Neidio i'r prif gynnwy

Partneriaeth gymdeithasol

Fel rhan o Lywodraeth Cymru sy’n gweithredu’n annibynnol, o fewn Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:

  • PCS
  • Prospect
  • FDA

Mae cytundeb partneriaeth rhwng yr undebau a Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys AGIC, yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:

  • cyflog
  • telerau ac amodau
  • polisïau a gweithdrefnau
  • newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Mae ein staff ni’n cael eu hannog i gymryd rhan ac yn eu cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed yn y gweithle. Maent hefyd yn cael eu hannog i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.