Neidio i'r prif gynnwy

Meddyg a Benodwyd i Roi Ail Farn (SOAD)

Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio Meddygon a Benodwyd i Roi Ail Farn

Rydym yn recriwtio! We are recruiting!

Pan fydd ysbyty cyfrifol y claf yn gofyn am hynny, bydd y Gwasanaeth Adolygu ar gyfer Iechyd Meddwl yn trefnu i feddyg annibynnol roi ail farn, a elwir yn Feddyg a Benodwyd i Roi Ail Farn (SOAD), os nad yw'r claf yn gallu neu'n fodlon cydsynio i'w driniaeth. Mae hwn yn ofyniad statudol sy'n cael ei wneud ar ran Gweinidogion Cymru.

Cyflwynodd Deddf Iechyd Meddwl 1983 y gwasanaeth Meddygon a Benodwyd i Roi Ail Farn i ddiogelu hawliau cleifion a gedwir dan y Ddeddf, sydd naill ai'n gwrthod y driniaeth a ragnodwyd gan y clinigwr cymeradwy, neu y bernir nad yw'n alluog i gydsynio.  O Dachwedd 2008, cyflwynodd y Ddeddf Iechyd Meddwl ddiwygiedig fesurau diogelu ychwanegol yn ymwneud â thriniaeth gymunedol dan oruchwyliaeth a therapi electrogynhyrfol. 

Nid rôl y SOAD yw rhoi ail farn glinigol yn y ffurf feddygol a ddeallir yn gonfensiynol, ond penderfynu a oes modd amddiffyn y driniaeth a argymhellir yn glinigol ac hefyd os oes ystyriaeth ddyladwy wedi cael ei rhoi i farn a hawliau'r claf.

Mae'r Meddyg a Benodwyd i Roi Ail Farn yn seiciatrydd ymgynghorol annibynnol a benodwyd gan AGIC i ymgymryd â'r swyddogaeth statudol hon ar ran Gweinidogion Cymru, a dim ond 'dod' yn SOAD pan gaiff ei benodi i roi ail farn ar unigolyn. AGIC sy'n gyfrifol am benodi SOADs ac am yr Gwasanaeth Adolygu ar gyfer Iechyd Meddwl. 

Gellir cael manylion llawn am y swydd a manylion sut i wneud cais yn y dogfennau isod. 

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 30 Mai 2025