mewn adroddiadau archwilio amgylcheddol, gan nad oeddent yn rhoi darlun gwirioneddol o'r amgylchedd a welwyd yn ystod yr arolygiad. Testun pryder oedd nodi nad oedd mynedfa/allanfa Ward Cedar i dir yr ysbyty yn cael ei rheoli yn ystod y dydd, a oedd yn peri risg y gallai cleifion ddianc o'r ysbyty, neu na fyddai'r staff yn gallu dod o hyd iddynt yn ystod argyfwng.

Roedd prosesau addas ar waith yn yr ysbyty er mwyn helpu i amddiffyn y cleifion a hybu eu hiechyd corfforol. Roedd meddyg teulu, gwasanaethau deintyddol a gweithwyr iechyd corfforol proffesiynol eraill ar gael i'r cleifion pan fo angen. Roedd trefniadau ymweld addas ar waith i'r cleifion gwrdd â theulu a gofalwyr yn yr ysbyty, ac roedd ystafelloedd preifat ar gael. 

Yn gyffredinol, roedd lefel uchel o gydymffurfiaeth ymysg y staff mewn perthynas â hyfforddiant gorfodol, ac roedd yn gadarnhaol nodi bod nifer mawr ohonynt wedi cwblhau hyfforddiant ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Fodd bynnag, roedd angen gwella cydymffurfiaeth y staff nyrsio â nifer o gyrsiau hyfforddiant gorfodol, gan gynnwys iechyd a diogelwch, cynnal bywyd, rhoi meddyginiaeth yn ddiogel ac atal a rheoli heintiau cyffredinol. 

Nododd yr arolygwyr fod angen gwneud nifer o welliannau i ddiogelu preifatrwydd ag urddas y cleifion. Roedd hyn yn cynnwys sicrhau na ellir gweld ystafelloedd y cleifion o ardaloedd allanol yr ysbyty, a diffyg paneli gweld ar ddrysau ystafelloedd gwely'r cleifion. O ganlyniad, roedd cleifion yr oedd angen arsylwi arnynt yn cael eu monitro gan y staff yn eu hystafelloedd gwely, a oedd yn cyfaddawdu eu preifatrwydd a'u hurddas. Nodwyd y mater hwn yn ystod ein harolygiad blaenorol o'r ysbyty yn 2022 hefyd.

Canfu'r arolygwyr fod y lefelau staffio cyffredinol yn briodol ac yn gymesur i ddarparu gofal diogel ac effeithiol i'r cleifion. Cadarnhaodd y rhan fwyaf o'r staff y gwnaethom siarad â nhw eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn eu rolau, a bod aelodau'r tîm arwain yn weladwy ac yn hawdd mynd atynt. Fodd bynnag, rhaid i'r gwasanaeth sicrhau bod digon o staff nyrsio ar gael fel y gallant gymryd egwylion yn ystod eu shifft heb adael y ward heb oruchwyliaeth.  Roedd hefyd yn destun pryder  gweld bod y rhan fwyaf o'r staff yn gwisgo eu dillad anffurfiol eu hunain ac nad oeddent wedi cael gwisgoedd na bathodynnau i ddangos eu bod yn aelodau o staff.

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:

"Mae'r gwasanaeth hwn yn darparu cymorth i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, ac mae'n hanfodol bod gwelliannau'n cael eu gwneud.Er bod ein harolygiad wedi nodi amrywiaeth o feysydd i'w gwella, roedd yn gadarnhaol gweld bod y lleoliad wedi ymateb i'n hadborth, a bod camau eisoes yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r materion hyn."

Mawrth 2024 - Arolygiad o Wasanaeth Iechyd Meddwl Annibynnol - Neuadd Coed Du, Yr Wyddgrug