Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r gofal brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd yn gwella

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (6 Mehefin 2024) yn nodi gwelliannau yn y gofal a roddir yn yr Adran Achosion Brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru, a gaiff ei redeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

 Ysbyty Athrofaol Cymru - Adran Achosion Brys

Roedd yn gadarnhaol gweld bod llawer o welliannau wedi cael eu gwneud ers ein harolygiad blaenorol ym mis Mehefin 2022, a nodwyd sawl maes o arfer da. Fodd bynnag, roedd rhai meysydd yr oedd angen rhoi sylw iddynt a'u gwella o hyd. 

Cwblhaodd arolygwyr yr arolygiad dirybudd o Adran Achosion Brys, Uned Penderfyniadau Clinigol ac Adran Achosion Brys Pediatrig yr ysbyty ar dri diwrnod dilynol ym mis Mawrth 2024.

Pan wnaethant gyrraedd, roedd yr adran yn y categori uchaf o ran lefel rhybudd oherwydd y galw a oedd arni. Roedd yr ystafell aros yn llawn, ac roedd ambiwlansys yn aros y tu allan. Er bod yr adran yn eithriadol o brysur, nid oedd ymdeimlad o gynnwrf yn yr uned. Roedd y staff a'r rheolwyr yn ymwybodol o'r sefyllfa, ac roedd camau priodol wedi'u cymryd mewn ymateb i'r lefel rhybudd. Clywodd ein harolygwyr am fentrau parhaus i ddatblygu a gwella'r gwasanaeth i gleifion, gan gynnwys gwasanaeth y Parth Asesu a Thrin Cyflym (RATz), a oedd wedi bod yn helpu i leihau'r amseroedd aros. Yn ôl pob golwg, roedd gan yr adran gydberthnasau gwaith da â rhanddeiliaid fel y gwasanaeth ambiwlans er mwyn lleihau amseroedd aros.

Gwelsom fod y staff yn ymrwymedig i ddarparu gofal o safon uchel i'r cleifion. Gwelodd y tîm arolygu sawl enghraifft o'r staff yn ymddwyn mewn ffordd barchus a chyfeillgar tuag at y cleifion. Pan ofynnwyd iddynt, dywedodd y cleifion wrth ein harolygwyr eu bod yn hapus â'r gofal a oedd yn cael ei ddarparu, a bod eu preifatrwydd a'u hurddas yn cael eu diogelu. Gwnaethant hefyd ddweud wrthym eu bod wedi cael digon o wybodaeth i'w helpu i ddeall eu gofal a'u cyflyrau meddygol. Roedd y Gymraeg yn cael ei hyrwyddo'n dda yn yr adran a gwelodd yr arolygwyr fod amrywiaeth o daflenni ar gael i roi cyngor i'r cleifion ar ôl iddynt gael eu rhyddhau. Fodd bynnag, nid oedd proses cwynion a phryderon GIG Cymru ‘Gweithio i Wella’ yn cael ei harddangos yn amlwg ym mhob rhan o'r uned. 

Tynnodd ein harolygiad blaenorol sylw at yr angen i wella trefniadau atal a rheoli heintiau. Aethpwyd i'r afael â hyn pan adnewyddwyd yr uned yn ddiweddar, a thrwy adleoli'r ardaloedd clinigol. Ar y cyfan, roedd yr amgylchedd ffisegol wedi'i gynllunio ac yn cael ei gynnal a'i gadw'n dda, er nad oedd arwyddion cyfeirio digonol yn yr adran. 

Roedd proses ddigidol ar waith i sicrhau bod y cyfarpar brys yn cael ei wirio'n rheolaidd. Fodd bynnag, gwnaethom gyhoeddi hysbysiad sicrwydd ar unwaith am nad oedd tymheredd meddyginiaethau a'u dyddiadau dirwyn i ben yn cael eu gwirio'n gyson. Ni chafodd yr arolygwyr sicrwydd bod cyfarpar meddygol yn cael ei wasanaethu a'i raddnodi'n briodol i sicrhau diogelwch y cleifion. Roedd yn destun pryder nad oedd y staff o'r farn bod y cyfarpar roedd ei angen arnynt ar gael yn hawdd iddynt, fel thermomedrau a pheiriannau cofnodi arwyddion hanfodol i fywyd. Rhaid i'r bwrdd iechyd sicrhau yr ymdrinnir â hyn er mwyn osgoi risgiau i ddiogelwch y cleifion.

Ar y cyfan, roedd y cofnodion cleifion a welsom yn dangos bod staff nyrsio wedi asesu'r cleifion i weld a oedd risg y byddent yn datblygu cyflyrau meddygol pellach. Fodd bynnag, wrth edrych ar y cofnodion cleifion, gwelsom fod nodiadau yn anhrefnus ac yn anodd eu dilyn. Yn ogystal, gwelsom yn aml nad oedd y staff meddygol yn llofnodi cofnodion. Rhoddodd uwch-aelodau o'r staff enghreifftiau o archwiliadau a gynhelir yn yr Adran Achosion Brys. Roedd y rhain yn ystyried meysydd sy'n berthnasol i'r ddwy uned, fel adborth gan gleifion a staff, yr amgylchedd a chyfleusterau, cwblhau dogfennau asesu risg i gleifion ac atal a rheoli heintiau. Fodd bynnag, gwelwyd nad oedd canlyniadau'r gweithgarwch archwilio yn cael eu harddangos. 

Roedd strwythur rheoli addas ar waith a disgrifiodd uwch-aelodau o'r staff linellau adrodd clir, gydag arweinyddiaeth weladwy a chefnogol. Gwelsom dystiolaeth o fentrau newydd i wella lefelau cadw staff, gan gynnwys llwybr sefydlu i aelodau newydd o staff. Roedd hyn yn cynnwys cysgodi staff profiadol, cwblhau cymwyseddau a hyfforddiant dros gyfnod o ddeuddeg mis. Roedd hefyd yn gadarnhaol gweld bod aelodau newydd o staff wedi cael eu recriwtio i rolau hanfodol ers ein harolygiad blaenorol. Gwelsom fod cyfraddau cydymffurfio ar gyfer hyfforddiant gorfodol yn briodol ar y cyfan. Fodd bynnag, gwelwyd cyfraddau isel o ran cwblhau hyfforddiant diogelwch tân, cynnal bywyd sylfaenol a chynnal bywyd brys pediatrig.

Dywedodd Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Alun Jones:

‘Mae pwysau cynyddol ar wasanaethau'r GIG ac mae Ysbyty Athrofaol Cymru, fel pob ysbyty, yn parhau i wynebu heriau eithriadol oherwydd galw cynyddol. Roedd yn galonogol gweld tystiolaeth bod y bwrdd iechyd wedi dechrau rhoi systemau a phrosesau ar waith i fynd i'r afael â'r meysydd i'w gwella a nodwyd yn ystod ein harolygiad blaenorol ym mis Mehefin 2022. Mae rhai pryderon y mae angen mynd i'r afael â nhw o hyd er mwyn sicrhau bod ansawdd y gofal a ddarperir yn parhau i wella. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r bwrdd iechyd er mwyn sicrhau y gwneir cynnydd amserol yn erbyn ein canfyddiadau.’