Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion

18 Mai 2021

Rydym wedi cyhoeddi ein hadolygiad ar y cyd ag Archwilio Cymru o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, yn dilyn argymhellion a wnaed ym mis Tachwedd 2019.

23 Ebr 2021

Bydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn gwneud rhagor o waith sicrwydd rheolaidd ar y safle o 26 Ebrill ymlaen.

8 Ebr 2021

Rydym wedi cyhoeddi ein cynllun strategol a gweithredol ar gyfer 2021-2022.

24 Maw 2021

Ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) Cymru, rydym wedi cyhoeddi’r adroddiad blynyddol o ddefnyddio Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS) yng Nghymru

8 Maw 2021

Mae Gillian Baranski, Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru ac Alun Jones, Prif Weithredwr Dros Dro Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn galw ar bob aelod o staff sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru i "godi llais" am y gofal rhagorol sy'n cael ei roi, ond hefyd am unrhyw ofal nad yw'n cyrraedd y safon ofynnol.

1 Maw 2021

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn bwriadu ymgymryd â gwaith sicrwydd er mwyn ystyried trefniadau byrddau iechyd ar gyfer rhoi strategaeth frechu COVID-19 ar waith.

26 Chwef 2021

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi ailddechrau gwaith arferol sy'n gysylltiedig â'n gwiriadau ansawdd a'n gweithgarwch arolygu diwygiedig yn y GIG.

20 Ion 2021

Mae Bwletin Arsylwi ar Ansawdd, sy’n gynnyrch newydd i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, sy’n nodi'r themâu cadarnhaol, arferion da a risgiau sy'n dod i'r amlwg yn ystod pandemig COVID-19 o Wiriadau Ansawdd a gwaith eraill.

21 Rhag 2020

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi penderfynu gohirio gwaith newydd, rheolaidd sy’n gysylltiedig â'n gweithgarwch gwirio ac arolygu ansawdd diwygiedig yn y GIG o 20 Rhagfyr tan diwedd mis Ionawr o leiaf. Byddwn yn adolygu ein penderfyniad bryd hynny.

18 Rhag 2020

Heddiw [18 Rhagfyr] mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi canfyddiadau arolygiadau o ddau ysbyty maes, sef y tro cyntaf iddi arolygu lleoliadau o'r fath