Neidio i'r prif gynnwy

Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd

Sut y byddwn yn cydweithio ac yn rhannu gwybodaeth â'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchiol Gofal Iechyd (MHRA)

Mae'r memorandwm newydd hwn yn amlinellu'r fframwaith ar gyfer cefnogi ein perthynas gydweithio. Rydym yn cytuno ynglŷn â'r ffordd y byddwn yn cydweithio i sicrhau y darperir gwasanaethau o ansawdd da i ddefnyddwyr gwasanaeth, trwy fabwysiadu'r egwyddorion canlynol:

  • mynd i'r afael â gorgyffwrdd a bylchau yn y fframwaith rheoleiddiol a'r cyfrifoldebau;
  • cydweithredu'n agored ac yn dryloyw; a
  • defnyddio adnoddau a gwybodaeth yn effeithiol ac yn effeithlon.

Adolygir y memorandwm hwn gan AGIC a'r MHRA ym mis Ebrill 2020.