Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i'ch cofrestriad

Sut i roi gwybod i ni am newidiadau i'ch practis deintyddol preifat a'ch gwasanaeth gofal iechyd annibynnol

Os ydych wedi eich cofrestru ag AGIC, mae'n rhaid i chi roi gwybod i ni yn ysgrifenedig cyn rhoi newidiadau penodol ar waith, sef: 

  • Newidiadau i'r Datganiad o Ddiben a'r Canllaw i Gleifion/Taflen Wybodaeth i Gleifion
  • Newidiadau i'r person(au) cofrestredig
  • Absenoldeb person cofrestredig
  • Newidiadau i'r sefydliad
  • Newidiadau i'r unigolyn/unigolion cyfrifol
  • Newidiadau i'r gwasanaethau a ddarperir (triniaeth, cyfarpar, ystod oedran)
  • Newidiadau i'r manylion cyswllt (e-bost/ffôn)
  • Newid o ran enw'r Rheolwr Cofrestredig / Unigolyn Cyfrifol
  • Person(au) cofrestredig yn cael ei ddyfarnu'n euog (eu dyfarnu'n euog) o drosedd
  • Penodi datodwyr
  • Marwolaeth person cofrestredig

Mae'r ffurflenni ar gyfer rhai o'r newidiadau uchod ar gael isod. Os nad oes ffurflen ar gael, e-bostiwch agic.cofrestru@llyw.cymru gan ddarparu manylion am y newid a byddwn yn cadarnhau'r camau y bydd angen i chi eu cymryd cyn y gellir rhoi'r newid hwnnw ar waith. 

Sut i ddiddymu cofrestriad â ni

Os hoffech ddiddymu eich cofrestriad ag AGIC, bydd angen i chi anfon ffurflen cais i ddiddymu cofrestriad wedi'i chwblhau atom.

Sut i wneud newidiadau i'ch cofrestriad â ni neu ei amrywio

Os hoffech wneud newidiadau i'ch cofrestriad, bydd angen i chi anfon ffurflen cais i amrywio neu ddiddymu amod cofrestru presennol wedi'i chwblhau yn ogystal ag unrhyw ddogfennaeth ategol, gan gynnwys y Datganiad o Ddiben a'r Canllaw i Gleifion / Taflen Wybodaeth i Gleifion diweddaraf drwy Objective Connect - Os bydd angen i ni greu cyfrif ar eich cyfer, anfonwch e-bost i agic.cofrestru@llyw.cymru.

Mae ein proses ar gyfer asesu ceisiadau i amrywio neu ddiddymu amod cofrestru presennol yn debyg i'r ffordd rydym yn asesu ceisiadau newydd i gofrestru â ni. Pan fydd cais yn cael ei wneud am newidiadau sylweddol, bydd angen i ni ymweld â'r gwasanaeth fel rhan o'n hasesiad.  Unwaith y byddwn wedi asesu'r cais, byddwn yn cadarnhau'r camau nesaf ac yn anfon anfoneb drwy e-bost ar gyfer y ffi sy'n daladwy.

Newidiadau i'r Unigolyn Cyfrifol

Os bydd yr Unigolyn Cyfrifol ar gyfer eich gwasanaeth yn newid, neu wedi newid, bydd angen i chi gwblhau a chyflwyno ffurflen newid gwybodaeth yr Unigolyn Cyfrifol yn ogystal â Datganiad o Ddiben a Chanllaw i Gleifion / Taflen Wybodaeth i Gleifion wedi'u diweddaru drwy Objective Connect - Os bydd angen i ni greu cyfrif ar eich cyfer, anfonwch e-bost i agic.cofrestru@llyw.cymru.

Mae canllawiau ar y broses ar gael.

Newidiadau i'r Rheolwr Cofrestredig

Os yw'r Rheolwr Cofrestredig ar gyfer eich gwasanaeth yn newid, neu wedi newid, bydd angen i'r rheolwr newydd gyflwyno cais wedi'i gwblhau sy'n cynnwys y canlynol:

  • Ffurflen cais i gofrestru fel rheolwr newydd gwasanaeth sydd eisoes wedi'i gofrestru wedi'i chwblhau'n llawn 
  • Datganiad o ddiben wedi'i ddiweddaru
  • Canllaw i Gleifion / Taflen Wybodaeth i Gleifion wedi'u diweddaru
  • Dau eirda personol
  • Copi o dystysgrif geni
  • Tystysgrif fanylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), wedi'i chyhoeddi o fewn y tair blynedd diwethaf (wedi'i chynnal gan AGIC os ydych yn gwneud cais i reoli lleoliad gofal iechyd annibynnol).  Os bydd angen pecyn cais DBS arnoch, byddwn yn ei anfon atoch drwy'r post ar ôl i ni dderbyn eich cais i gofrestru. Gellir dod o hyd i wybodaeth a chanllawiau ar wiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yma
  • Geirda meddygol (nid yw'n berthnasol i'r rhai sy'n gwneud cais i reoli practis deintyddol preifat)

Bydd ein proses ar gyfer asesu ceisiadau i gofrestru rheolwyr gwasanaethau sydd eisoes wedi'u cofrestru â ni yn cynnwys cynnal cyfweliad ‘unigolyn addas’. Byddwn yn cysylltu â chi i drefnu'r cyfweliad hwn ac yn darparu rhagor o wybodaeth ar ôl i ni gymeradwyo eich cais.

Mae canllawiau ar y broses ar gael.

Y gyfraith

Mae Rheoliadau 9 a 12 o Reoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017 a Rheoliadau 10 a 13 o Reoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011 yn disgrifio pwy sy'n gallu bod yn Unigolyn Cyfrifol a gofynion y rôl.

Mae Rheoliadau 11 a 12 o Reoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017 a Rheoliadau 12 a 13 o Reoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011 yn disgrifio'r gofynion ar gyfer rôl rheolwr.

Mae Rheoliadau 7 (b), 10(2), 26, 27, 28, 29 a 30 o Reoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017 yn nodi bod yn rhaid i berson cofrestredig practis deintyddol preifat ein hysbysu yn ysgrifenedig pan fydd newidiadau yn digwydd.

Mae Rheoliadau 8(b), 11(2), 11(3), 14, 32, 33, 34 a 35 o Reoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011 yn nodi bod yn rhaid i berson cofrestredig ysbyty annibynnol, clinig annibynnol neu asiantaeth feddygol annibynnol ein hysbysu yn ysgrifenedig pan fydd newidiadau yn digwydd.

Dogfennau