Neidio i'r prif gynnwy

Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal

Sut y byddwn yn gweithio a rhannu gwybodaeth gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal

Mae'r memorandwm newydd hwn yn nodi'r fframwaith i gefnogi ein perthynas weithio ar y cyd. Rydym yn cytuno ar sut y byddwn yn gweithio gyda'n gilydd trwy roi'r egwyddorion canlynol ar waith:

  • gwneud penderfyniadau sy'n hyrwyddo gofal iechyd o ansawdd uchel ac sy'n diogelu ac yn hybu iechyd, diogelwch a lles cleifion;
  • parchu statws annibynnol pob sefydliad; 
  • defnyddio adnoddau'n effeithiol ac yn effeithlon.

Nid yw'r memorandwm hwn yn cael ei gyfyngu gan amser a bydd yn parhau i fod yn effeithiol oni bai bod angen newid yr egwyddorion a ddisgrifir ynddo neu eu bod yn peidio â bod yn berthnasol.