Neidio i'r prif gynnwy

Rydym wedi cyhoeddi ein Cynllun Gweithredol

Dysgwch am ein blaenoriaethau a chamau gweithredu ar gyfer 2022-2023

Cynllun Gweithredol 2022-2023

Rydym wedi lansio ein Cynllun Gweithredol ar gyfer 2022-2023 heddiw (23 Mehefin 2022). Mae'r cynllun yn amlinellu'r camau rydym yn bwriadu eu cymryd i gyflawni ein blaenoriaethau newydd, a welir yn ein Cynllun Strategol 2022-2025.

Y rhain yw’r canlynol:

  1. Byddwn yn canolbwyntio ar ansawdd y gofal iechyd a ddarperir i bobl a chymunedau wrth iddynt gyrchu a defnyddio gwasanaethau a symud rhyngddynt
  2. Byddwn yn addasu ein dull gweithredu i sicrhau ein bod yn ymatebol i risgiau i ddiogelwch cleifion sy'n dod i'r amlwg
  3. Byddwn yn cydweithio er mwyn ysgogi'r gwaith o wella systemau a gwasanaethau ym maes gofal iechyd
  4. Byddwn yn cefnogi ac yn datblygu ein gweithlu i'w galluogi nhw, a'r sefydliad, i gyflawni ein blaenoriaethau

Eleni, ein nod yw canolbwyntio ar ysgogi a chryfhau ymgysylltiad, gwella a moderneiddio ein ffyrdd o weithio, a deall ein cymunedau yn well mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Rydym wedi amlinellu rhaglen waith amrywiol ar gyfer y flwyddyn ac rydym yn croesawu unrhyw adborth, felly cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw sylwadau ar ein gwaith neu os hoffech roi adborth ar wasanaethau gofal iechyd yng Nghymru.