Neidio i'r prif gynnwy

Mae heriau yn parhau o hyd yn yr Adran Achosion Brys yn Ysbyty Treforys yn Abertawe

Cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) arolygiad dirybudd o'r Adran Achosion Brys, gan gynnwys yr Adran Achosion Brys Pediatrig, yn Ysbyty Treforys, sy'n cael ei reoli gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Ysbyty Treforys adran achosion brys

Yn ystod yr arolygiad tridiau o hyd ym mis Tachwedd 2024, canfu'r arolygwyr y staff yn gweithio'n galed o dan amodau heriol mewn adran orlawn, a wnaeth godi pryderon sylweddol o ran diogelwch i gleifion. Dywedodd llawer o gleifion wrth yr arolygwyr bod yr amseroedd aros hir yn gwneud iddynt deimlo'n rhwystredig. Dyma oedd effaith uniongyrchol llif cleifion gwael drwy'r ysbyty, hyd at adeg rhyddhau'r cleifion o'r ysbyty. Er gwaetha'r pwysau hyn, roedd y staff yn sylwgar ac yn trin cleifion gyda phroffesiynoldeb a pharch yn gyson. 

Nododd yr arolygiad sawl maes yr oedd angen ei wella ar unwaith, gan gynnwys rheoli ardaloedd ymchwydd yr ysbyty, a oedd yn cael eu defnyddio i letya cynnydd annisgwyl yn nifer y cleifion. Roedd hyn yn cynnwys gorlenwi mewn ardaloedd nad oeddent yn faeau lle nad oedd clychau galw ar gael i gleifion, a oedd yn peri risgiau i ddiogelwch, yn ogystal ag oedi wrth asesu cleifion. Ni chafodd yr arolygwyr sicrwydd fod gan y bwrdd iechyd brosesau effeithiol ar waith i reoli risgiau, dyrannu staff yn briodol, a chynnal asesiadau risg yn yr ardaloedd hyn. 

Yn ogystal, roedd angen gwella'r broses o reoli a rhoi meddyginiaethau'n ddiogel ar unwaith. Canfu'r arolygwyr feddyginiaeth a hylifau wedi'u storio mewn droriau heb eu cloi, gwiriadau tymheredd a stoc anghyflawn, a diffyg lleoedd tawel a glân i nyrsys baratoi meddyginiaeth heb ymyrraeth. 

Gwnaed ymdrechion i wella llif cleifion, gan gynnwys cyflwyno'r Uned Asesu Pobl Hŷn ac atgyfeiriadau uniongyrchol gan feddygon teulu, sy'n helpu i leihau'r pwysau ar yr Adran Achosion Brys. Fodd bynnag, mae oedi wrth ryddhau cleifion o ardaloedd eraill o'r ysbyty yn parhau i gael effaith ar ofal ac yn cyfrannu at orlenwi. 

Er bod yr archwiliadau Atal a Rheoli Heintiau yn gyfredol, sylwodd yr arolygwyr ar arferion hylendid dwylo anghyson a chafodd y meddygon eu hatgoffa i gydymffurfio â pholisïau. Rhaid i'r bwrdd iechyd sicrhau bod mesurau diogelwch atal a rheoli heintiau yn cael eu hatgyfnerthu i wella diogelwch y cleifion a'r staff. 

Cafodd cyfathrebu effeithiol ymhlith staff yn yr adrannau, yn enwedig wrth drosglwyddo, ei nodi fel arfer cadarnhaol. Nododd yr arolygwyr fod tîm arwain yr adran yn ymdrechu'n barhaus i wella'r gwasanaeth er gwaetha'r amodau heriol. Fodd bynnag, pan ofynnwyd, roedd yr adborth gan staff yn negyddol ar y cyfan, yn enwedig o ran lefelau staffio a phryderon mewn perthynas â diogelwch cleifion ac amgylchedd gofal anniogel  Rhaid i'r bwrdd iechyd ystyried sylwadau'r staff a datblygu cynllun gwella i ymdrin â'r materion diogelwch hyn. 

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:

Mae pwysau cynyddol ar wasanaethau'r GIG ac mae Ysbyty Treforys, fel pob ysbyty ledled Cymru, yn parhau i wynebu heriau eithriadol oherwydd galw cynyddol. Mae llif cleifion yn broblem a gydnabyddir ar lefel genedlaethol, sy'n cael ei achosi gan bwysau ym mhob rhan o'r system. Er bod heriau'n parhau, mae gwelliannau'r bwrdd iechyd, fel yr Uned Asesu Pobl Hŷn ac atgyfeiriadau uniongyrchol gan feddygon teulu, yn gamau i'r cyfeiriad cywir i wella llif cleifion ac amseroedd aros. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i sicrhau gwelliant a chynnydd yn erbyn ein canfyddiadau.

Tachwedd 2024 - Arolygiad Ysbyty - Adran Achosion Brys - Ysbyty Treforys, Abertawe