Neidio i'r prif gynnwy

Sioe Iechyd Meddwl a Llesiant 2025

Mae'n bleser gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru fynd ag arddangosfa i'r Sioe Iechyd Meddwl a Llesiant ar 16 Mai yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae'r Sioe Iechyd Meddwl a Llesiant yn ddigwyddiad undydd ysgogol ac ysbrydoledig sy'n cynnwys arddangoswyr, siaradwyr ac arbenigwyr sy'n hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant cadarnhaol.

Mae'r sioe yn cydnabod ac yn dathlu heriau, llwyddiannau, a datblygiadau arloesol y mae'n rhaid i bobl â salwch meddwl ddelio â nhw yn ddyddiol ac yn rhannu'r dulliau gorau ar gyfer adfer. 

Mae'r digwyddiad yn agored i weithwyr proffesiynol sy'n gweithio ym meysydd iechyd meddwl, llesiant neu ofal iechyd, yn ogystal â'r cyhoedd. Byddem wrth ein bodd yn eich gweld – dewch i ddweud helo!