Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol i'r safle weithio. Defnyddir cwcis nad ydynt yn hanfodol hefyd i deilwra a gwella gwasanaethau. Trwy barhau i ddefnyddio'r safle, rydych yn cytuno ein bod ni'n defnyddio cwcis.
Mae'r Mecanwaith Ataliol Cenedlaethol wedi cyhoeddi ei 14eg adroddiad blynyddol ar gyfer Mecanwaith Ataliol Cenedlaethol y Deyrnas Unedig 2022/23, y mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn gorff dynodedig i'r sefydliad hwn.
Mae'r adroddiad yn nodi ein gweithgareddau sicrwydd a'n canfyddiadau yn ystod y cyfnod o fis Ebrill 2022 i fis Mawrth 2023, ac mae'n ystyried y safonau gofal a ddarparwyd gan wasanaethau gofal iechyd meddwl ac anableddau dysgu ledled Cymru yn ystod y cyfnod hwn.
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (26 Ionawr) yn dilyn arolygiad o Ysbyty Annibynnol New Hall, a gaiff ei reoli gan Mental Health Care UK yn Wrecsam. Mae'r ysbyty yn darparu gofal arbenigol ar gyfer hyd at 10 claf rhwng 18 a 64 oed, sydd wedi cael diagnosis o anableddau dysgu ac anhwylderau meddyliol.
Heddiw, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad, yn dilyn arolygiad o Ganolfan Geni Tirion yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant, a gaiff ei redeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Yn dilyn ymchwiliad troseddol diweddar, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi defnyddio ei bwerau cyfreithiol o ganlyniad i dorri Deddf Safonau Gofal 2000.
Heddiw, 6 Rhagfyr, mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2022-2023. Mae'r adroddiad yn crynhoi ein holl weithgarwch, gan gynnwys yr arolygiad o wasanaethau'r GIG a gwasanaethau gofal iechyd annibynnol.
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (23 Tachwedd 2023) yn nodi'r angen am welliannau ar unwaith yn yr Adran Achosion Brys yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd.
Mae eich gwybodaeth yn ein helpu i benderfynu pryd i arolygu, lle i arolygu a beth i'w arolygu. Gadewch i ni wella gofal iechyd gyda'n gilydd. Rhoi adborth