'Nid oeddwn yn meddwl y byddai'n digwydd i mi, ond fe wnaeth!'
Er mwyn cefnogi Diwrnod Sepsis y Byd, mae ein Dirprwy Brif Weithredwr Alun Jones yn rhannu ei stori fel rhywun sydd wedi goroesi sepsis
Beth yw Sepsis?
Mae sepsis yn gymhlethdod difrifol sy'n gysylltiedig â haint. Heb driniaeth gyflym, gall sepsis achosi i nifer o'r organau fethu ac arwain at farwolaeth. Gall unrhyw un ddatblygu sepsis ar ôl anaf neu haint annifrifol, er bod rhai pobl yn fwy tebygol o'i ddatblygu. Mae o leiaf 46,000 o bobl yn marw bob blwyddyn o ganlyniad i'r cyflwr.
Darllenwch stori Alun:
Mae'r rhan fwyaf o bobl wedi clywed am sepsis ac yn gwybod ei fod yn salwch difrifol sy'n bygwth bywyd. Fel y rhan fwyaf o bobl, nid oeddwn yn meddwl bod sepsis yn rhywbeth y byddai byth yn rhaid i mi boeni amdano. Hyd yn oed nawr, mae'n syndod i mi orfod ysgrifennu geiriau fel 'Cefais fy nhrin am sepsis' ac 'Rwy'n ffodus fy mod yma i adrodd yr hanes'. Wrth ystyried fy mhrofiad, mae dau beth yn fy nharo. Yn gyntaf, pa mor gyflym y dirywiodd fy iechyd ac yn ail na ddywedodd unrhyw un wrthyf fy mod yn dioddef o sepsis - does dim ots beth yw enw'r cyflwr, y flaenoriaeth yw eich llenwi â gwrthfiotigau cyn gynted â phosibl! Gan ei bod yn Ddiwrnod Sepsis y Byd, penderfynais rannu fy mhrofiad yn y gobaith y bydd yn codi ychydig mwy o ymwybyddiaeth ac yn annog pobl i gymryd eu hiechyd o ddifrif ac i weithredu'n gyflym.
Yn gynharach eleni, roeddwn yn mwynhau penwythnnos hyfryd i ffwrdd pan hiciais fy mys â chyllell finiog wrth baratoi brecwast wedi'i goginio (o ystyried, gallaf gadarnhau nad yw bwydydd wedi'u ffrïo o fudd i'ch iechyd!) Roedd y marc ar fy mys tua maint pigyn fforc ac a dweud y gwir, prin y byddech wedi sylwi arno. Golchais fy mys a rhoi plaster arno, gan feddwl o bosibl nad oedd angen gwneud hynny hyd yn oed. Ni feddyliais am y bys eto tan 48 awr yn ddiweddarach, ar fore dydd Llun, pan ddechreuodd fy mys blycio ychydig. Rhoddais eli antiseptig a phlaster arall arno a bant â fi i'r gwaith. Erbyn diwedd y bore, roedd wedi gwaethygu felly es i'r uned mân anafiadau leol i gael cyngor. Gwnaethant nodi bod y gwythiennau ar gefn fy llaw wedi 'cochi rhywfaint' ac y dylwn gadw llygad arnynt. Er mwyn helpu, gwnaethant ddefnyddio marciwr ar fy llaw i ddangos lleoliad y cochni, gan nodi pe byddai'n mynd yn uwch ar hyd fy mraich neu pe byddwn yn teimlo'n boeth neu'n oer y dylwn fynd i'r uned damweiniau ac achosion brys. Dychwelais i'r gwaith â chyffuriau gwrthfiotig, gan feddwl y byddent yn dechrau gweithio cyn i mi fynd adref ac y byddwn yn dechrau gwella. Erbyn tua 4pm y diwrnod hwnnw, dyma fi'n gwegian i mewn i'r adran damweiniau ac achosion brys, yn newid rhwng cryd a chrynu, yn teimlo fel petawn am wneud dim byd ond cysgu. Rwy'n siŵr pe na byddwn wedi penderfynu mynd i'r adran damweiniau ac achosion brys bryd hynny, byddwn wedi gorfod mynd mewn ambiwlans!
Roedd tua 25 o bobl yn aros yn fy adran damweiniau ac achosion brys lleol. Eisteddais am lai na munud cyn i rywun ofyn i mi fynd i'r ardal drin. Gan wybod rhywfaint am drefniadau brysbennu, rhoddodd hyn dawelwch meddwl i mi ond cododd ychydig o ofn arnaf hefyd. O fewn tua 10 munud o gyrraedd yr adran damweiniau ac achosion brys, roeddwn ar driniaeth gwrthfiotigau a pharasetamol drwy'r gwythiennau. Roedd fy nhymheredd drwy'r to felly rhoddwyd gwyntyll wrth fy ymyl er mwyn helpu i'm hoeri. Yn ddiweddarach y noson honno, cefais fy nerbyn i ward ac o'r diwedd, dychwelais adref ar y dydd Iau. Yn sicr, dyna'r daith gymudo hiraf adref a gefais erioed! Yn ystod y cyfnod hwn, cefais fy nhrin â thri gwahanol fath o wrthfiotig drwy ddiferiad a oedd fwy neu lai'n gyson drwy'r gwythiennau. Parhaodd y cyffuriau am wythnos arall ar ôl i mi gael fy rhyddhau o'r ysbyty a bu'n rhaid i mi gymryd cyfanswm o bythefnos i ffwrdd o'r gwaith. Bûm yn teimlo'n sâl am o leiaf fis wedi hynny, yn bennaf o ganlyniad i'r gwrthfiotigau cryf.
Yn ôl Ymddiriedolaeth Sepsis y DU, ceir tua 250,000 o achosion o sepsis bob blwyddyn. Rwyf wedi rhannu fy mhrofiad oherwydd er fy mod wedi cael cyfnod o ychydig ddiwrnodau anodd a brawychus, roedd y canlyniad yn gadarnhaol ac rwy'n teimlo'n ffodus iawn fy mod wedi dod drwyddi. Gallai'r canlyniad fod wedi bod mor wahanol pe na byddwn wedi mynd i'r adran damweiniau ac achosion brys yn ddigon cynnar. Nid wyf am feddwl beth fyddai wedi digwydd pe byddwn wedi dilyn fy nghynllun gwreiddiol am y diwrnod, sef mynd adref a dioddef y gwaethaf! Os oes gennych unrhyw bryderon, dylech gael sylw meddygol cyn gynted â phosibl.
Ceir rhagor o wybodaeth am achosion a symptomau Sepsis a'r driniaeth ar ei gyfer ar wefan Galw Iechyd Cymru.