Neidio i'r prif gynnwy

"Mae bod yn Adolygydd Cymheiriaid Deintyddol yn werth chweil, gan eich bod yn cyfrannu at ddiogelwch cleifion ac yn cefnogi practisau deintyddol."

Ydych chi erioed wedi meddwl sut beth yw bod yn adolygydd cymheiriaid deintyddol gyda ni? Dyma ein harweinydd Deintyddol Clinigol, Ali Jahanfar, yn rhannu ei brofiadau uniongyrchol gwerth chweil!

Rydym yn recriwtio adolygwyr cymheiriaid!

Beth yw adolygydd cymheiriaid? Mae adolygwyr cymheiriaid yn weithwyr iechyd proffesiynol o ystod o arbenigeddau o bob rhan o Gymru. Maent fel arfer yn ffurfio rhan o dîm amlddisgyblaethol ac mae eu gwybodaeth a’u harbenigedd yn sicrhau bod ein gwaith yn seiliedig ar arferion a phrofiad cyfredol. Mae'r gwaith hwn yn cael ei gwblhau naill ai'n bersonol neu o bell o bryd i'w gilydd.

Enw: Ali Jahanfar Ali Jahanfar

Teitl Swydd: Perchennog y Practis ac Arweinydd Deintyddol Clinigol ar gyfer AGIC

Lleoliad: Practis Deintyddol Heol y Castell, Tredegar

Cefndir Gyrfa: Astudiais ddeintyddiaeth yn Sweden, gan gymhwyso fel deintydd yn 1996. Ar ôl dod i'r DU yn 1997, gweithiais fel cydgysylltydd mewn sawl practis yn y cymoedd. Deuthum yn berchennog practis yn 2009, gan ehangu i ail bractis yn 2024. Yn 2014, deuthum yn Adolygydd Cymheiriaid ac yn 2017, cefais fy mhenodi'n Arweinydd Deintyddol Clinigol. 

Beth wnaeth i chi benderfynu dod yn adolygydd cymheiriaid?

Penderfynais wneud cais i fod yn adolygydd cymheiriaid gan fy mod yn teimlo y byddai'n gyfle da i ddatblygu'n broffesiynol, ac yn teimlo bod gennyf rywbeth i'w gynnig oherwydd fy mhrofiadau deintyddol amrywiol. Rwyf bob amser wedi cael boddhad wrth gefnogi fy nghydweithwyr deintyddol, a byddai rôl adolygydd cymheiriaid yn fy ngalluogi i barhau i wneud hyn. Fel deintydd, rwyf bob amser yn canolbwyntio ar ddarparu gofal o'r safon uchaf i fy nghleifion. Byddai bod yn adolygydd cymheiriaid, a chynnal arolygiadau, yn fy ngalluogi i wella lefel y gofal deintyddol y mae cleifion yn ei gael ledled Cymru. 

Allwch chi ddisgrifio'r gwaith rydych yn ei wneud fel adolygydd cymheiriaid i ni? 

Fel rhan o dîm arolygu, rwy'n ymweld â phractisau ac yn cynnal arolygiadau, sydd fel arfer yn cymryd hyd at ddiwrnod llawn i'w cwblhau. Mae'r arolygiadau eu hunain yn adolygu practis yn erbyn y rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (2017) ar gyfer practisau preifat a'r Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal (2023) ar gyfer practisau'r GIG.  Yn ystod yr arolygiad, byddaf yn cofnodi fy nghanfyddiadau mewn llyfr gwaith adolygydd cymheiriaid dynodedig. Caiff tystiolaeth o arferion da a meysydd i'w gwella ei nodi.

Drwy gydol yr arolygiad, bydd deialog gyson rhwng y rheolwr arolygu, perchennog/rheolwr y practis a minnau. Ar ddiwedd yr arolygiad, bydd yr adolygydd cymheiriaid a'r rheolwr arolygu yn rhoi adborth ar lafar i berchennog/rheolwr y practis. 

Caiff drafft o'r adroddiad arolygu ei lunio gan y rheolwr arolygu, a chaiff ei adolygu, a'i ddiwygio os oes angen, gan yr adolygydd cymheiriaid.

Pa mor werth chweil yw'r rôl? A sut mae'r swydd hon yn cyfrannu at flaenoriaethau AGIC?

Mae'r rôl yn werth chweil gan eich bod yn cyfrannu at ddiogelwch cleifion ac yn cefnogi practisau deintyddol. Rydych yn cyfrannu at flaenoriaethau AGIC gan eich bod yn rhan o'r tîm arolygu. Rydym yn arolygu ac yn adrodd ar bractisau deintyddol mewn tri maes gwahanol: Ansawdd profiad y claf, darparu gofal diogel ac effeithiol, ac ansawdd rheolaeth ac arweinyddiaeth. 

Beth rydych chi'n ei fwynhau fwyaf am y rôl?

Rwy'n mwynhau ymweld â gwahanol bractisau deintyddol, a siarad â'r staff am eu rolau a'u cyfrifoldebau yn y practis. Rwyf hefyd yn mwynhau cefnogi'r timau deintyddol i fynd i'r afael ag unrhyw faterion a nodwyd. Mae hefyd yn bwysig tynnu sylw at arferion da/gorau a rhoi gwybod i'r tîm deintyddol pan fydd yn darparu gofal rhagorol a diogel i'w gleifion. 

Beth yw'r sgiliau neu'r rhinweddau sydd eu hangen ar gyfer y rôl, yn eich barn chi?

Rhaid i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu da, y gallu i fod yn wrthrychol a'r gallu i weithio fel rhan o dîm. Rhaid i chi hefyd fod yn hawdd mynd ato a gallu cynnig cymorth ac arweiniad i'r timau deintyddol. 

Beth yw rhai o'r heriau rydych yn eu hwynebu fel adolygydd cymheiriaid?

Gall trafod yr angen i wella mewn meysydd penodol gyda pherchennog neu reolwr y practis fod yn heriol. Wrth fynd i'r afael â'r meysydd hyn i'w gwella, rhaid i'r sgwrs fod yn wrthrychol ac yn broffesiynol, ond rhaid iddi hefyd fod yn adeiladol ac yn agos atoch. 

Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i rywun sy'n ystyried y rôl hon?

Mae'n rôl werth chweil iawn ac yn cynnig profiad gwych, felly os ydych yn ystyried gwneud cais, ewch amdani!

Sut fyddech chi'n crynhoi'r rôl mewn tri gair?

Gwerth chweil, atebol a chefnogol.

 

Ar hyn o bryd, mae gennym nifer o swyddi gwag ar gyfer adolygydd cymheiriaid. Os hoffech fod yn rhan o sefydliad bach, sy'n gwneud gwaith pwysig, hoffem glywed gennych.

Mae manylion llawn y swyddi gwag a manylion am sut i wneud cais i'w gweld ar ein tudalen swyddi gwag.