Rydym wedi cyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol ar Fonitro Iechyd Meddwl 2023-24
Rydym wedi cyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol ar Fonitro Iechyd Meddwl 2023-24, sy'n amlinellu ein gweithgareddau sicrwydd a'n canfyddiadau ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu. Mae monitro Deddf Iechyd Meddwl 1983 yn gyfrifoldeb statudol sydd wedi'i ddirprwyo i AGIC ers 1 Ebrill 2009 gan Weinidogion Cymru, pan gafodd y cyfrifoldeb dros fonitro swyddogaethau'r Ddeddf ei drosglwyddo o Gomisiwn y Ddeddf Iechyd Meddwl. Mae'r adroddiad yn ystyried safon y gofal mewn lleoliadau annibynnol a lleoliadau'r GIG ledled Cymru rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024.

Yn ystod ein hymweliadau arolygu yn 2023-24, gwnaethom ganolbwyntio ar sawl maes allweddol, gan gynnwys:
- Ystyried a oedd asesiadau risg a chynlluniau gofal yn cael eu cwblhau'n briodol er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael gofal diogel ac effeithiol.
- Ystyried a oedd cleifion yn cael gwybod am eu hawliau ac a oeddent yn deall arwyddocâd eu gofal a'u triniaeth.
- Ystyried a oedd gweithgareddau therapiwtig ac ystyrlon ar gael i gleifion, ac a oedd gofal yn cael ei roi iddynt mewn modd parchus ac urddasol.
Er gwaethaf rhai datblygiadau cadarnhaol, mae gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu yn parhau i wynebu heriau sylweddol. Mae prinder staff a chynnydd parhaus yn y galw am wasanaethau yn effeithio ar ganlyniadau cleifion. Nododd ein gwaith fod byrddau iechyd a darparwyr annibynnol o dan bwysau parhaus i ddiwallu anghenion amrywiol cleifion agored i niwed.
Er bod yr adroddiad yn cydnabod meysydd o arfer da, ceir meysydd critigol y mae angen eu gwella'n sylweddol. Mae amrywiaeth o ran y gwasanaethau a ddarperir yn bryder o hyd, a rhaid i ddarparwyr gofal iechyd gymryd camau brys i fynd i'r afael â'r materion parhaus hyn.
Mae adborth gan gleifion a theuluoedd yn parhau i gyfeirio at broffesiynoldeb a thosturi aelodau o staff. Roedd llawer ohonynt yn canmol y staff am eu ffordd ragweithiol ac effeithiol o sicrhau bod cleifion yn deall eu gofal a'u triniaeth yn llawn. Fodd bynnag, mae llawer o feysydd sy'n peri pryder y mae angen gweithredu yn eu cylch ar unwaith:
- Heriau o ran y gweithlu, yn enwedig mewn perthynas â recriwtio a chadw staff.
- Rheoli meddyginiaethau, gyda materion parhaus o ran storio, rhoi ac archwilio meddyginiaethau.
- Y trefniadau ar gyfer arsylwi ar gleifion, gan gynnwys hyfforddi staff, cofnodion aneffeithiol ac oedi wrth adolygu polisïau a gweithdrefnau.
- Argaeledd gwybodaeth am gleifion – nid oedd gan rai gwasanaethau fanylion hollbwysig am gleifion mewn perthynas â phynciau allweddol.
- Asesiadau risg a dogfennaeth cynllunio gofal, gydag asesiadau anghyflawn ac oedi wrth gynnal adolygiadau.
- Yr amgylchedd gofal, gan gynnwys diffyg archwiliadau a threfniadau ar gyfer rheoli risgiau amgylcheddol, fel risgiau clymu.
- Trefniadau llywodraethu, gyda phrosesau goruchwylio ac archwiliadau annigonol mewn perthynas â meysydd allweddol, gan gynnwys hyfforddi staff a chydymffurfiaeth.
Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, gwnaethom gynnal 26 o arolygiadau safle ar draws lleoliadau gofal iechyd y GIG a lleoliadau gofal iechyd annibynnol. Gwnaethom hefyd ymweld ag un Tîm Anableddau Dysgu Cymunedol ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac un Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol.
At hynny, gwnaethom adolygu 199 o gwynion a phryderon a oedd yn ymwneud â gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, a oedd yn fwy na'r flwyddyn flaenorol. Cafwyd cynnydd yn nifer y ceisiadau am ymweliadau gan Feddygon a Benodwyd i Roi Ail Farn hefyd, gyda 733 o geisiadau a oedd yn ymwneud yn bennaf ag ardystio meddyginiaeth.
Dywedodd y Prif Weithredwr Alun Jones:
"Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd ymdrechion parhaus i wella gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu ledled Cymru. Er ein bod yn cydnabod yr adborth cadarnhaol gan gleifion a'u teuluoedd, rydym yn ymwybodol iawn o'r heriau cymhleth parhaus sy'n effeithio ar ofal cleifion. Rydym yn ymrwymedig i lywio gwelliannau er mwyn gwella diogelwch ac effeithiolrwydd gwasanaethau, gan helpu darparwyr i ddiwallu anghenion pob claf drwy roi gofal tosturiol o ansawdd uchel."