Neidio i'r prif gynnwy

Rydym wedi cyhoeddi ein Cynllun Gweithredol

Dewch i wybod am ein blaenoriaethau a'n camau gweithredu ar gyfer 2024-2025

Cynllun Gweithredol 2024-2025

 

Heddiw (25 Ebrill 2024), rydym wedi lansio ein Cynllun Gweithredol 2024-2025. 

Mae'r Cynllun Gweithredol hwn yn amlinellu'r blaenoriaethau a'r camau gweithredu rydym wedi eu gosod i ni ein hunain i gefnogi'r broses o gyflawni ein gwaith, wrth i ni fwrw at drydedd flwyddyn, a blwyddyn olaf, ein Cynllun Strategol

Mae ein hamcanion yn parhau i fod yn uchelgeisiol a thrwyddynt, ein nod yw gwneud gwahaniaeth i bobl Cymru drwy helpu i gymell gwelliannau i ofal iechyd. 

Mae'r cynllun hwn yn amlinellu'r ffordd y byddwn yn ceisio cyflawni ein hamcanion strategol:

  1. Byddwn yn canolbwyntio ar ansawdd y gofal iechyd a ddarperir i bobl a chymunedau wrth iddynt gyrchu gwasanaethau, eu defnyddio a symud rhyngddynt.
  2. Byddwn yn addasu ein dull gweithredu i sicrhau ein bod yn ymatebol i risgiau i ddiogelwch cleifion sy'n dod i'r amlwg
  3. Byddwn yn cydweithio er mwyn ysgogi'r gwaith o wella systemau a gwasanaethau ym maes gofal iechyd
  4. Byddwn yn cefnogi ac yn datblygu ein gweithlu i'w galluogi nhw, a'r sefydliad, i gyflawni ein blaenoriaethau.

Mae ein gwaith arolygu a sicrwydd ar gyfer y flwyddyn nesaf wedi'i gynllunio i sicrhau ein bod yn cyflawni ein rolau statudol mewn perthynas â Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Cysylltiad Meddygol) y Ddeddf Iechyd Meddwl a gofal iechyd annibynnol. Bydd ein gwaith ar arolygu a sicrwydd y GIG yn canolbwyntio'n bennaf ar y meysydd risg mwyaf sylweddol. Bydd hyn yn ein galluogi i barhau i gyflawni ein gweithgarwch craidd, gan gynnwys i adolygu argymhellion blaenorol, a'r gallu i ymateb i wybodaeth sy'n dod i'r amlwg.

Mae'r cynllun eleni yn adeiladu ar ein datblygiadau trwy ddysgu rhagweithiol a thrwy wrando'n ofalus ar adborth ar sut rydym yn cyflawni ein gwaith. Mae pobl wrth wraidd yr hyn rydym yn ei wneud, ac mae'n bwysig ein bod yn ymdrechu i rannu'r hyn a ddysgwn, i fyfyrio ar yr hyn sydd wedi gweithio'n dda ac i roi'r hyn rydym wedi'i ddysgu ar waith er mwyn parhau i wella.

Byddwn yn parhau i gryfhau ein hymgysylltiad trwy foderneiddio ein ffyrdd o weithio a gwella ein heffeithlonrwydd. Trwy'r cynllun hwn, bwriadwn ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, er mwyn ein helpu i asesu ansawdd a hygyrchedd gofal iechyd i bawb ledled Cymru.

Dywedodd Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Alun Jones:

Mae ein rôl o ran cadarnhau a yw safonau yn cael eu cyrraedd yn y sector gofal iechyd bob amser yn bwysig, a byddwn yn parhau i weithio mewn ffordd gytbwys yn seiliedig ar risgiau yn ystod y flwyddyn nesaf. Rydym yn cydnabod y galwadau a'r heriau y mae gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru yn eu hwynebu ac mae ein nod o lywio gwelliannau ym maes gofal iechyd yn bwysicach nag erioed. 

Byddwn yn parhau i amlygu meysydd pryder trwy ein harolygiad a gwaith sicrwydd er mwyn hyrwyddo canfyddiadau a themâu allweddol. Ein nod yw darparu gwasanaethau gofal iechyd gyda'r ddealltwriaeth sydd ei hangen arnynt i fesur eu gwaith cyflawni a gwella eu hunain.