Neidio i'r prif gynnwy

'Mae bod yn Adolygydd Cymheiriaid werth chweil ac yn cynnig profiad gwych'

Ydych chi erioed wedi meddwl sut brofiad yw gweithio gyda ni fel adolygydd cymheiriaid? Dewch i gwrdd â Melanie Webber-Maybank wrth iddi rannu ei phrofiad o weithio gyda ni.

Rydym yn recriwtio Adolygwyr Cymheiriaid

Beth yw adolygydd cymheiriaid? Mae adolygwyr cymheiriaid yn weithwyr iechyd proffesiynol o ystod o arbenigeddau o bob rhan o Gymru. Maent fel arfer yn ffurfio rhan o dîm amlddisgyblaethol ac mae eu gwybodaeth a’u harbenigedd yn sicrhau bod ein gwaith yn seiliedig ar arferion a phrofiad cyfredol. Mae'r gwaith hwn yn cael ei gwblhau naill ai'n bersonol neu o bell o bryd i'w gilydd.

Enw: Melanie Webber-Maybank Melanie Webber-Maybank

Teitl swydd: Cyfarwyddwr Ysbyty Dros Dro (Nyrs Gyffredinol Gofrestredig)

Lleoliad: Nuffield Health, Caerdydd

Cefndir gyrfa: Mae Melanie wedi gweithio yn y GIG ers 25 mlynedd ar draws prif ysbytai yn Ne Cymru, gan arbenigo mewn trawma ac arweinyddiaeth. Gadawodd Melanie y GIG wyth mlynedd yn ôl i gymryd swydd fel Pennaeth Gwasanaethau Clinigol yn y sector annibynnol, ac ar yr adeg honno ymunodd ag AGIC fel adolygydd cymheiriaid. Cyfarwyddwr ysbyty dros dro ar gyfer dau ysbyty yng Nghaerdydd yw swydd bresennol Melanie. Mae Melanie hefyd yn astudio ar gyfer ei gradd MBA ar hyn o bryd.

Beth wnaeth i chi benderfynu bod yn adolygydd cymheiriaid?

Gwneuthum y penderfyniad yn dilyn argymhelliad gan uwch-arweinydd yn AGIC, gan ei fod yn teimlo bod gennyf y sgiliau cywir. Roeddwn yn hapus i wneud cais a chaniatáu i'm sgiliau fod o fudd i sefydliadau eraill a gwella diogelwch cleifion yn y pen draw. Yn bersonol, rwy’n mwynhau’r arolygiadau’n fawr gan fy mod wedi cyfarfod ag ystod amrywiol o bobl, o’r tîm arolygu i gleifion a’r staff clinigol ar lawr gwlad. Mae’n caniatáu imi deimlo fy mod yn cyfrannu at wella gofal iechyd yng Nghymru.

Meet Melanie Webber-MaybankAllwch chi ddisgrifio i ni'r gwaith rydych chi'n ei wneud fel adolygydd cymheiriaid?

Fel adolygydd cymheiriaid, rydym yn cefnogi tîm arolygu AGIC i arolygu sefydliadau gofal iechyd ledled Cymru. Mae'r rôl yn amrywiol, a gallwch gael eich neilltuo i weithio mewn unrhyw faes clinigol sydd o fewn eich set sgiliau a'ch profiad. Mae AGIC yn cysylltu â chi i ofyn a ydych ar gael ar ddyddiadau penodol a'ch argaeledd, ac nid oes pwysau i dderbyn os nad ydych ar gael. Rwy'n gweithio'n llawn amser yn fy rôl bresennol felly yn aml mae gennyf ymrwymiadau eraill, ond nid yw hynny erioed wedi bod yn broblem. Mae cyfarfod cyn i'r arolygiad ddechrau a dyrennir rôl i chi fel rhan o'r tîm, lle gallech fod yn arolygu atal heintiau, rheoli meddyginiaethau, neu adolygu nodiadau cleifion; rydych hefyd yn siarad â chleifion a staff i gofnodi eu profiadau. Mae yna lyfrau gwaith i weithio drwyddynt yn ystod yr arolygiad, sy'n eich arwain ynglŷn â safonau a meysydd y mae angen i chi fod yn arsylwi arnynt neu'n eu hadolygu. Rydych chi'n gweld cymaint o waith da sy'n mynd rhagddo ac yn nodi meysydd i’w gwella a allai wella profiadau'r cleifion, diogelwch, ac amodau gwaith ar gyfer staff.

Pa mor werth chweil yw'r rôl? A sut mae'r swydd yn cyfrannu at flaenoriaethau AGIC?

Mae'r rôl yn rhoi boddhad mawr gan eich bod yn gweithio gyda thimau proffesiynol sy'n eich cefnogi fel adolygydd cymheiriaid yn ystod y broses arolygu. Rydych hefyd yn teimlo eich bod yn cyfrannu at gadw cleifion a staff yn ddiogel. Rydych yn cyfrannu at flaenoriaethau AGIC wrth i chi arolygu yn erbyn y fframwaith a safonau a argymhellir ar gyfer gofal cleifion. Mae AGIC hefyd yn gofyn am adborth ar y broses arolygu, felly fel adolygydd cymheiriaid gallwch hefyd helpu i lunio dyfodol arolygiadau.

Meet Melanie Webber-Maybank

Beth ydych chi'n ei fwynhau fwyaf am y rôl?

Siarad â'r staff a'r cleifion am eu profiad yw'r peth mwyaf pleserus. Gan fod y staff yn gweithio mor galed, yn aml mewn amgylcheddau heriol, gall y broses arolygu fod o gymorth mawr i'w cefnogi yn y dyfodol. Hefyd, mae'r cleifion yn aml yn ganmoliaethus iawn am eu gofal, ond, os nodir problemau, yn aml mae modd mynd i'r afael â nhw a'u gwella.

Pa sgiliau neu nodweddion sydd fwyaf addas ar gyfer y rôl yn eich barn chi?

Mae angen i chi allu gweithio fel rhan o dîm, bod ag agwedd hyblyg, a gallu trefnu eich hun o fewn y meysydd yr ydych yn eu harolygu. Mae cyfathrebu da ac ymagwedd gyfeillgar agored yn ddefnyddiol, fel bod y cleifion a’r staff yn teimlo'n hyderus ac yn gyfforddus i siarad â chi am eu profiadau.

Beth yw rhai o'r heriau sy'n eich wynebu fel adolygydd cymheiriaid?

Gall yr heriau fod yn ymwneud â meysydd i’w gwella, gan y gall hynny fod yn anodd pan fo staff dan bwysau. Yn gyffredinol, ni welaf fod llawer o heriau fel adolygydd cymheiriaid, gan eich bod yn cael eich cefnogi gan dîm arolygu AGIC, ac rwyf bob amser wedi cael croeso gan y staff yn y meysydd yr wyf yn eu harolygu.

Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i rywun sy'n ystyried y rôl hon?

Byddwn yn cynghori unrhyw un sy’n gallu neilltuo amser i’r rôl i wneud cais, gan ei bod mor werth chweil ac yn cynnig profiad gwych.

Pe gallech chi grynhoi'r rôl mewn tri gair, beth fydden nhw? 

Gwerthfawr! Pleserus! Cyfrifol!

Ar hyn o bryd mae gennym nifer o swyddi gwag i adolygwyr cymheiriaid, os hoffech fod yn rhan o sefydliad bach, gyda swydd fawr i'w wneud, hoffem glywed gennych.

Rydym yn agored i geisiadau i weithio gyda ni fel adolygydd cymheiriaid. Yn benodol, rydym yn chwilio am adolygwyr yn yr arbenigeddau canlynol:

  • Rheolwyr sy'n gweithio ym maes gofal a gynlluniwyd 
  • Nyrsys cymunedol ac ymarferwyr 
  • Meddygon a nyrsys llawfeddygol
  • Obstetryddion
  • Nyrsys o'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed
  • Meddygon teulu
  • Meddygon o adrannau achosion brys 
  • Nyrsys neu Ymarferwyr Iechyd Meddwl

Fodd bynnag, rydym yn agored i geisiadau gan unigolion sydd ag unrhyw arbenigedd.

Mae manylion llawn y swyddi gwag a sut i wneud cais ar ein tudalen swyddi gwag.