Neidio i'r prif gynnwy

Rhoi gwybod am Ddigwyddiadau yn ymwneud â Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Amlygiad Meddygol)

Mae'n rhaid i gyflogwyr roi gwybod i ni am amlygiadau damweiniol neu anfwriadol y bernir eu bod yn 'sylweddol' neu'n 'arwyddocaol yn glinigol'.

Mae Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Amlygiad Meddygol) 2017 wedi'u cynllunio i amddiffyn pobl wrth iddynt gael eu harchwilio a chael triniaeth gan ddefnyddio ymbelydredd ïoneiddio.

Pan geir amlygiad damweiniol neu anfwriadol i ymbelydredd ïoneiddio, ac mae'r cyflogwr IR(ME)R yn gwybod neu'n meddwl ei fod yn sylweddol, mae'n rhaid iddo ymchwilio i'r digwyddiad a rhoi gwybod amdano i awdurdod gorfodi IR(ME)R priodol y DU (o dan Reoliad 8(4)).

Mae canllawiau ar gael i'w lawrlwytho ar waelod y dudalen hon sy'n dweud wrthych pa ddigwyddiadau y mae angen i chi roi gwybod amdanynt. Mae'r rhain yn disodli'r canllawiau blaenorol ar ymchwilio i amlygiadau meddygol sy'n llawer mwy na'r hyn a fwriadwyd (MGTI) a rhoi gwybod amdanynt o dan Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Amlygiad Meddygol) 2000, ac mae awdurdodau gorfodi Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi cytuno arnynt ar y cyd.

Rhoi gwybod am IR(ME)R

Mae'r ffurflen ar gyfer rhoi gwybod am ddigwyddiadau IR(ME)R ar gael i'w lawrlwytho ar waelod y dudalen ac mae'n cynnwys canllawiau ar y gwahanol ffyrdd y gellir cyflwyno'r ffurflen.

Beth nesaf?

Ar ôl i chi gyflwyno'r ffurflen, byddwn yn anfon e-bost atoch yn cynnwys rhif cyfeirnod ar gyfer eich hysbysiad IR(ME)R. Defnyddiwch y rhif cyfeirnod hwn pan fyddwch yn cysylltu â ni.

Pan fyddwch wedi cwblhau adroddiad ar yr ymchwiliad, anfonwch ef i AGIC yn yr un modd ag y gwnaethoch gyflwyno'r ffurflen digwyddiad wreiddiol, o fewn yr amserlen a nodir yn y canllawiau. Mae'n rhaid i'r adroddiad gael ei anonymeiddio ac ni ddylai gynnwys gwybodaeth y gellir ei defnyddio i adnabod cleifion yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data. 

Sut y mae AGIC yn prosesu hysbysiadau

Rydym yn gwneud y canlynol:

  1. cynnal proses brysbennu risg gychwynnol a chydnabod yr hysbysiad
  2. darllen yr adroddiad llawn
  3. mynd ar drywydd yr hysbysiad drwy ohebiaeth ar ffurf e-bost neu ymweliad â'r safle
  4. cau'r hysbysiad dros dro drwy e-bost
  5. e-bostio eich Prif Swyddog Gweithredol i gadarnhau bod yr hysbysiad wedi cau
  6. categoreiddio'r digwyddiad at ddibenion adrodd mewnol
  7. cyhoeddi'r prif ganfyddiadau yn ein hadroddiad blynyddol