Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Singleton yn gwella ond mae problemau o hyd

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (31 Gorffennaf) yn dilyn arolygiad o'r uned famolaeth yn Ysbyty Singleton yn Abertawe.

Ysbyty Singleton - Gwasanaethau Mamolaeth

Yn ystod arolygiad blaenorol a gynhaliwyd ym mis Medi y llynedd, nododd arolygwyr sawl pryder o ran diogelwch cleifion, a chyhoeddwyd hysbysiad gwella ar unwaith i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Oherwydd nifer y risgiau a nodwyd a'u difrifoldeb, cynhaliodd AGIC arolygiad dilynol pellach ym mis Ebrill 2024. Cynhaliwyd yr arolygiad dilynol dros gyfnod o dri diwrnod yn olynol gan ganolbwyntio ar sawl ward sy'n rhan o'r uned, gan gynnwys y wardiau esgor ac ôl-enedigol, y theatrau llawfeddygol, Uned Geni'r Bae a'r Unedau Asesu Cynenedigol. 

Nododd yr arolygwyr welliannau sylweddol i'r gwasanaeth ers ein harolygiad diwethaf, ond ceir rhai heriau o hyd, ac mae angen gwneud rhagor o welliannau er mwyn sicrhau bod menywod a phobl sy'n rhoi genedigaeth yn cael gofal cyson o safon dderbyniol. Er gwaethaf gwelliannau sylweddol o ran adnoddau staff ym mhob rhan o'r uned, roedd yr arolygwyr yn pryderu o hyd nad oedd lefelau staffio diogel yn yr Uned Asesu Cynenedigol, a gofynnwyd am sicrwydd ar unwaith yn hyn o beth. 

Yn gyffredinol, nododd yr arolygwyr fod y staff yn gweithio'n galed i roi profiad cadarnhaol i fenywod a phobl sy'n rhoi genedigaeth, a'u teuluoedd, er gwaethaf y pwysau parhaus ar yr uned. Yn ystod yr arolygiad, rhannodd aelodau o'r staff eu pryderon am ofal cleifion yn sgil y cynnydd yn nifer y staff asiantaeth a oedd yn cael eu defnyddio, ac o ran diffyg cymysgedd sgiliau priodol yn yr uned. Gofynnwyd am sicrwydd ar unwaith ynghylch pryderon am yr Uned Asesu Cynenedigol y sgil lefelau staffio isel a'r ffaith nad oedd prosesau digonol ar waith. Roedd hyn yn cynnwys diffyg hyfforddiant ar gyfer aelodau o staff sy'n brysbennu galwadau ac yn rhoi gwybodaeth i gleifion. Roedd y ffaith nad oedd lefelau staffio'r Uned Gofal Trosiannol yn cydymffurfio â chanllawiau Cymdeithas Meddygaeth Amenedigol Prydain (BAPM) hefyd yn destun pryder. 

Pan ofynnwyd iddynt, dywedodd aelodau o'r staff bydwreigiaeth wrthym nad oedd cyfarpar meddygol hanfodol bob amser ar gael i'w galluogi i roi gofal digonol i'r cleifion. Roedd y farn hon yn amlwg yn ein harolwg staff hefyd, lle mai dim ond hanner yr ymatebwyr a ddywedodd fod cyfarpar digonol ar gael iddynt. Cafodd rhai o'r materion a nodwyd yn ystod yr arolygiad eu datrys yn gyflym a rhoddwyd newidiadau ar waith ar unwaith. Nodwyd hefyd nad oedd diwyg y ffurflen ar gyfer gwirio cyfarpar adfywio yn briodol, gan nad oedd yn galluogi'r staff i gofnodi digon o wybodaeth am ddiffygion neu eitemau coll. Yn ystod yr arolygiad, diwygiwyd y broses wirio hon, a chyflwynwyd ffurflenni cynhwysfawr ar gyfer cofnodi gwiriadau. Yn ystod noson gyntaf yr arolygiad, roedd y ffaith nad oedd y troli argyfwng yn yr Uned Gofal Trosiannol ar gael yn hwylus yn destun pryder. Fodd bynnag, trafodwyd hyn â staff yr uned ac ymdriniwyd â'r mater yn gyflym yn ystod yr arolygiad. 

Roedd yn gadarnhaol gweld amrywiaeth o fentrau i gefnogi menywod a staff, gan gynnwys bydwraig ddiogelu a bydwraig iechyd meddwl arbenigol. Ar y cyfan, roedd yr uned yn lân ac yn daclus ac roedd gwybodaeth “Dywedoch Chi, Gwnaethom Ni” i'w gweld a oedd yn nodi sut y cafodd pryderon a sylwadau eu defnyddio i ddatblygu a gwella'r gwasanaeth. Edrychodd yr arolygwyr ar yr arddangosiadau gwybodaeth a gwelsant nad oedd yr holl wybodaeth ar gael yn ddwyieithog. Rhaid i'r bwrdd iechyd wella'r arddangosiadau er mwyn sicrhau y caiff y Gymraeg ei hybu fel rhan o'r cynnig rhagweithiol. 

Roedd cyfradd cwblhau hyfforddiant gorfodol staff yr uned wedi gwella'n sylweddol ers yr arolygiad blaenorol. Nodwyd bod hyfforddiant yn canolbwyntio ar ymwybyddiaeth o amrywiaeth a chydraddoldeb, a rhannodd aelodau o'r staff enghreifftiau o bobl â nodweddion gwarchodedig o dan y Ddeddf Cydraddoldeb (2010) yn cael cymorth i gyfathrebu'n effeithiol a defnyddio gwasanaethau. 

Roedd y tîm amlddisgyblaethol yn gweithio'n effeithiol ac roedd trefniadau llywodraethu priodol ar waith i sicrhau bod digwyddiadau yn cael eu monitro a'u datrys. Fodd bynnag, dywedodd rhai aelodau o'r staff wrthym nad oeddent o'r farn bod digon o gyfleoedd iddynt roi adborth i'r uwch-dimau arwain. Byddai'n ddefnyddiol pe bai'r arweinwyr yn ffurfioli cyfleoedd a systemau i aelodau o'r staff roi adborth a chynnig gwelliannau, gan sicrhau bod y staff yn fwy ymwybodol o'r cyfleoedd a'r systemau hynny. 

Roedd systemau a phrosesau penodol ar waith i sicrhau bod yr uned famolaeth yn canolbwyntio ar wella ei gwasanaethau yn barhaus. Ar y cyfan, gwelsom fod y cofnodion a oedd yn cael eu cadw o safon ddigonol, a bod cynlluniau gofal yn cael eu dogfennu'n dda rhwng y timau amlddisgyblaethol. Gwnaethom nodi diffygion mewn rhai cofnodion, gan gynnwys llofnodion coll neu gofnodion a oedd yn anodd eu darllen. Wrth edrych ar gofnodion cleifion, gwelsom hefyd nad oedd trafodaethau am feddyginiaethau lleddfu poen yn ystod y cyfnod esgor a thrafodaethau am ddewisiadau bwydo bob amser yn cael eu dogfennu'n effeithiol. Roedd yn destun pryder clywed adborth pellach gan fenywod mewn perthynas ag oedi cyn rhoi meddyginiaethau lleddfu poen, a nodwyd hefyd yn ystod ein harolygiad blaenorol. Rhaid i'r bwrdd iechyd fonitro ac adolygu adborth ac ymateb iddo er mwyn osgoi oedi o'r fath. 

Ar ôl cyfnod o ansefydlogrwydd o ran arweinyddiaeth, roedd yn galonogol gweld bod strwythur arwain sefydlog yn dod i'r amlwg. Nododd y rhan fwyaf o staff y wardiau y gwnaethom siarad â nhw fod yr uwch-reolwyr yn gwerthfawrogi eu mewnbwn a'u syniadau ar gyfer newid. Dywedodd llawer o'r bydwragedd a'r meddygon y gwnaethom siarad â nhw wrthym eu bod yn teimlo bod diwylliant cadarnhaol ar y wardiau, a bod morâl wedi gwella. Fodd bynnag, dywedodd rhai aelodau o'r staff wrthym nad oeddent bob amser yn teimlo'n hyderus y caiff camau eu cymryd mewn ymateb i bryderon a uwchgyfeiriwyd. 

Mae AGIC wedi parhau i weithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd ers yr arolygiad ac wedi cael cynllun gwella cynhwysfawr sy'n anelu at fynd i'r afael â'r materion a nodwyd yn ystod yr arolygiad cyfredol a'r arolygiad blaenorol. 

Dywedodd Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Alun Jones: 

Mae ein gwaith wedi nodi heriau parhaus yng ngwasanaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Er ein bod wedi nodi gwelliannau yn ystod ein harolygiad dilynol, mae angen cymryd camau pellach. Gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn cyflymu'r camau a gymerir i ysgogi gwelliannau amserol, nid yn unig i'r cleifion, ond hefyd i staff yr uned famolaeth. Byddwn yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau y caiff gwelliannau cadarn eu gwneud ac y ceir tystiolaeth o'r gwelliannau hynny.

Ebrill 2024 - Adroddiad Arolygu Gwasanaethau Mamolaeth - Ysbyty Singleton